Bwlan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Bwlan''' yn enw ar dŷ a chapel i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llandwrog. Ym 1814 yr adeiladwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yno, on...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
1. Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, | 1. Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.54. |
Fersiwn yn ôl 15:28, 27 Chwefror 2024
Mae Bwlan yn enw ar dŷ a chapel i'r gogledd-ddwyrain o bentref Llandwrog. Ym 1814 yr adeiladwyd capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yno, ond ym 1724 cyfeirir ar y tŷ, sef Bwlan a Bwlan-bach (Casgliad Henblas B, Prifysgol Bangor). Ystyr yr enw bwlan (ceir yr amrywiad bylan hefyd) yw llestr neu fasged gron i ddal grawn ŷd neu wlân. Mae'n cyfleu rhywbeth crwn a boliog ac mewn enwau lleoedd mae'n cyfeirio fel rheol at fryncyn crwn. Arhosodd y sillafiad Bwlan yn weddol gyson ar hyd y blynyddoedd, ac eithrio rhai ffurfiau fel Boolan a Pwlan yn asesiadau'r Dreth Dir ar gyfer plwyf Llandwrog.1
Cyfeiriadau
1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.54.