John Jones, Rhiwfallen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 22: | Llinell 22: | ||
Mae mwy o’i gerddi wedi eu hargraffu yn y cylchgrawn ''Cymru'' Mawrth 1905.<ref>W. Gilbert Williams, “John Jones”,''Cymru'', Cyf. 28 (1905), tt. 181-4 [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1359511/188#?xywh=135%2C1239%2C1858%2C1192 ]</ref> | Mae mwy o’i gerddi wedi eu hargraffu yn y cylchgrawn ''Cymru'' Mawrth 1905.<ref>W. Gilbert Williams, “John Jones”,''Cymru'', Cyf. 28 (1905), tt. 181-4 [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1356250/1359511/188#?xywh=135%2C1239%2C1858%2C1192 ]</ref> | ||
Ceir mwy o ddyfyniadau a thriniaeth fer ond campus o'i waith gan Dewi Jones, sydd yn nodi ei fod wedi cyfansoddi llawer o ganeuon serch ac yfed, carolau plygain a chaneuon i ganu ar achlysuron gofyn am fynediad i dŷ, megis caneuon Gŵyl Fair. Meddai: "Mae'r mwyafrif o waith barddol John Jones yn gerddi ystwyth, clir eu mynegiant a hawdd i'w darllen, gyda llawysgrifen... yn destlus tu hwnt."<ref>Dewi Jones, ''Cynghanedd, Cerdd a Thelyn yn Arfon'' (Llanrwst, 1998), tt. 53-9</ref> | Ceir mwy o ddyfyniadau a thriniaeth fer ond campus o'i waith gan [[Dewi Jones]], sydd yn nodi ei fod wedi cyfansoddi llawer o ganeuon serch ac yfed, carolau plygain a chaneuon i ganu ar achlysuron gofyn am fynediad i dŷ, megis caneuon Gŵyl Fair. Meddai: "Mae'r mwyafrif o waith barddol John Jones yn gerddi ystwyth, clir eu mynegiant a hawdd i'w darllen, gyda llawysgrifen... yn destlus tu hwnt."<ref>Dewi Jones, ''Cynghanedd, Cerdd a Thelyn yn Arfon'' (Llanrwst, 1998), tt. 53-9</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 10:35, 18 Mawrth 2024
Bardd gwlad ac athro oedd John Jones, Rhiwfallen (fl.1870-1790). Mae’n debyg nad oedd o’n frodor o’r fro, er iddo dreulio nifer o flynyddoedd (mae’n weddol debyg) yn Rhiwfallen, nid nepell o Ffrwd Ysgyfarnog lle bu’n cadw ysgol. Yn Rhiwfallen magodd ef a’i wraig Ann eu teulu.
Mae W. Gilbert Williams, ei gofiannydd, yn amau, ar sail orgraff ei gerddi, ei fod yn hanu o Sir Ddinbych neu Sir Drefaldwyn; a dichon ei fod yn adnabod Twm o’r Nant. Mae Dewi Jones yn tueddu meddwl mai o ardal Henllan yn Sir Ddinbych y symudodd Joihn Jones i Arfon. Bu’n athro yn ardal Llanddeiniolen cyn cyrraedd Llandwrog. Yno, ym 1770, cafodd ei gyhuddo o ymosod ar ddynes o’r enw Elisabeth Dafydd, gan orfod sefyll ei brawf. Serch hynny, mi briododd Ann Jones, dynes arall o’r un plwyf ym 1773. Mae ei ymddygiad gwyllt ifanc gael ei adlewyrchu yn ei gerddi cynnar bydol am fyd serch, sydd yn ymylu ar fod yn fasweddol yn ôl Gilbert Williams, ond yn nes ymlaen yn ei yrfa farddonol, bu’n cynhyrchu cerddi o natur fwy syber a chrefyddol.
Erbyn 1780 roedd o a’i wraig Ann wedi symud i blwyf Llandwrog. Yn y flwyddyn honno bedyddiwyd eu mab Hugh yn Eglwys Sant Twrog, Llandwrog, a nodir fod John yn athro ysgol. Mae ei gerddi wedi eu cadw, hyd y gwyddys, mewn dwy lawysgrif yn unig. Yn un ohonynt nododd John Jones ei fod yn byw yn “Rhywall”, sef yr ynganiad lleol am Rhiwfallen; ac yn wir, dynes o’r enw Miss Roberts o Forfa Mawr, Llandwrog, oedd y sawl a oedd wedi rhoi benthyg y llyfr o waith John Jones i Gilbert Williams tua 1905 - a chartref gwreiddiol Miss Roberts oedd Rhiwfallen. Yn y man, rhoddwyd y llyfr i’r Llyfrgell Genedlaethol lle mae hyd heddiw.
Bu i John Jones lofnodi gweithred leol ym 1788, gan nodi ynddi ei fod yn athro ysgol. Erbyn 1787, roedd dyn o'r Carno o'r enw David Wilson yr athro ysgol yn y Ffrwd, ac arhosodd yno tan 1789.[1] Mae hyn yn tueddu i ddangos fod John Jones wedi bod yn athro am o gwmpas 10 mlynedd yn Llandwrog, sef cyfnod hir i athro aros mewn un lle'r adeg honno - er tybed a oedd o wedi rhoi heibio bod yn athro erbyn hynny, neu efallai'n cynnal ysgol mewn man arall. yn yr ardal.
Dyma enghreifftiau byr o waith y bardd a ddyfynnwyd gan Gilbert Williams:
Cadw dy dafod rhag siarad fo gormod, A dilyn gydwybod heb drallod na drwg; A gochel di gellwer ag afieth fo ofer, Gwag bleser, fe’i gweler drwy gilwg.
Cofia dy ddiwedd, ymro i fyw’n santedd, Ymâd â’th lygredd sydd ffiedd a ffôl; Os pechod galyni, cosb drom a ddaw iti, Ti weli na ddengi’n ddiangol.
Fel y mae ei gofiannydd yn nodi, mae tafodiaith John Jones yn dangos nad dyn o Arfon ydoedd yn wreiddiol.[2] Mae mwy o’i gerddi wedi eu hargraffu yn y cylchgrawn Cymru Mawrth 1905.[3]
Ceir mwy o ddyfyniadau a thriniaeth fer ond campus o'i waith gan Dewi Jones, sydd yn nodi ei fod wedi cyfansoddi llawer o ganeuon serch ac yfed, carolau plygain a chaneuon i ganu ar achlysuron gofyn am fynediad i dŷ, megis caneuon Gŵyl Fair. Meddai: "Mae'r mwyafrif o waith barddol John Jones yn gerddi ystwyth, clir eu mynegiant a hawdd i'w darllen, gyda llawysgrifen... yn destlus tu hwnt."[4]