John Jones Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Roedd yn frawd iau i [[Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)]]. Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd [[Capel Tal-y-sarn (MC)|capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn]] ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem 'Llusern yw dy air i'm traed', y ganig 'Yr Afonig' a'r darn 'Lw-li-bei' i blant yn boblogaidd. | Roedd yn frawd iau i [[Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)]]. Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd [[Capel Tal-y-sarn (MC)|capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn]] ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem 'Llusern yw dy air i'm traed', y ganig 'Yr Afonig' a'r darn 'Lw-li-bei' i blant yn boblogaidd. | ||
Am flynyddoedd bu'n gyfeilydd poblogaidd ar draws y dyffryn, a bu'n dysgu rhai i chwarae'r piano hefyd. Cymhwysodd yn ALCM yng Ngholeg Cerdd Llundain ym 1918.<ref>Y Dinesydd Cymreig, 8.1.1919, t.3</ref> | Am flynyddoedd bu'n gyfeilydd poblogaidd ar draws y dyffryn, a bu'n dysgu rhai i chwarae'r piano hefyd. Cymhwysodd yn ALCM yng Ngholeg Cerdd Llundain ym 1918.<ref>''Y Dinesydd Cymreig'', 8.1.1919, t.3</ref> | ||
Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.<ref> Seiliwyd rhan o'r uchod ar erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950'', (Llundain, 1970), t.46.</ref> | Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.<ref> Seiliwyd rhan o'r uchod ar erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950'', (Llundain, 1970), t.46.</ref> |
Fersiwn yn ôl 12:20, 27 Hydref 2023
Roedd John Jones Owen (1876-1947) yn gerddor a aned 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn. Fe aned yn ail fab i Hugh Owen (g.1833), crydd a oedd yn wreiddiol o Fellteyrn, a Mary, a aned ym 1840). Roedd y teulu’n byw ym Mryn Coed, Tal-y-sarn, ac roedd yna 6 o feibion a dwy ferch yn y teulu.[1]
Roedd yn frawd iau i Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy). Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem 'Llusern yw dy air i'm traed', y ganig 'Yr Afonig' a'r darn 'Lw-li-bei' i blant yn boblogaidd.
Am flynyddoedd bu'n gyfeilydd poblogaidd ar draws y dyffryn, a bu'n dysgu rhai i chwarae'r piano hefyd. Cymhwysodd yn ALCM yng Ngholeg Cerdd Llundain ym 1918.[2]
Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.[3]