Cyfrif Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1398: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:


Bu ''Deon Eglwys Gadeiriol Bangor'', David Daron, yn gyfrifol am gasglu incwm Esgobaeth Bangor a chyfrif amdano wedi i'r cyn-esgob, John Swapham, farw ym 1397, a hynny hyd nes i esgob newydd gael ei benodi. Fe  argraffwyd ei gyfrif yng nghyfrol ''Record of Caernarvon'' fel adysgrif mewn ffont cofnodion yn y Lladin gwreiddiol.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696''. (Llundain, 1838), tt.231-2</ref> Isod gwelir cyfieithiad rhydd o'r testun.  
Bu ''Deon Eglwys Gadeiriol Bangor'', David Daron, yn gyfrifol am gasglu incwm Esgobaeth Bangor a chyfrif amdano wedi i'r cyn-esgob, John Swapham, farw ym 1397, a hynny hyd nes i esgob newydd gael ei benodi. Fe  argraffwyd ei gyfrif yng nghyfrol ''Record of Caernarvon'' fel adysgrif mewn ffont cofnodion yn y Lladin gwreiddiol.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696''. (Llundain, 1838), tt.231-2</ref> Isod gwelir cyfieithiad rhydd o'r testun.  
''D.S.(1) Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig. Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chyfeiriwyd at y ddogfen wreiddiol. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiwn argraffedig.''
''D.S.(1) Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig. Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chyfeiriwyd at y ddogfen wreiddiol. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiwn argraffedig.''



Fersiwn yn ôl 12:17, 30 Hydref 2024


Bu Deon Eglwys Gadeiriol Bangor, David Daron, yn gyfrifol am gasglu incwm Esgobaeth Bangor a chyfrif amdano wedi i'r cyn-esgob, John Swapham, farw ym 1397, a hynny hyd nes i esgob newydd gael ei benodi. Fe argraffwyd ei gyfrif yng nghyfrol Record of Caernarvon fel adysgrif mewn ffont cofnodion yn y Lladin gwreiddiol.[1] Isod gwelir cyfieithiad rhydd o'r testun.

D.S.(1) Isod ceir cyfieithiad gweddol rydd o'r Lladin wreiddiol argraffedig. Wrth wneud y cyfieithiad rhydd hwn ni chyfeiriwyd at y ddogfen wreiddiol. Felly, cyn defnyddio'r cyfieithiad isod ar gyfer gwaith academaidd manwl, awgrymir troi at y fersiwn argraffedig.

D.S. (2): Mae dotiau "...." yn dynodi rhannau sydd yn ymwneud ag ardaloedd eraill ac sydd felly heb gael eu cyfieithu.

Y Testun

Cyfrif y Meistr David Daron, Deon Eglwys Gadeiriol Bangor a’i Gabidwl o feddiannau lleyg  Esgobaeth Bangor mewn amryw o libartiau a roddwyd yng ngofal y deon hwnnw gan siartr yr Arglwydd Rhisiart Brenin Lloegr ac a gadarnhawyd gan y Brenin ei hun pan roddodd yr un Arglwydd Frenin i’r un Deon a Chabidwl warchodaeth dros feddiannau lleyg yr esgobaeth uchod cyhyd ag y bydd yr Esgobyddiaeth uchod barhau’n wag gan gyflwyno i’r Brenin a’i etifeddion ystent o’r feddiannau lleyg uchod os yw’n aros yn wag am un flwyddyn gron, ynghyd ag 20 marc yn unol â’r ystent, ac os yw’n wag am lai o amser, llai [o daliad], a phan fydd y cyfnod yn fwy na’r hyn sydd yn yr ystent honno, a’r 20 marc dywededig yn ddiogel gyda’r Arglwydd Frenin a’i etifeddion. [Rhoddwyd] ffi marchog a hawliau enwebu eglwysig fel sydd yn gynwysedig yn y Siartr uchod o Gadarnhad oddi wrth y Brenin, sydd yn gyfran o’r ystent, y meddiannau lleyg a’r 20 marc dywededig ar adeg Gŵyl Genedigaeth Sant Ioan y Bedyddiwr sydd yn digwydd ar 24 Mehefin yn 22ain flwyddyn teyrnasiad Rhisiart yr Ail [1397], pryd fu farw John Swapham, Esgob diwethaf y man a enwyd. Yr oedd y meddiannau lleyg yn llaw’r Arglwydd hyd at 19 Mai yr un flwyddyn a hynny am dri chwarter blwyddyn, 7 wythnos a 6 diwrnod. Cyn hynny roedd y Deon a’r Cabidwl wedi gollwng Rhisiart Yonge, offeiriad, yn rhydd o gyfrifoldeb am y meddiannau lleyg a oedd yn nwylo ffermwyr trethi neu ddeiliaid y meddiannau lleyg yn unol â gwrit yr Arglwydd Frenin dyddiedig 19 Mai o’r un 22ain flwyddyn [1398]  a gafodd ei gofrestru’n syth yn Nhrysorlys Caernarfon yn yr un 22ain flwyddyn.
....

Dilynir y cyflwyniad uchod gan fanylion am yr ardaloedd a chymydau canlynol: Maenor a dinas neu fwrdeistref Bangor; Maenolbangor (yn fras, Pentir a’r Faenol mewn termau modern); Arfon (gweler isod); Maenor Edern; Llŷn; Eifionydd; Maenor a thref Treffos; nifer o gymydau eraill ym Môn; Maenor Gogarth a mannau cyfagos; cymydau Meirionnydd; ac Arwystli ym Mhowys.

Yma fe geir cyfieithiad o’r unig fan yn Uwchgwyrfai oedd yn gynwysedig, sef Llanwnda.

...
Ac o’r 11s. 7½c. sef hanner y 23s. 3c. o rent a aseswyd yn nhrefgordd Llanwnda [i’w dalu] adeg Gŵyl yr Apostolion Philip a Siâms o fewn yr amser a gyfrifwyd yn unol â’r ystent ddywededig, a’r hanner arall perthynol i Cabidwl [Bangor] yr un modd. Ac o’r 11c. sef hanner y 22c. o’r un adfowri  adeg Gŵyl yr Holl Saint o fewn yr amser a gyfrifwyd yn unol â’r ystent ddywededig, a’r hanner arall perthynol i Gabidwl [Bangor] yr un modd.

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838), tt.231-2