Graeanfryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Graeanfryn''' oedd enw gwreiddiol y casgliad bach o dai a dyfodd o gwmpas [[Gorsaf reilffordd Pwllheli Road]] (a ailenwyd yn "Llanwnda" ymhen ysbaid). Am fanylion llawn am y pentref a'i dwf, gweler yr erthygl ar [[Llanwnda (pentref)|Lanwnda]].<ref>John Jones (Pwllheli), ''Cofiant John Jones, Brynrodyn'' (Caernarfon, 1903), t.57</ref>  
'''Graeanfryn''' oedd enw gwreiddiol y casgliad bach o dai a dyfodd o gwmpas [[Gorsaf reilffordd Pwllheli Road]] (a ailenwyd yn "Llanwnda" ymhen ysbaid). Am fanylion llawn am y pentref a'i dwf, gweler yr erthygl ar [[Llanwnda (pentref)|Lanwnda]].<ref>John Jones (Pwllheli), ''Cofiant John Jones, Brynrodyn'' (Caernarfon, 1903), t.57</ref>  


Mae Graeanfryn hefyd yn enw ar dŷ Fictoraidd yn sefyll mewn 3 acer o erddi sydd gerllaw, ac nid yw'n hollol sicr pa un a enwyd gyntaf, y tŷ ynteu'r dreflan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1840, mae'n debyg, er bod y Map Degwm yn dangos adeilad lle saif y tŷ, ni nodir mai Graeanfryn oedd enw yr adeilad na'r cae. Dangosir (ac enwir) Maengwyn, sy'n sefyll gyferbyn â Graeanfryn yr ochr arall i'r ffordd fawr ar y Map Degwm, gan nodi mai perthyn i Maengwyn yr oedd y cae lle saif Graeanfryn heddiw. Yn nogfennau'r Cyfrifiad, 1841, fodd bynnag, ni enwir Maenmgwyn, ond yn hytrach Graeanfryn, lle trigai Evan Richards, ficer Llanwnda. Erbyn 1851, roedd Mr Richards wedi symud i dŷ [[Cefn Hendre]], a dynes, Meryell Lloyd, a ddisgrifir fel gwraig tafarnwr, oedd yn benteulu ym Maengwyn - ac ni grybwyllir Graeanfryn o gwbl yng Nghyfrifiad 1851.<ref>Map degwm plwyf Llanwnda, 1843; Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841-51</ref> Erbyn 1861, enwir Graeanfryn ond nid Maengwyn. Roedd ficer newydd Llanwnda, sef David Lewis Williams, yn byw yno gyda'i deulu.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1861</ref>
Mae Graeanfryn hefyd yn enw ar dŷ Fictoraidd yn sefyll mewn 3 acer o erddi sydd gerllaw, ac nid yw'n hollol sicr pa un a enwyd gyntaf, y tŷ ynteu'r dreflan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1840, mae'n debyg, er bod y Map Degwm yn dangos adeilad lle saif y tŷ, ni nodir mai Graeanfryn oedd enw yr adeilad na'r cae. Dangosir (ac enwir) Maengwyn, sy'n sefyll gyferbyn â Graeanfryn yr ochr arall i'r ffordd fawr ar y Map Degwm, gan nodi mai perthyn i Maengwyn yr oedd y cae lle saif Graeanfryn heddiw. Yn nogfennau'r Cyfrifiad, 1841, fodd bynnag, ni enwir Maenmgwyn, ond yn hytrach Graeanfryn, lle trigai Evan Richards, ficer Llanwnda. Erbyn 1851, roedd Mr Richards wedi symud i dŷ [[Cefn Hendre]], a dynes, Meryell Lloyd, a ddisgrifir fel gwraig tafarnwr, oedd yn benteulu ym Maengwyn - ac ni grybwyllir Graeanfryn o gwbl yng Nghyfrifiad 1851.<ref>Map degwm plwyf Llanwnda, 1843; Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1841-51</ref> Erbyn 1861, enwir Graeanfryn ond nid Maengwyn. Roedd ficer newydd Llanwnda, sef David Lewis Williams, yn byw yno gyda'i deulu.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1861</ref>


Bu'n gartref i [[Simon Hobley]] (a oedd yn byw yno ym 1871)<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1871</ref>, ac yn ddiweddarach i [[Robert Gwyneddon Davies]] a'i wraig [[Grace Gwyneddon Davies|Grace]].  
Bu'n gartref i [[Simon Hobley]] (a oedd yn byw yno ym 1871), ond yn wag ym 1881 ar ôl marwolaeth Hobley. Am y tro cyntaf ceir enwau Maengwyn a Graeanfryn wedi'u rhestru gan yr un Cyfrifiad; ym Maengwyn ym 1881, gŵr o'r enw William Griffith, teithiwr masnachol oedd yn byw yno, ac roedd yno ym 1891 hefyd.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1871-91</ref>. Prynwyd y lle tua 1909 gan [[Robert Gwyneddon Davies]] a'i wraig [[Grace Gwyneddon Davies|Grace]].  


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 16:30, 15 Hydref 2024

Graeanfryn oedd enw gwreiddiol y casgliad bach o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Pwllheli Road (a ailenwyd yn "Llanwnda" ymhen ysbaid). Am fanylion llawn am y pentref a'i dwf, gweler yr erthygl ar Lanwnda.[1]

Mae Graeanfryn hefyd yn enw ar dŷ Fictoraidd yn sefyll mewn 3 acer o erddi sydd gerllaw, ac nid yw'n hollol sicr pa un a enwyd gyntaf, y tŷ ynteu'r dreflan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1840, mae'n debyg, er bod y Map Degwm yn dangos adeilad lle saif y tŷ, ni nodir mai Graeanfryn oedd enw yr adeilad na'r cae. Dangosir (ac enwir) Maengwyn, sy'n sefyll gyferbyn â Graeanfryn yr ochr arall i'r ffordd fawr ar y Map Degwm, gan nodi mai perthyn i Maengwyn yr oedd y cae lle saif Graeanfryn heddiw. Yn nogfennau'r Cyfrifiad, 1841, fodd bynnag, ni enwir Maenmgwyn, ond yn hytrach Graeanfryn, lle trigai Evan Richards, ficer Llanwnda. Erbyn 1851, roedd Mr Richards wedi symud i dŷ Cefn Hendre, a dynes, Meryell Lloyd, a ddisgrifir fel gwraig tafarnwr, oedd yn benteulu ym Maengwyn - ac ni grybwyllir Graeanfryn o gwbl yng Nghyfrifiad 1851.[2] Erbyn 1861, enwir Graeanfryn ond nid Maengwyn. Roedd ficer newydd Llanwnda, sef David Lewis Williams, yn byw yno gyda'i deulu.[3]

Bu'n gartref i Simon Hobley (a oedd yn byw yno ym 1871), ond yn wag ym 1881 ar ôl marwolaeth Hobley. Am y tro cyntaf ceir enwau Maengwyn a Graeanfryn wedi'u rhestru gan yr un Cyfrifiad; ym Maengwyn ym 1881, gŵr o'r enw William Griffith, teithiwr masnachol oedd yn byw yno, ac roedd yno ym 1891 hefyd.[4]. Prynwyd y lle tua 1909 gan Robert Gwyneddon Davies a'i wraig Grace.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. John Jones (Pwllheli), Cofiant John Jones, Brynrodyn (Caernarfon, 1903), t.57
  2. Map degwm plwyf Llanwnda, 1843; Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1841-51
  3. Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1861
  4. Cyfrifiadau plwyf Llanwnda 1871-91