Cae Doctor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7. | Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7. | ||
[[ | [[Categori:Enwau lleoedd]] |
Fersiwn yn ôl 16:33, 27 Chwefror 2024
Roedd annedd o'r enw Cae Doctor ar gyrion gogleddol pentref Llandwrog ac mae Cae Doctor Bach ymhellach i'r gogledd, yn agos at Afon Carrog, y ffin rhwng plwyfi Llandwrog a Llanwnda. Cyfeirir at yr enw mewn dogfen ym 1725 (Casgliad Newborough, Glynllifon), ond mae'n bosib iawn fod yr enw'n mynd yn ôl yn sylweddol bellach na hynny. Ni wyddys a yw'r enw'n cyfeirio at ddoctor yn yr ystyr o feddyg yn rhoi meddyginiaethau, neu at rywun â theitl doctor mewn diwinyddiaeth neu'r gyfraith. O ystyried agosrwydd y lle at blas Glynllifon a'i deulu dylanwadol, efallai fod y doctor yn yr enw hwn yn cyfeirio at un o ŵyr amlwg Glynllifon. Roedd gan Morus Glynn, Archddiacon Meirionnydd, a fu farw ym 1525, radd LL.D., ac felly hefyd William Glynn LL.D., Archddiacon Môn a rheithor Clynnog, a fu farw ym 1557. Roedd hwn yn fab i Robert ap Maredudd a'r Elen Bwclai o Fiwmares, a gofféir yn enw Cae Elen Bulkeley. Yn asesiad y Dreth Dir am 1779 cyfeirir at y lle'n gartrefol fel car dogdor Bach. Roedd Cae Doctor yn lle agos iawn at galon y dramodydd John Gwilym Jones. Dyma gartref ei nain ac fe'i hanfarwolwyd ganddo yn ei ysgrifau.[1]
Cyfeiriadau
Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7.
- ↑ Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.66-7.