Hafod Boeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif fferm '''Hafod Boeth''' ar gyrion ''Y Groeslon'' ym mhlwyf ''Llandwrog''. Cyfeirir at y lle fel ''havod boeth'' mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif fferm '''Hafod Boeth''' ar gyrion | Saif fferm '''Hafod Boeth''' ar gyrion [[Y Groeslon]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Cyfeirir at y lle fel ''havod boeth'' mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) ac arhosodd y sillafiad yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd ar wahân i rai amrywiadau yn asesiadau'r Dreth Dir. | ||
Elfen gyntaf ''Hafod Boeth'' yw ''hafod'' < ''haf'' + ''bod'', sef llety'r haf. Mae'n cyfeirio at y drefn lle byddai ffermwyr yn symud eu hanifeiliaid o'r hendref ar y tir isel i'r hafod ar y llechweddau dros fisoedd yr haf. Ceir hafodydd fel rheol ar dir rhwng 600 a 1000 o droedfeddi ac ar ymylon ffriddoedd mynydd. Ceir nifer o fannau'n dwyn yr enw ''Hafod'' ar lechweddau [[Uwchgwyrfai]]. Fodd bynnag, ceir sawl lle o'r enw ''Hafod'', + elfen arall weithiau, ar dir gweddol isel | Elfen gyntaf ''Hafod Boeth'' yw ''hafod'' < ''haf'' + ''bod'', sef llety'r haf. Mae'n cyfeirio at y drefn lle byddai ffermwyr yn symud eu hanifeiliaid o'r hendref ar y tir isel i'r hafod ar y llechweddau dros fisoedd yr haf. Ceir hafodydd fel rheol ar dir rhwng 600 a 1000 o droedfeddi ac ar ymylon ffriddoedd mynydd. Ceir nifer o fannau'n dwyn yr enw ''Hafod'' ar lechweddau [[Uwchgwyrfai]]. Fodd bynnag, ceir sawl lle o'r enw ''Hafod'', + elfen arall weithiau, ar dir gweddol isel; yn wir, mae Hafod Boeth ar dir nad yw'n fynyddig o gwbl, rhwng [[Capel Bryn'rodyn (MC)]] a [[Maestryfan]]. Yn aml dewiswyd yr enw oherwydd yn syml ei fod yn apelio at berchennog yr annedd neu'r tir. Gall yr elfen ''boeth'' yn enw ''Hafod Boeth'' gyfeirio efallai at rywle a losgodd yn y gorffennol, neu'n fwy tebygol rywle lle roedd croen tenau o bridd ar graig a hwnnw'n debygol o grasu yn yr haul, neu fan a oedd yn llecyn cynnes ac yn dal yr haul. <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), 11.183-4.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Enwau lleoedd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 09:15, 18 Mawrth 2024
Saif fferm Hafod Boeth ar gyrion Y Groeslon ym mhlwyf Llandwrog. Cyfeirir at y lle fel havod boeth mor gynnar â 1638-39 (Casgliad Porth yr Aur, Prifysgol Bangor) ac arhosodd y sillafiad yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd ar wahân i rai amrywiadau yn asesiadau'r Dreth Dir.
Elfen gyntaf Hafod Boeth yw hafod < haf + bod, sef llety'r haf. Mae'n cyfeirio at y drefn lle byddai ffermwyr yn symud eu hanifeiliaid o'r hendref ar y tir isel i'r hafod ar y llechweddau dros fisoedd yr haf. Ceir hafodydd fel rheol ar dir rhwng 600 a 1000 o droedfeddi ac ar ymylon ffriddoedd mynydd. Ceir nifer o fannau'n dwyn yr enw Hafod ar lechweddau Uwchgwyrfai. Fodd bynnag, ceir sawl lle o'r enw Hafod, + elfen arall weithiau, ar dir gweddol isel; yn wir, mae Hafod Boeth ar dir nad yw'n fynyddig o gwbl, rhwng Capel Bryn'rodyn (MC) a Maestryfan. Yn aml dewiswyd yr enw oherwydd yn syml ei fod yn apelio at berchennog yr annedd neu'r tir. Gall yr elfen boeth yn enw Hafod Boeth gyfeirio efallai at rywle a losgodd yn y gorffennol, neu'n fwy tebygol rywle lle roedd croen tenau o bridd ar graig a hwnnw'n debygol o grasu yn yr haul, neu fan a oedd yn llecyn cynnes ac yn dal yr haul. [1]
Cyfeiriadau
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), 11.183-4.