Ysgolion Cylchynol ym mhlwyf Llanwnda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ar ganol y 18g, trefnwyd '''ysgolion cylchynol ym mhlwyf Llanwnda''' fel mewn llawer i blwyf arall ar draws Cymru, fel rhan o ymgyrch Griffith Jones, Ll...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ar ganol y 18g, trefnwyd '''ysgolion cylchynol ym mhlwyf Llanwnda''' fel mewn llawer i blwyf arall ar draws Cymru, fel rhan o ymgyrch [[Griffith Jones, Llanddowror]] i alluogi'r werin i ddarllen yr ysgrythur. Roedd ficer [[Llanwnda]] a Llanfaglan, y Parch. [[Richard Farrington]] yn arbennig o weithgar wrth hyrwyddo'r ysgolion hyn. Cododd ysgoldy wrth [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]] tua 1750 a phenodi athro, sef clerc y plwyf, dyn o'r enw Edward Davies, a gynhaliai ysgol yno ac, ar adegau, ym mhlwyf Llanfaglan hefyd. Cynhaliwyd ysgol yn ffermdy Cae'r Helygen yn y plwyf hefyd ar adegau, a threfnodd Farrington i'r ysgol gylchynol a gynhaliwyd yn Eglwys [[Betws Garmon]] ym 1749 symud ar draws yr afon i ffermdy Pentre Bach ym 1750 i ddiwallu'r angen am addysg yn y rhan bellenig honno o blwyf Llanwnda a ymestynnai ar hyd glannau gorllewinol [[Afon Gwyrfai]] hyd at y [[Rhyd-ddu]]. John Davies oedd yr athro yn y Pentre Bach. Mae'r gweithgarwch hwn yn fwy o ryfeddod wrth ystyried mai dyna'r cyfnod pan fu unig fab Farrington a oedd yn dal yn fyw, ac yn fuan wedyn, bu farw Mrs. Farrington hefyd. | Ar ganol y 18g, trefnwyd '''ysgolion cylchynol ym mhlwyf Llanwnda''' fel mewn llawer i blwyf arall ar draws Cymru, fel rhan o ymgyrch [[Griffith Jones, Llanddowror]] i alluogi'r werin i ddarllen yr ysgrythur. Roedd ficer [[Llanwnda]] a Llanfaglan, y Parch. [[Richard Farrington]] yn arbennig o weithgar wrth hyrwyddo'r ysgolion hyn. Cododd ysgoldy wrth [[Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda]] tua 1750 a phenodi athro, sef clerc y plwyf, dyn o'r enw Edward Davies, a gynhaliai ysgol yno ac, ar adegau, ym mhlwyf Llanfaglan hefyd. Cynhaliwyd ysgol yn ffermdy Cae'r Helygen yn y plwyf hefyd ar adegau, a threfnodd Farrington i'r ysgol gylchynol a gynhaliwyd yn Eglwys [[Betws Garmon]] ym 1749 symud ar draws yr afon i ffermdy Pentre Bach ym 1750 i ddiwallu'r angen am addysg yn y rhan bellenig honno o blwyf Llanwnda a ymestynnai ar hyd glannau gorllewinol [[Afon Gwyrfai]] hyd at y [[Rhyd-ddu]]. John Davies oedd yr athro yn y Pentre Bach. Mae'r gweithgarwch hwn yn fwy o ryfeddod wrth ystyried mai dyna'r cyfnod pan fu farw unig fab Farrington a oedd yn dal yn fyw, ac yn fuan wedyn, bu farw Mrs. Farrington hefyd. | ||
Yn ôl yr hanesydd [[W. Gilbert Williams]], roedd Farrington ymysg y rhai mwyaf brwd dros addysg mewn cyfnod lle bernid fod llawer o'r offeiriaid wedi anwybyddu anghenion eu praidd. Serch hynny, ni ddylid ystyried Farrington fel sylfaenydd neu unig ladmerydd addysg yn ei blwyfi. Roedd ei ragflaenydd fel ficer hefyd yn awyddus i ddarpau addysg i'r plwyfolion.<ref>W. Gilbert Williams, ''Y Parch. Richard Farrington M.A.'', ''Y Llenor'', Cyf.20, (1941), tt.142-7 [https://journals.library.wales/view/1319198/1324506/164#?xywh=-1698%2C-7%2C6480%2C415]</ref> | Yn ôl yr hanesydd [[W. Gilbert Williams]], roedd Farrington ymysg y rhai mwyaf brwd dros addysg mewn cyfnod lle bernid fod llawer o'r offeiriaid wedi anwybyddu anghenion eu praidd. Serch hynny, ni ddylid ystyried Farrington fel sylfaenydd neu unig ladmerydd addysg yn ei blwyfi. Roedd ei ragflaenydd fel ficer hefyd yn awyddus i ddarpau addysg i'r plwyfolion.<ref>W. Gilbert Williams, ''Y Parch. Richard Farrington M.A.'', ''Y Llenor'', Cyf.20, (1941), tt.142-7 [https://journals.library.wales/view/1319198/1324506/164#?xywh=-1698%2C-7%2C6480%2C415]</ref> |
Fersiwn yn ôl 12:07, 28 Chwefror 2024
Ar ganol y 18g, trefnwyd ysgolion cylchynol ym mhlwyf Llanwnda fel mewn llawer i blwyf arall ar draws Cymru, fel rhan o ymgyrch Griffith Jones, Llanddowror i alluogi'r werin i ddarllen yr ysgrythur. Roedd ficer Llanwnda a Llanfaglan, y Parch. Richard Farrington yn arbennig o weithgar wrth hyrwyddo'r ysgolion hyn. Cododd ysgoldy wrth Eglwys Sant Gwyndaf, Llanwnda tua 1750 a phenodi athro, sef clerc y plwyf, dyn o'r enw Edward Davies, a gynhaliai ysgol yno ac, ar adegau, ym mhlwyf Llanfaglan hefyd. Cynhaliwyd ysgol yn ffermdy Cae'r Helygen yn y plwyf hefyd ar adegau, a threfnodd Farrington i'r ysgol gylchynol a gynhaliwyd yn Eglwys Betws Garmon ym 1749 symud ar draws yr afon i ffermdy Pentre Bach ym 1750 i ddiwallu'r angen am addysg yn y rhan bellenig honno o blwyf Llanwnda a ymestynnai ar hyd glannau gorllewinol Afon Gwyrfai hyd at y Rhyd-ddu. John Davies oedd yr athro yn y Pentre Bach. Mae'r gweithgarwch hwn yn fwy o ryfeddod wrth ystyried mai dyna'r cyfnod pan fu farw unig fab Farrington a oedd yn dal yn fyw, ac yn fuan wedyn, bu farw Mrs. Farrington hefyd.
Yn ôl yr hanesydd W. Gilbert Williams, roedd Farrington ymysg y rhai mwyaf brwd dros addysg mewn cyfnod lle bernid fod llawer o'r offeiriaid wedi anwybyddu anghenion eu praidd. Serch hynny, ni ddylid ystyried Farrington fel sylfaenydd neu unig ladmerydd addysg yn ei blwyfi. Roedd ei ragflaenydd fel ficer hefyd yn awyddus i ddarpau addysg i'r plwyfolion.[1]