Guto Gethin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Guto Gethin''' ('' | Roedd '''Guto Gethin''' (''fl.'' tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]] tua chanol y 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo fo yw [[Bod Fasarn]], sef yr hen [[New Inn, Clynnog Fawr|New Inn]] wrth [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]]. Dywed traddodiad mai fo oedd adeiladydd prif ran (sef rhan hynaf) yr adeilad. Yn ôl y traddodiad fo oedd adeiladydd tai [[Tre Grwyn]] neu Tre'r Grwyn ger [[Sarn Wyth-dŵr]] hefyd; mae'r tai hynny wedi diflannu o dan domenydd [[Chwarel Dorothea]] ers canrif a hanner. Mae [[W.R. Ambrose]] yn honni eu bod wedi eu codi tua 1662. | ||
Roedd hen ddywediad ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin."<ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7</ref> | Roedd hen ddywediad ym mhlwyf [[Clynnog Fawr]] am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin." (sef pin pren yn cysylltu cyplau'r to). <ref>W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7</ref> | ||
Ni wyddys | Mae [[Eben Fardd]] yn sôn am bin Guto Gethin. "Saer maen digymar am gryfder ei waith" oedd ei ddisgrifiad o Guto. Credai Eben fod tŷ Hafod-y-wern, plwyf Clynnog, yn un o adeiladau Guto hefyd. Tybia Eben Fardd y gallai Guto Gethin fod o'r un linach â [[Hywel Gethin]], y bardd o Glynnog a fu'n ysgrifennu tua diwedd y 16g.<ref>Eben Fardd, llythyr yn ''Y Brython'', Mehefin 1860, tt.233-4</ref> | ||
Ni wyddys ddim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad rintiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.<ref>W.R. Ambrose, ''loc. cit,''; [[Hywel Tudur]] yn ''Y Genedl Gymreig'', 25.4.1888, t.8</ref>. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei. | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 09:29, 4 Mehefin 2024
Roedd Guto Gethin (fl. tua 1650-60) yn saer maen a gododd nifer o adeiladau yn Nyffryn Nantlle tua chanol y 17g. Yr unig un sydd yn dal i sefyll ac sydd wedi ei briodoli iddo fo yw Bod Fasarn, sef yr hen New Inn wrth Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr. Dywed traddodiad mai fo oedd adeiladydd prif ran (sef rhan hynaf) yr adeilad. Yn ôl y traddodiad fo oedd adeiladydd tai Tre Grwyn neu Tre'r Grwyn ger Sarn Wyth-dŵr hefyd; mae'r tai hynny wedi diflannu o dan domenydd Chwarel Dorothea ers canrif a hanner. Mae W.R. Ambrose yn honni eu bod wedi eu codi tua 1662.
Roedd hen ddywediad ym mhlwyf Clynnog Fawr am rywbeth anodd ei ryddhau, sef ei fod "mor sownd â phin Guto Gethin." (sef pin pren yn cysylltu cyplau'r to). [1]
Mae Eben Fardd yn sôn am bin Guto Gethin. "Saer maen digymar am gryfder ei waith" oedd ei ddisgrifiad o Guto. Credai Eben fod tŷ Hafod-y-wern, plwyf Clynnog, yn un o adeiladau Guto hefyd. Tybia Eben Fardd y gallai Guto Gethin fod o'r un linach â Hywel Gethin, y bardd o Glynnog a fu'n ysgrifennu tua diwedd y 16g.[2]
Ni wyddys ddim arall am Guto Gethin na'r hyn sydd yma, ond gellid amau ei fod yn grefftwr o fri ac yn gymeriad nodedig, gan fod y ddau gyfeiriad rintiedig ato'n dyddio o 1872 ac 1888, tua dwy ganrif wedi iddo farw.[3]. Dichon mai Griffith ap Gethin fyddai ei enw mewn dogfennau swyddogol, ond hyd yn hyn, ni ddaeth cyfeiriadau ato i'r fei.
Cyfeiriadau
- ↑ W.R. Ambrose, ‘’Nant Nantlle’’ (Pen-y-groes, 1872), tt.96-7
- ↑ Eben Fardd, llythyr yn Y Brython, Mehefin 1860, tt.233-4
- ↑ W.R. Ambrose, loc. cit,; Hywel Tudur yn Y Genedl Gymreig, 25.4.1888, t.8