Tafarn y Pembroke Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Tafarn ar brif stryd Pen-y-groes oedd y '''Pembroke Arms''', a godwyd ar dir yn perthyn i Ystad Bryncir, a hynny, mae'n debyg, tua 1867-8. Safai g...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Tafarn ar brif stryd [[Pen-y-groes]] oedd y '''Pembroke Arms''', a godwyd ar dir yn perthyn i [[Ystad Bryncir]], a hynny, mae'n debyg, tua 1867-8. Safai gyferbyn â [[Stag's Head Inn|thafarn y Stag]]. | Tafarn ar brif stryd [[Pen-y-groes]] oedd y '''Pembroke Arms''', a godwyd ar dir yn perthyn i [[Ystad Bryncir]], a hynny, mae'n debyg, tua 1867-8. Safai gyferbyn â [[Stag's Head Inn|thafarn y Stag]]. | ||
Ceir sawl hanes am y dafarn, y rhan fwyaf ohonynt yn tueddu i awgrymu mai un o dafarnau llai trefnus yr ardal ydoedd. Er enghraifft, roedd y trwyddedai ar y pryd, Jane Evans, yn cael ei dirwyo am werthu diod nad oedd yn fesur llawn ym 1873.<ref>''North Wales Chronicle'', 17.5.1873, t.5</ref> Bum mlynedd yn ddiweddarach, bu goryfed yna arwain at un o'r meddwyn oedd yno yn cael ei drywanu gan un arall oedd ymhell yn ei ddiod.<ref>''North Wales Express'', 8.2.1878, t.6</ref> Ym 1880, | Ceir sawl hanes am y dafarn, y rhan fwyaf ohonynt yn tueddu i awgrymu mai un o dafarnau llai trefnus yr ardal ydoedd. Er enghraifft, roedd y trwyddedai ar y pryd, Jane Evans, yn cael ei dirwyo am werthu diod nad oedd yn fesur llawn ym 1873.<ref>''North Wales Chronicle'', 17.5.1873, t.5</ref> Bum mlynedd yn ddiweddarach, bu goryfed yna arwain at un o'r meddwyn oedd yno yn cael ei drywanu gan un arall oedd ymhell yn ei ddiod.<ref>''North Wales Express'', 8.2.1878, t.6</ref> Ym 1880, cyhuddwyd y perchennog, Robert Thomas, o ganiatáu meddwdod yn y dafarn, er na chafodd ei ddirwyo.<ref>''North Wales Express'', 22.10.1880, t.8</ref> | ||
Ym 1891, prynwyd y dafarn oddi wrth Ystad Bryncir yn arwerthiant mawr yr ystad honno a hynny gan ŵr o Bwllheli, Solomon Jones; y pris oedd £250. Aeth Solomon Jones ati i geisio sicrhau tenant newydd, ond (mae'n ymddangos) heb lwyddiant, gan nad oedd y dafarn wedi bod ar agor ers sawl mis pan geisiodd adnewyddu'r drwydded. Roedd blaid Dirwest ar ei chryfaf a gwrthwynebodd eu twrnai ail-drwyddedu'r dafarn pan ystyriodd yr ynadon yr achos. Derbyniodd y llys y ddadl nad oedd hi wedi bod yn agored ers amser ac felly nad oedd mo'i hangen. Dyna oedd diwedd yr adeilad fel tafarn, ac fe'i trowyd yn dŷ.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 7.9.11892, t.5; ''North Wales Express'', 16.9.1892, t.7; ''North Wales Chronicle'', 17.9.1892, t.6</ref> | Ym 1891, prynwyd y dafarn oddi wrth Ystad Bryncir yn arwerthiant mawr yr ystad honno a hynny gan ŵr o Bwllheli, Solomon Jones; y pris oedd £250. Aeth Solomon Jones ati i geisio sicrhau tenant newydd, ond (mae'n ymddangos) heb lwyddiant, gan nad oedd y dafarn wedi bod ar agor ers sawl mis pan geisiodd adnewyddu'r drwydded. Roedd blaid Dirwest ar ei chryfaf a gwrthwynebodd eu twrnai ail-drwyddedu'r dafarn pan ystyriodd yr ynadon yr achos. Derbyniodd y llys y ddadl nad oedd hi wedi bod yn agored ers amser ac felly nad oedd mo'i hangen. Dyna oedd diwedd yr adeilad fel tafarn, ac fe'i trowyd yn dŷ.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 7.9.11892, t.5; ''North Wales Express'', 16.9.1892, t.7; ''North Wales Chronicle'', 17.9.1892, t.6</ref> |
Fersiwn yn ôl 11:32, 13 Tachwedd 2023
Tafarn ar brif stryd Pen-y-groes oedd y Pembroke Arms, a godwyd ar dir yn perthyn i Ystad Bryncir, a hynny, mae'n debyg, tua 1867-8. Safai gyferbyn â thafarn y Stag.
Ceir sawl hanes am y dafarn, y rhan fwyaf ohonynt yn tueddu i awgrymu mai un o dafarnau llai trefnus yr ardal ydoedd. Er enghraifft, roedd y trwyddedai ar y pryd, Jane Evans, yn cael ei dirwyo am werthu diod nad oedd yn fesur llawn ym 1873.[1] Bum mlynedd yn ddiweddarach, bu goryfed yna arwain at un o'r meddwyn oedd yno yn cael ei drywanu gan un arall oedd ymhell yn ei ddiod.[2] Ym 1880, cyhuddwyd y perchennog, Robert Thomas, o ganiatáu meddwdod yn y dafarn, er na chafodd ei ddirwyo.[3]
Ym 1891, prynwyd y dafarn oddi wrth Ystad Bryncir yn arwerthiant mawr yr ystad honno a hynny gan ŵr o Bwllheli, Solomon Jones; y pris oedd £250. Aeth Solomon Jones ati i geisio sicrhau tenant newydd, ond (mae'n ymddangos) heb lwyddiant, gan nad oedd y dafarn wedi bod ar agor ers sawl mis pan geisiodd adnewyddu'r drwydded. Roedd blaid Dirwest ar ei chryfaf a gwrthwynebodd eu twrnai ail-drwyddedu'r dafarn pan ystyriodd yr ynadon yr achos. Derbyniodd y llys y ddadl nad oedd hi wedi bod yn agored ers amser ac felly nad oedd mo'i hangen. Dyna oedd diwedd yr adeilad fel tafarn, ac fe'i trowyd yn dŷ.[4]