Tafarn y Mount Pleasant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Codwyd tafarn newydd gerllaw, sef [[Tafarn y Blue Lion]] a stopiwyd cadw tafarn yn adeilad y Mount Pleasant, a ddefnyddid bellach fel ffermdy yn unig nes ei droi'n ficerdyu. Roedd yn adeilad newydd yn un hynod; y tu mewn yn y bar roedd ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi'r argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn rywbryd ar ôl 1840<ref>Mae'r dafarn yn cael ei dangos yn ei hen leoliad ar y Map Degwm</ref>. Arferid yr enw Blue Lion ar gyfer yr adeilad newydd nes i'r ficerdy symud i hen adeilad Mount Pleasant, pan drosglwyddwyd yr enw i'r Blue Lion yn ôl pob tebyg. Yn sicr, roedd y Blue Lion wedi ei hail-enwi tua'r adeg y digwyddodd hynny.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1881</ref> | Codwyd tafarn newydd gerllaw, sef [[Tafarn y Blue Lion]] a stopiwyd cadw tafarn yn adeilad y Mount Pleasant, a ddefnyddid bellach fel ffermdy yn unig nes ei droi'n ficerdyu. Roedd yn adeilad newydd yn un hynod; y tu mewn yn y bar roedd ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi'r argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn rywbryd ar ôl 1840<ref>Mae'r dafarn yn cael ei dangos yn ei hen leoliad ar y Map Degwm</ref>. Arferid yr enw Blue Lion ar gyfer yr adeilad newydd nes i'r ficerdy symud i hen adeilad Mount Pleasant, pan drosglwyddwyd yr enw i'r Blue Lion yn ôl pob tebyg. Yn sicr, roedd y Blue Lion wedi ei hail-enwi tua'r adeg y digwyddodd hynny.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1881</ref> | ||
Yr oedd ffermwr y Mount Pleasant a thafarnwr y Blue Lion, dyn o'r enw William Williams, yn cadw'r dafarn tua | Yr oedd ffermwr y Mount Pleasant a thafarnwr y Blue Lion, dyn o'r enw William Williams, yn cadw'r dafarn tua 1834-c.1854<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/6564</ref>. Priododd Anne Williams o'r [[Bontnewydd]], 22 Hydref 1834.<ref>''North Wales Chronicle'', 28.10.1834, t.2</ref>Roedd am ymestyn ei fusnes trwy rentu tai eraill a'u gosod fel tai tafarn yn yr ardal.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/18129, 18354</ref> Yno hefyd y cynhelid arwerthiannau anifeiliaid, mor ddiweddar â 1914.<ref>''Herald Cymraeg'', 31.3.1914</ref> | ||
Rhwng 1881 a 1911 os nad wedyn, tafarnwr y Mount Pleasant oedd Owen Jones, gŵr o Fodffordd a aned tua 1844. Rhannodd ei waith rhwng cadw'r dafarn a ffermio.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1881-1911</ref> | Rhwng 1881 a 1911 os nad wedyn, tafarnwr y Mount Pleasant oedd Owen Jones, gŵr o Fodffordd a aned tua 1844. Rhannodd ei waith rhwng cadw'r dafarn a ffermio.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1881-1911</ref> |
Fersiwn yn ôl 16:08, 11 Mawrth 2025
Roedd hen dafarn y Mount Pleasant yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ar gornel y ffordd sy'n rhedeg o'r briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli i gyfeiriad Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda. Roedd yn cael ei redeg fel rhan o fferm o'r un enw, a oedd yn eiddo i Ystad y Faenol adeg y Map Degwm, 1840. Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring". Mae'n debyg i'r dafarn gael ei defnyddio'n fynych fel canolfan i'r plwyf: er enghraifft, trefnwyd cyfarfodydd i gasglu'r arian degwm yno ym 1843.[1]. Mae'r lloc, neu gae pori bychan i anifeiliaid, gyferbyn â'r hen adeilad yn dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth. Ar y Map Degwm (1840), dangosir fod nifer o gaeau'n perthyn i'r lle, yn cynnwys yr un ar draws y ffordd i'r hen dafarn, a'r cae lle codwyd yr adeilad newydd ymhen amser.
Codwyd tafarn newydd gerllaw, sef Tafarn y Blue Lion a stopiwyd cadw tafarn yn adeilad y Mount Pleasant, a ddefnyddid bellach fel ffermdy yn unig nes ei droi'n ficerdyu. Roedd yn adeilad newydd yn un hynod; y tu mewn yn y bar roedd ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi'r argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn rywbryd ar ôl 1840[2]. Arferid yr enw Blue Lion ar gyfer yr adeilad newydd nes i'r ficerdy symud i hen adeilad Mount Pleasant, pan drosglwyddwyd yr enw i'r Blue Lion yn ôl pob tebyg. Yn sicr, roedd y Blue Lion wedi ei hail-enwi tua'r adeg y digwyddodd hynny.[3]
Yr oedd ffermwr y Mount Pleasant a thafarnwr y Blue Lion, dyn o'r enw William Williams, yn cadw'r dafarn tua 1834-c.1854[4]. Priododd Anne Williams o'r Bontnewydd, 22 Hydref 1834.[5]Roedd am ymestyn ei fusnes trwy rentu tai eraill a'u gosod fel tai tafarn yn yr ardal.[6] Yno hefyd y cynhelid arwerthiannau anifeiliaid, mor ddiweddar â 1914.[7]
Rhwng 1881 a 1911 os nad wedyn, tafarnwr y Mount Pleasant oedd Owen Jones, gŵr o Fodffordd a aned tua 1844. Rhannodd ei waith rhwng cadw'r dafarn a ffermio.[8]
Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drodd yr adeilad yn fwyty Bangali. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan y perchnogion newydd a chollwyd yr holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwyty tua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2020) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/20308
- ↑ Mae'r dafarn yn cael ei dangos yn ei hen leoliad ar y Map Degwm
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1841-1881
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/6564
- ↑ North Wales Chronicle, 28.10.1834, t.2
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/18129, 18354
- ↑ Herald Cymraeg, 31.3.1914
- ↑ Cyfrifiadau plwyf Llanwnda, 1881-1911