Tafarn Dywarch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Safai'r '''Dafarn Dywarch''' ar un adeg mewn man diarffordd rhwng cyrion deheuol eithaf [[Rhosgadfan]] a chyrion gogleddol pellaf ardal y [[Cim, Carmel]]. Nodwyd yr enw ''Dafarn dowyrche'' ym 1779 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a ''Tafarn Dywyrch'' a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842. Tafarn gyntefig iawn oedd hon yn sicr i dorri syched - ac efallai lletya - y gweithwyr hynny a gyflawnai'r gwaith trwm o gludo copr o fwyngloddiau [[Drws-y-coed]] dros y mynydd i Gaernarfon. Roedd to'r dafarn wedi ei wneud o dywyrch cyn i'r diwydiant llechi ddod i fri yn yr ardal. Er mai'r ffurf ''tywarch'' a ddefnyddir yma, y ffurf luosog ''tyweirch/tywyrch'' sy'n gwneud mwyaf o synnwyr. Nid yw'n enw unigryw a cheir ''Dafarn-dyweirch'' ger Rhos-y-bol ym Môn a ''Dafarn Dywarch'' yn Aberdaron.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.232</ref>
Safai'r '''Dafarn Dywarch''' ar un adeg mewn man diarffordd rhwng cyrion deheuol eithaf [[Rhosgadfan]] a chyrion gogleddol pellaf ardal y [[Cim, Carmel]]. Nodwyd yr enw ''Dafarn dowyrche'' ym 1779 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a ''Tafarn Dywyrch'' a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842. Tafarn gyntefig iawn oedd hon yn sicr i dorri syched - ac efallai lletya - y gweithwyr hynny a gyflawnai'r gwaith trwm o gludo copr o fwyngloddiau [[Drws-y-coed]] dros y mynydd i Gaernarfon. Roedd to'r dafarn wedi ei wneud o dywyrch cyn i'r diwydiant llechi ddod i fri yn yr ardal. Er mai'r ffurf ''tywarch'' a ddefnyddir yma, y ffurf luosog ''tyweirch/tywyrch'' sy'n gwneud mwyaf o synnwyr. Nid yw'n enw unigryw a cheir ''Dafarn-dyweirch'' ger Rhos-y-bol ym Môn a ''Dafarn Dywarch'' yn Aberdaron.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.232</ref> Saif adeilad modern Tafarn Dywarch hyd heddiw ar ochr y lôn o [[Capel y Bryn (MC]] i gyfeiriad [[Rhosgadfan]].


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


[[Categori:Enwau lleoedd]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Fersiwn yn ôl 10:07, 24 Ebrill 2024

Safai'r Dafarn Dywarch ar un adeg mewn man diarffordd rhwng cyrion deheuol eithaf Rhosgadfan a chyrion gogleddol pellaf ardal y Cim, Carmel. Nodwyd yr enw Dafarn dowyrche ym 1779 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru) a Tafarn Dywyrch a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842. Tafarn gyntefig iawn oedd hon yn sicr i dorri syched - ac efallai lletya - y gweithwyr hynny a gyflawnai'r gwaith trwm o gludo copr o fwyngloddiau Drws-y-coed dros y mynydd i Gaernarfon. Roedd to'r dafarn wedi ei wneud o dywyrch cyn i'r diwydiant llechi ddod i fri yn yr ardal. Er mai'r ffurf tywarch a ddefnyddir yma, y ffurf luosog tyweirch/tywyrch sy'n gwneud mwyaf o synnwyr. Nid yw'n enw unigryw a cheir Dafarn-dyweirch ger Rhos-y-bol ym Môn a Dafarn Dywarch yn Aberdaron.[1] Saif adeilad modern Tafarn Dywarch hyd heddiw ar ochr y lôn o Capel y Bryn (MC i gyfeiriad Rhosgadfan.

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.232