Capel y Bryn (MC): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Codwyd '''Capel y Bryn''' gan y Methodistiaid yn gynnar yn yr 20g. - nid yw map Ordnans 1899 na ''Hanes Methodistiaid Arfon'' (hyd diwedd 1900) gan [[William Hobley]] yn sôn am gapel, er ei fod ar fap 1919. Fe'i agorwyd, beth bynnag, ym 1907, ac yn y Gymdeithasfa:
Codwyd '''Capel y Bryn''' gan y Methodistiaid yn gynnar yn yr 20g. - nid yw map Ordnans 1899 na ''Hanes Methodistiaid Arfon'' (hyd diwedd 1900) gan [[William Hobley]] yn sôn am gapel, er ei fod ar fap 1919. Mae'n hollol sicr mai mam-gapel Capel y Bryn oedd [[Capel Carmel (MC)]] sydd llai na milltir i ffwrdd, ym mhentref [[Carmel]] ei hun. Fe'i agorwyd, beth bynnag, ym 1906, ac yn y Gymdeithasfa:
  hysbysodd y Parch. H. M. Pugh fod capel y Bryn, gerllaw Carmel, wedi ei agor, a bod golwg addawol iawn ar yr Ysgol Sul a'r moddion eraill yno. Pasiwyd ein bod fel C.M. yn datgan ein llawenydd mwyaf fod y symudiad yma wedi ei weithio allan mor hapus a llwyddianus, gyda'r teimladau goreu ar ran y fam eglwys yn Carmel.
  hysbysodd y Parch. H. M. Pugh fod capel y Bryn, gerllaw Carmel, wedi ei agor, a bod golwg addawol iawn ar yr Ysgol Sul a'r moddion eraill yno. Pasiwyd ein bod fel C.M. yn datgan ein llawenydd mwyaf fod y symudiad yma wedi ei weithio allan mor hapus a llwyddianus, gyda'r teimladau goreu ar ran y fam eglwys yn Carmel.<ref>''Y Goleuad'', 23.1.1907. t.13</ref>
 
Dichon felly na chafwyd yr un amheuon ynglŷn â hyfywdra cael dau gapel mor agos at ei gilydd ag a gafwyd yn achos [[Capel Glan-rhyd (MC)]] ychydig flynyddoedd ynghynt. Rhaid cofio, wrth gwrs, bod Diwygiad 1903-04 wedi codi yn y cyfamser, ac yn ddiamau roedd y fflam enwadol ac efengylaidd yn llosgi'n bur lachar pan oedd y cynlluniau ar gyfer Capel y Bryn yn mynd rhagddynt.


Roedd ardal wrth ochr ddeuheuol inclein i'r chwareli o [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|orsaf y Bryngwyn]] yn datblygu gydag ambell i res o dai a thyddynod yn cael eu codi yno tua throad y ganrif.
Roedd ardal wrth ochr ddeuheuol inclein i'r chwareli o [[Gorsaf reilffordd Bryngwyn|orsaf y Bryngwyn]] yn datblygu gydag ambell i res o dai a thyddynod yn cael eu codi yno tua throad y ganrif.
Llinell 7: Llinell 9:


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Capeli]]
[[Categori:Capeli]]

Fersiwn yn ôl 17:28, 3 Chwefror 2025

Codwyd Capel y Bryn gan y Methodistiaid yn gynnar yn yr 20g. - nid yw map Ordnans 1899 na Hanes Methodistiaid Arfon (hyd diwedd 1900) gan William Hobley yn sôn am gapel, er ei fod ar fap 1919. Mae'n hollol sicr mai mam-gapel Capel y Bryn oedd Capel Carmel (MC) sydd llai na milltir i ffwrdd, ym mhentref Carmel ei hun. Fe'i agorwyd, beth bynnag, ym 1906, ac yn y Gymdeithasfa:

hysbysodd y Parch. H. M. Pugh fod capel y Bryn, gerllaw Carmel, wedi ei agor, a bod golwg addawol iawn ar yr Ysgol Sul a'r moddion eraill yno. Pasiwyd ein bod fel C.M. yn datgan ein llawenydd mwyaf fod y symudiad yma wedi ei weithio allan mor hapus a llwyddianus, gyda'r teimladau goreu ar ran y fam eglwys yn Carmel.[1]

Dichon felly na chafwyd yr un amheuon ynglŷn â hyfywdra cael dau gapel mor agos at ei gilydd ag a gafwyd yn achos Capel Glan-rhyd (MC) ychydig flynyddoedd ynghynt. Rhaid cofio, wrth gwrs, bod Diwygiad 1903-04 wedi codi yn y cyfamser, ac yn ddiamau roedd y fflam enwadol ac efengylaidd yn llosgi'n bur lachar pan oedd y cynlluniau ar gyfer Capel y Bryn yn mynd rhagddynt.

Roedd ardal wrth ochr ddeuheuol inclein i'r chwareli o orsaf y Bryngwyn yn datblygu gydag ambell i res o dai a thyddynod yn cael eu codi yno tua throad y ganrif.

Oes fer oedd i'r capel fel addoldy, fodd bynnag, ac fe'i gaewyd ar ol rhyw hanner canrif o ddefnydd. mae'n dal i sefyll (fel tŷ ers blynyuddoedd) tua hanner milltir i'r gogledd o bentref Carmel.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Goleuad, 23.1.1907. t.13