Band Moeltryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 2: Llinell 2:


Mae'n amlwg fod y band wedi dod i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan fod llythyr wedi ymddangos yn y wasg yn Awst 1919 yn hysbysu bod y band yn ceisio ail-gychwyn:
Mae'n amlwg fod y band wedi dod i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan fod llythyr wedi ymddangos yn y wasg yn Awst 1919 yn hysbysu bod y band yn ceisio ail-gychwyn:
  SEINDORF MOELTRYFAN. (At Olygydd y "Dinesydd"). Syr,—Hoffwn aIw sylw yr ardal a'r gymdogaeth uchod at ymdrech y bechgyn i ail gychwyn y Band. Credaf ei bod yn ddyledswydd arnom fel ardal i roi pob cefnogaeth i'r aelodau sydd wedi ail ymuno. Mae eu clywed yn chwareu yr hen donau Cymreig yn creu rhyw ysbryd newydd ynnom. Codwyd pwyllgor cryf o ddynion gweithgar yr ardal. Clywais enwi y rhai canlynol:—Mri Evan Ll. Griffith, Post Office; John Jones, Glasfryn; John Williams, Aberalaw; John O. Hughes, Garreg Wen; John Williams, Penybraich; Hugh Pritchard, Bryn Tegwyn; R. Isaac Jones. Tanrallt; W. W. Griffith, Pantyrebolion; R. Williams, Bodfan; W. Gilbert Williams, Rhostryfan; H. J. Williams, Glyn Carrog Stores; R. J. Griffith, Llwyndyrus; J. R. Jones, Bryn Ioan; a'r cynullydd i'r pwyllgor uchod yw Mr R. Williams, Bodfan. Ni ellir codi gwell criw o hogia; ac yn awr frodyr ati hi o ddifrif i ailgychwyn symudiad mor dda i'n bechgjyn ieuainc - yr unig sefydliad o'r fath ymhlwyfi Llanwnda a Llandwrog. Disgwyliaf yn fuan gael rhoi yn y "Dinesydd" hanes y Band a'r Pwyllgor wrthi am y goreu.—Ydwyf, DWYFOR. <ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 27.8.1919, t.7</ref>
  SEINDORF MOELTRYFAN. (At Olygydd y "Dinesydd"). Syr,—Hoffwn alw sylw yr ardal a'r gymdogaeth uchod at ymdrech y bechgyn i ail gychwyn y Band. Credaf ei bod yn ddyledswydd arnom fel ardal i roi pob cefnogaeth i'r aelodau sydd wedi ail ymuno. Mae eu clywed yn chwareu yr hen donau Cymreig yn creu rhyw ysbryd newydd ynnom. Codwyd pwyllgor cryf o ddynion gweithgar yr ardal. Clywais enwi y rhai canlynol:—Mri Evan Ll. Griffith, Post Office; John Jones, Glasfryn; John Williams, Aberalaw; John O. Hughes, Garreg Wen; John Williams, Penybraich; Hugh Pritchard, Bryn Tegwyn; R. Isaac Jones. Tanrallt; W. W. Griffith, Pantyrebolion; R. Williams, Bodfan; [[W. Gilbert Williams]], [[Rhostryfan]]; H. J. Williams, Glyn Carrog Stores; R. J. Griffith, Llwyndyrus; J. R. Jones, Bryn Ioan; a'r cynullydd i'r pwyllgor uchod yw Mr R. Williams, Bodfan. Ni ellir codi gwell criw o hogia; ac yn awr frodyr ati hi o ddifrif i ailgychwyn symudiad mor dda i'n bechgjyn ieuainc - yr unig sefydliad o'r fath ymhlwyfi [[Llanwnda]] a [[Llandwrog]]. Disgwyliaf yn fuan gael rhoi yn y "Dinesydd" hanes y Band a'r Pwyllgor wrthi am y goreu.—Ydwyf, DWYFOR. <ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 27.8.1919, t.7</ref>


Ym 1930 newidiwyd y band o fod yn fand pres i fod yn fand arian, h.y. rhoddwyd 'golchiad arian' ''(silver plating)'' i'r cyrn. Hyn oedd ffasiwn y cyfnod ac fe swniai 'band arian' yn llawer crandiach a llai coman na 'band pres', yn enwedig yn Saesneg! Penderfynwyd newid enw'r band yn ogystal, sef [[Seindorf Arian Cadfan]] - a'r enw yn Saesneg oedd ''Cadvan Silver Band''.
Ym 1930 newidiwyd y band o fod yn fand pres i fod yn fand arian, h.y. rhoddwyd 'golchiad arian' ''(silver plating)'' i'r cyrn. Hyn oedd ffasiwn y cyfnod ac fe swniai 'band arian' yn llawer crandiach a llai coman na 'band pres', yn enwedig yn Saesneg! Penderfynwyd newid enw'r band yn ogystal, sef [[Seindorf Arian Cadfan]] - a'r enw yn Saesneg oedd ''Cadvan Silver Band''.

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:33, 2 Hydref 2024

Ffurfiwyd Band Moeltryfan ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ym mhentref Rhosgadfan. Enw cyntaf y band oedd Seindorf Pen-y-ffridd ac arferai ymarfer, yng ngolau'r gannwyll, yn hen warws flawd Bryn Crin, Rhosgadfan. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach newidiodd ei enw i Seindorf Moeltryfan. [1]

Mae'n amlwg fod y band wedi dod i ben yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gan fod llythyr wedi ymddangos yn y wasg yn Awst 1919 yn hysbysu bod y band yn ceisio ail-gychwyn:

SEINDORF MOELTRYFAN. (At Olygydd y "Dinesydd"). Syr,—Hoffwn alw sylw yr ardal a'r gymdogaeth uchod at ymdrech y bechgyn i ail gychwyn y Band. Credaf ei bod yn ddyledswydd arnom fel ardal i roi pob cefnogaeth i'r aelodau sydd wedi ail ymuno. Mae eu clywed yn chwareu yr hen donau Cymreig yn creu rhyw ysbryd newydd ynnom. Codwyd pwyllgor cryf o ddynion gweithgar yr ardal. Clywais enwi y rhai canlynol:—Mri Evan Ll. Griffith, Post Office; John Jones, Glasfryn; John Williams, Aberalaw; John O. Hughes, Garreg Wen; John Williams, Penybraich; Hugh Pritchard, Bryn Tegwyn; R. Isaac Jones. Tanrallt; W. W. Griffith, Pantyrebolion; R. Williams, Bodfan; W. Gilbert Williams, Rhostryfan; H. J. Williams, Glyn Carrog Stores; R. J. Griffith, Llwyndyrus; J. R. Jones, Bryn Ioan; a'r cynullydd i'r pwyllgor uchod yw Mr R. Williams, Bodfan. Ni ellir codi gwell criw o hogia; ac yn awr frodyr ati hi o ddifrif i ailgychwyn symudiad mor dda i'n bechgjyn ieuainc - yr unig sefydliad o'r fath ymhlwyfi Llanwnda a Llandwrog. Disgwyliaf yn fuan gael rhoi yn y "Dinesydd" hanes y Band a'r Pwyllgor wrthi am y goreu.—Ydwyf, DWYFOR. [2]

Ym 1930 newidiwyd y band o fod yn fand pres i fod yn fand arian, h.y. rhoddwyd 'golchiad arian' (silver plating) i'r cyrn. Hyn oedd ffasiwn y cyfnod ac fe swniai 'band arian' yn llawer crandiach a llai coman na 'band pres', yn enwedig yn Saesneg! Penderfynwyd newid enw'r band yn ogystal, sef Seindorf Arian Cadfan - a'r enw yn Saesneg oedd Cadvan Silver Band.

Dyma enwau rhai o arweinyddion y band :

1. William T. Sarah, Tal-y-sarn / Nantlle ;

2. Owen Hughes, Garreg Wen ;

3. Hugh Hughes, mab Owen Hughes ;

4. Morgan J. Jones, Tal-y-sarn / Nantlle ;

5. Solomon Jones (Alaw Cadfan), Rhosgadfan.

Fel rheol, arweinydd proffesiynol y band oedd Harry Heyes, arweinydd enwog Seindorf Dyffryn Nantlle, a chafwyd sawl buddugoliaeth o dan ei faton ef.[3]

Bu adran bâs sefydlog yn y band dros nifer helaeth o flynyddoedd - William Griffiths (Hen Ŵr), John Jones, Ty'n Graig, Edwin Hughes a Solomon Jones (Alaw Cadfan). [4]

Ymysg yr aelodau yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd roedd William Hughes (Iwffoniwm), Thomas Williams (Tomi Meinar neu Twm Trombôn fel y'i gelwid), Gwilym Evans, Lewis Owen a'i frawd, Tyddyn Difyr.

Wedi marwolaeth Solomon Jones (yn 47 oed) ym 1936, dirywiodd y band yn gyflym iawn, a daeth i ben - a hynny braidd yn ddialar.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, ceisiwyd ail-ennyn y fflam. Unodd gweddill y band â gweddill Seindorf Dyffryn Nantlle gan ffurfio un band i gystadlu (yn aflwyddiannus) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bae Colwyn, ym 1947 dan arweiniad Alfred Henderson, arweinydd Band Nantlle. Y darn prawf oedd Pride of the Forest (J.A.Greenwood). Daeth y band yn bedwerydd allan o naw. Wedi hynny diflannodd Seindorf Arian Cadfan am byth.

Fodd bynnag, bu rhyw hanner dwsin o'r hen offerynnau (gwneuthuriad Soltron) yn gorwedd yn fud am dros chwarter canrif dan lwyfan Neuadd Rhosgadfan. Yn y diwedd, fe'u rhoddwyd yn rhodd i Bwyllgor Addysg Gwynedd i'w defnyddio mewn gwersi offerynnol gan yr Awdurdod, yn bennaf yn Ysgol Gynradd Rhosgadfan. Rhyw dri yn unig o'r cyrn y llwyddwyd i'w hadfer.


Cyfeiriadau

  1. Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.43
  2. Y Dinesydd Cymreig, 27.8.1919, t.7
  3. Gwefan "Brass Band Results" [1], cyrchwyd 10.12.2021
  4. Canrif y Chwarelwr gan Emyr Jones 1963