Brwydr Ysgol Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
B Symudodd Heulfryn y dudalen Brwydr ysgol Llanaelhaearn i Brwydr Ysgol Llanaelhaearn heb adael dolen ailgyfeirio
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 10:38, 17 Ionawr 2024

Wedi brwydr i'w hachub, mae Ysgol Gynradd Llanaelhaearn wedi cau ers mis Medi 2020, ac mae plant y pentref bellach yn mynychu Ysgol Bro Plenydd (Y Ffôr, Llŷn) neu Ysgol Chwilog (Eifionydd). Gweddol ddi-ffrwt fu'r frwydr olaf i ddiogelu'r ysgol, ond bu brwydr sylweddol yn y cyfnod 1970-2 i'w chadw'n agored.

Erbyn 1970 roedd nifer y disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng i 27, a chan fod y Cyngor Sir wedi mabwysiadu argymhellion Adroddiad Gittins, dechreuodd Adran Addysg y Cyngor Sir ar y broses cau ysgolion â llai na 50 o ddisgyblion. (Roedd 17 o ysgolion drwy'r Sir dan fygythiad cyffelyb). Ond roedd rhieni Llanaelhaearn yn barod i frwydro. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus, trefnwyd a chyflwynwd deiseb i'r Adran Addysg yng Nghaernarfon, ond yn ofer - daeth y llythyr 'gorchymyn cau' ym mis Mawrth 1972. Ysgrifennodd rhieni plant ysgol Llanaelhaearn at y swyddfa Gymreig yn apelio yn erbyn y gorchymyn; cynhaliwyd cyfarfodydd tanbaid a bu gorymdaith trwy'r pentref yn ystod gwyliau Pasg.

Daeth cefnogaeth o lawer i gyfeiriad, gan gynnwys Cymdeithas yr Iaith Gymraeg :

'Dymuna Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ddatgan ei chefnogaeth lwyr i frwydr trigolion Llanaelhaearn dros gadw ysgol y pentref ar agor. Mae colli ysgol yn ergyd fawr i bentref, a gwelwyd eisoes fel y bu'n ergyd angheuol i ambell pentref Cymraeg.
Os ydym am gadw cefn gwlad Cymru yn fyw, rhaid inni amddiffyn y patrwm cymdeithasol a grewyd gan y cenedlaethau a aeth o'n blaen, ac y mae ysgol pentref yn rhan annatod o'r patrwm hwnnw.
Nid oes un ddadl addysgol ddilys dros ladd ysgol mewn pentref ac yn sicr ddigon nad oes yr un ddadl gymdeithasol dros wneud hynny: y rhieni ac nid y biwrocrat pell ddylai benderfynu tynged ysgol ein plant. 
Dymunwn bob bendith a llwyddiant ichwi yn eich brwydr'.

Gyda'r amser, ehangwyd y frwydr a gwneud yr ymgyrch yn un genedlaethol i gadw ysgolion cefn gwlad bychain. Trefnwyd rali fawr ar Faes Caernarfon ym mis Gorffennaf 1972 yn dilyn gorymdaith dan arweiniad Seindorf Trefor i'r Maes. Gwisgai'r plant eu crysau T 'Ysgol Llanaelhaearn' a dalient falwns gyda'r slogan 'Ni'n symudir'.

Ond ar y dydd Iau cyn y Rali, mewn Cyfarfod Llawn o'r Gyngor Sir pasiwyd i gadw'r ysgol yn agored ! Bu'r holl ymgyrchu a chanfasio cynghorwyr yn werth chweil - roedd dyfodol ein hysgol yn ddiogel! Rali ddathlu fu ar faes Caernarfon y pnawn Sadwrn hwnnw!

Daeth y llythyr swyddogol o'r Swyddfa Gymreig ddyddiedig Gorffennaf 28 i gadarnhau y byddai'r ysgol yn agor ym mis Medi 1972 wedi'r cyfan!

A'r wers i ni?

'gwn mai trwy ennill y fuddugoliaeth hon y bu i hunan-hyder y pentref adfywio'.

(Dr Carl Iwan Clowes - un o arweinwyr y frwydr).