Graeanfryn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Graeanfryn''' oedd enw gwreiddiol y casgliad bach o dai a dyfodd o gwmpas [[Gorsaf reilffordd Pwllheli Road]] (a ailenwyd yn "Llanwnda" ymhen ysbaid). Am fanylion llawn am y pentref a'i dwf, gweler yr erthygl ar [[Llanwnda (pentref)|Lanwnda]].<ref>John Jones (Pwllheli), ''Cofiant John Jones, Brynrodyn'' (Caernarfon, 1903), t.57</ref> | '''Graeanfryn''' oedd enw gwreiddiol y casgliad bach o dai a dyfodd o gwmpas [[Gorsaf reilffordd Pwllheli Road]] (a ailenwyd yn "Llanwnda" ymhen ysbaid). Am fanylion llawn am y pentref a'i dwf, gweler yr erthygl ar [[Llanwnda (pentref)|Lanwnda]].<ref>John Jones (Pwllheli), ''Cofiant John Jones, Brynrodyn'' (Caernarfon, 1903), t.57</ref> | ||
Mae Graeanfryn hefyd yn enw ar dŷ Fictoraidd yn sefyll mewn 3 acer o erddi sydd gerllaw, ac nid yw'n hollol sicr pa un a enwyd gyntaf, y tŷ ynteu'r dreflan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1840, mae'n debyg, er bod y Map Degwm yn dangos adeilad lle saif y tŷ, ni nodir mai Graeanfryn oedd enw yr adeilad na'r cae. Dangosir (ac enwir) Maengwyn, sy'n sefyll gyferbyn â Graeanfryn yr ochr arall i'r ffordd fawr ar y Map Degwm, gan nodi mai perthyn i Maengwyn yr oedd y cae lle saif Graeanfryn heddiw. Yn nogfennau'r Cyfrifiad, 1841, fodd bynnag, ni enwir Maenmgwyn, ond yn hytrach Graeanfryn, lle trigai Evan Richards, | Mae Graeanfryn hefyd yn enw ar dŷ Fictoraidd yn sefyll mewn 3 acer o erddi sydd gerllaw, ac nid yw'n hollol sicr pa un a enwyd gyntaf, y tŷ ynteu'r dreflan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1840, mae'n debyg, er bod y Map Degwm yn dangos adeilad lle saif y tŷ, ni nodir mai Graeanfryn oedd enw yr adeilad na'r cae. Dangosir (ac enwir) Maengwyn, sy'n sefyll gyferbyn â Graeanfryn yr ochr arall i'r ffordd fawr ar y Map Degwm, gan nodi mai perthyn i Maengwyn yr oedd y cae lle saif Graeanfryn heddiw. Yn nogfennau'r Cyfrifiad, 1841, fodd bynnag, ni enwir Maenmgwyn, ond yn hytrach Graeanfryn, lle trigai Evan Richards, ficer Llanwnda. Erbyn 1851, roedd Mr Richards wedi symud i dŷ [[Cefn Hendre]], a dynes, Meryell Lloyd, a ddisgrifir fel gwraig tafarnwr, oedd yn benteulu ym Maengwyn - ac ni grybwyllir Graeanfryn o gwbl yng Nghyfrifiad 1851.<ref>Map degwm plwyf Llanwnda, 1843; Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1841-51</ref> | ||
Bu'r y'n gartref i [[Simon Hobley]], ac yn ddiweddarach i [[Robert Gwyneddon Davies]] a'i wraig [[Grace Gwyneddon Davies|Grace]]. | Bu'r y'n gartref i [[Simon Hobley]], ac yn ddiweddarach i [[Robert Gwyneddon Davies]] a'i wraig [[Grace Gwyneddon Davies|Grace]]. |
Fersiwn yn ôl 12:55, 15 Hydref 2024
Graeanfryn oedd enw gwreiddiol y casgliad bach o dai a dyfodd o gwmpas Gorsaf reilffordd Pwllheli Road (a ailenwyd yn "Llanwnda" ymhen ysbaid). Am fanylion llawn am y pentref a'i dwf, gweler yr erthygl ar Lanwnda.[1]
Mae Graeanfryn hefyd yn enw ar dŷ Fictoraidd yn sefyll mewn 3 acer o erddi sydd gerllaw, ac nid yw'n hollol sicr pa un a enwyd gyntaf, y tŷ ynteu'r dreflan. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1840, mae'n debyg, er bod y Map Degwm yn dangos adeilad lle saif y tŷ, ni nodir mai Graeanfryn oedd enw yr adeilad na'r cae. Dangosir (ac enwir) Maengwyn, sy'n sefyll gyferbyn â Graeanfryn yr ochr arall i'r ffordd fawr ar y Map Degwm, gan nodi mai perthyn i Maengwyn yr oedd y cae lle saif Graeanfryn heddiw. Yn nogfennau'r Cyfrifiad, 1841, fodd bynnag, ni enwir Maenmgwyn, ond yn hytrach Graeanfryn, lle trigai Evan Richards, ficer Llanwnda. Erbyn 1851, roedd Mr Richards wedi symud i dŷ Cefn Hendre, a dynes, Meryell Lloyd, a ddisgrifir fel gwraig tafarnwr, oedd yn benteulu ym Maengwyn - ac ni grybwyllir Graeanfryn o gwbl yng Nghyfrifiad 1851.[2]
Bu'r y'n gartref i Simon Hobley, ac yn ddiweddarach i Robert Gwyneddon Davies a'i wraig Grace.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma