John Jones (Vulcan): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dechrau tudalen newydd gyda "Gweinidog gyda'r Wesleaid, bardd ac awdur oedd '''John Jones (Vulcan)''' (1825-1889). Fe'i ganed yn Llandwrog ar Ddydd San Steffan (26 Rhagfyr) 1825. Roedd ei dad, Richard Jones, yn fardd gwlad ac yn arddel yr enw barddol 'Callestr Fardd'. Ymunodd y tad a'r mab â'r Cymreigyddion lleol ac â'r achos Wesleaidd yn Bethesda Bach. Ychydig o addysg gynnar a gafodd John Jones, ond diwylliodd ei hun i raddau helaeth a chafodd dymor o addysg yn y Coleg Normal y..." |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Gweinidog gyda'r Wesleaid, bardd ac awdur oedd '''John Jones (Vulcan)''' (1825-1889). Fe'i ganed yn [[Llandwrog]] ar Ddydd San Steffan (26 Rhagfyr) 1825. Roedd ei dad, Richard Jones, yn fardd gwlad ac yn arddel yr enw barddol 'Callestr Fardd'. Ymunodd y tad a'r mab â'r Cymreigyddion lleol ac â'r achos Wesleaidd | Gweinidog gyda'r Wesleaid, bardd ac awdur oedd '''John Jones (Vulcan)''' (1825-1889). Fe'i ganed yn [[Llandwrog]] ar Ddydd San Steffan (26 Rhagfyr) 1825. Roedd ei dad, Richard Jones, yn fardd gwlad ac yn arddel yr enw barddol 'Callestr Fardd'. Ymunodd y tad a'r mab â'r Cymreigyddion lleol ac â'r achos Wesleaidd ym Methesda. Ychydig o addysg gynnar a gafodd John Jones, ond diwylliodd ei hun i raddau helaeth a chafodd dymor o addysg yn y Coleg Normal yn Abertawe. Ar ôl iddo ddechrau pregethu yng Nghorris a chael ei ordeinio'n weinidog gyda'r Wesleaid bu'n gweinidogaethu mewn sawl cylchdaith Wesleaidd yng ngogledd a chanolbarth Cymru ac yn Lerpwl. Ymddeolodd ym 1887 a bu farw ar 17 Rhagfyr 1889. | ||
Ymddiddorai mewn barddoniaeth, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth, ond athroniaeth a diwinyddiaeth oedd ei hoff feysydd ac ysgrifennodd lawer ar y pynciau hyn i gyfnodolion ei gyfnod. Yn ogystal cyhoeddodd rai cyfrolau, megis ''Traethawd ar Resymeg'' 1857 a ''Penarglwyddiaeth Duw'' 1873. Bu'n olygydd y cyfnodolyn ''Y Winllan'' 1870-73 a bu ar fwrdd golygyddol ''Y Gwyliedydd''.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', t.454. Erthygl gan Griffith Thomas Roberts.</ref> | Ymddiddorai mewn barddoniaeth, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth, ond athroniaeth a diwinyddiaeth oedd ei hoff feysydd ac ysgrifennodd lawer ar y pynciau hyn i gyfnodolion ei gyfnod. Yn ogystal cyhoeddodd rai cyfrolau, megis ''Traethawd ar Resymeg'' 1857 a ''Penarglwyddiaeth Duw'' 1873. Bu'n olygydd y cyfnodolyn ''Y Winllan'' 1870-73 a bu ar fwrdd golygyddol ''Y Gwyliedydd''.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'', t.454. Erthygl gan Griffith Thomas Roberts.</ref> | ||
Cymerodd John Jones enw urddasol iawn fel enw barddol/llenyddol, sef Vulcan, duw tân y Rhufeiniaid. Ym mytholeg Rhufain roedd Vulcan yn curo haearn ar ei engan yn dragwyddol gan greu cawodydd o wreichion ac fe'i hanfarwolwyd mewn darluniau gan rai o arlunwyr mawr y byd, megis Tintoretto a Velázquez. Tybed beth a barodd i John Jones o Landwrog gymryd (neu gael) y fath enw. Tybed a all rhywun o ddarllenwyr Cof y Cwmwd daflu goleuni (neu wreichion) ar hyn? | Cymerodd John Jones enw urddasol iawn fel enw barddol/llenyddol, sef Vulcan, duw tân y Rhufeiniaid. Ym mytholeg Rhufain roedd Vulcan yn curo haearn ar ei engan yn dragwyddol gan greu cawodydd o wreichion ac fe'i hanfarwolwyd mewn darluniau gan rai o arlunwyr mawr y byd, megis Tintoretto a Velázquez. Tybed beth a barodd i John Jones o Landwrog gymryd (neu gael) y fath enw. Tybed a all rhywun o ddarllenwyr Cof y Cwmwd daflu goleuni (neu wreichion) ar hyn? | ||
== Cyfeiriadau == |
Fersiwn yn ôl 17:22, 6 Mawrth 2025
Gweinidog gyda'r Wesleaid, bardd ac awdur oedd John Jones (Vulcan) (1825-1889). Fe'i ganed yn Llandwrog ar Ddydd San Steffan (26 Rhagfyr) 1825. Roedd ei dad, Richard Jones, yn fardd gwlad ac yn arddel yr enw barddol 'Callestr Fardd'. Ymunodd y tad a'r mab â'r Cymreigyddion lleol ac â'r achos Wesleaidd ym Methesda. Ychydig o addysg gynnar a gafodd John Jones, ond diwylliodd ei hun i raddau helaeth a chafodd dymor o addysg yn y Coleg Normal yn Abertawe. Ar ôl iddo ddechrau pregethu yng Nghorris a chael ei ordeinio'n weinidog gyda'r Wesleaid bu'n gweinidogaethu mewn sawl cylchdaith Wesleaidd yng ngogledd a chanolbarth Cymru ac yn Lerpwl. Ymddeolodd ym 1887 a bu farw ar 17 Rhagfyr 1889.
Ymddiddorai mewn barddoniaeth, gwleidyddiaeth a cherddoriaeth, ond athroniaeth a diwinyddiaeth oedd ei hoff feysydd ac ysgrifennodd lawer ar y pynciau hyn i gyfnodolion ei gyfnod. Yn ogystal cyhoeddodd rai cyfrolau, megis Traethawd ar Resymeg 1857 a Penarglwyddiaeth Duw 1873. Bu'n olygydd y cyfnodolyn Y Winllan 1870-73 a bu ar fwrdd golygyddol Y Gwyliedydd.[1]
Cymerodd John Jones enw urddasol iawn fel enw barddol/llenyddol, sef Vulcan, duw tân y Rhufeiniaid. Ym mytholeg Rhufain roedd Vulcan yn curo haearn ar ei engan yn dragwyddol gan greu cawodydd o wreichion ac fe'i hanfarwolwyd mewn darluniau gan rai o arlunwyr mawr y byd, megis Tintoretto a Velázquez. Tybed beth a barodd i John Jones o Landwrog gymryd (neu gael) y fath enw. Tybed a all rhywun o ddarllenwyr Cof y Cwmwd daflu goleuni (neu wreichion) ar hyn?
Cyfeiriadau
- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, t.454. Erthygl gan Griffith Thomas Roberts.