Gwenllian Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Llenor a bardd oedd "'Gwenllian Jones"'. Ganwyd yn Nhrefor 8 Medi 1940. Mynychodd ysgolion Trefor, Ysgol Ramadeg Pwllheli, a phrifysgolion Abertawe a Bangor. Priododd hogyn o [[Trefor|Drefor]], John Rowlands, Gwydir Mawr, a'i ddilyn o i bedwar ban byd wrth iddo ddilyn ei alwedigaeth fel Cynllunydd Trefol gyda'r Cenhedloedd Unedig i wledydd a oedd yn datblygu yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Llenor a bardd oedd '''Gwenllian Jones''' (1940-2020). Ganwyd yn Nhrefor 8 Medi 1940. Mynychodd [[Ysgol Trefor]], Ysgol Ramadeg Pwllheli, a phrifysgolion Abertawe a Bangor. Priododd hogyn o [[Trefor|Drefor]], John Rowlands, Gwydir Mawr, a'i ddilyn o i bedwar ban byd wrth iddo ddilyn ei alwedigaeth fel Cynllunydd Trefol gyda'r Cenhedloedd Unedig i wledydd a oedd yn datblygu yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Dychwelodd Gwenllian i fyw yng Nghaernarfon ym 1985, er mwyn i'r plant Dafydd a Lora dderbyn addysg Gymraeg. Enillodd hi'r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Món am gyfrol a oedd yn 'addasiad o ddyddlyfr a llythyrau' a sgwennodd hi tra'n byw yn Bangladesh. Cyoeddwyd y gwaith fel cyfrol 'Llythyrau Bangladesh' yn 1998.

Fersiwn yn ôl 13:53, 3 Chwefror 2024

Llenor a bardd oedd Gwenllian Jones (1940-2020). Ganwyd yn Nhrefor 8 Medi 1940. Mynychodd Ysgol Trefor, Ysgol Ramadeg Pwllheli, a phrifysgolion Abertawe a Bangor. Priododd hogyn o Drefor, John Rowlands, Gwydir Mawr, a'i ddilyn o i bedwar ban byd wrth iddo ddilyn ei alwedigaeth fel Cynllunydd Trefol gyda'r Cenhedloedd Unedig i wledydd a oedd yn datblygu yn ail hanner yr ugeinfed ganrif.

Dychwelodd Gwenllian i fyw yng Nghaernarfon ym 1985, er mwyn i'r plant Dafydd a Lora dderbyn addysg Gymraeg. Enillodd hi'r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Món am gyfrol a oedd yn 'addasiad o ddyddlyfr a llythyrau' a sgwennodd hi tra'n byw yn Bangladesh. Cyoeddwyd y gwaith fel cyfrol 'Llythyrau Bangladesh' yn 1998.

Hoff gyfrwng ysgrifennu Gwenllian yn y blynyddoedd diweddar oedd barddoniaeth, ac mi drodd yn ôl at ei theithiau a phrofiadau tramor am lawer o'i hysbrydoliaeth. Ond ysgrifennodd hefyd am Gymru, ei hanes, a'i hargyfwng, mewn arddull ffres, gwahanol . e.g. yn ei cherdd Amos Jós a chri'r fór-forwyn gwelwn dranc y Gymraeg mewn darlun graffeg :

           Rwyn'n mygu, rwy'n marw, mae'r holl fyd yn rhy hallt!
           Rwy'n colli cywyddau a'u cynghanedd o'm gwallt.
           Holl sglein wedi darfod,
           A minnau'n fy nghardod
           Yn marw'n rhy gyflym, Amos Jós
           Yn rhy gyflym o lawer,
           Amos Jós.  [1] 

Cyhoeddwyd unig gyfrol o farddoniaeth Gwenllian ym mis Awst 2019 . Ei brawd, Geraint Jones, oedd yn gyfrifol am olygu a llywio'r gyfrol trwy'r wasg. Cafwyd noson lansio yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, a phlesiwyd Gwenllian gan ymateb y cyhoedd i'r gyfrol.

Bu farw Gwenllian yn Ysbyty Gwynedd ym mis Mawrth 2020 yn 79 oed, un o'r llawer a drechwyd gan pandemig Covid.

Er iddi adael bro'r Eifl yn ddeunaw oed, mae ei chariad i'r fro yn disgleirio yn ei cherdd serch, ' Hiraeth':

Hiraeth

       Does neb all gofio'r geiriau ond y chdi,
       Does neb all gofio'r Hendra ond y chdi;
       Haul hwyrnos ar y Clogwyn,
       A Cherrig Mawr y Gorllwyn
       Nant Mawr yn llawn o rhedyn
       I ti a mi.[2]

Cyfeiriad

  1. Cerddi Gwenllian
  2. Cerddi Gwenllian