Elusen Dr Lewis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cafodd '''Elusen Dr Lewis''' ei sefydlu tua 1683 trwy gyfrwng cymal yn ewyllys Dr William Lewis, D.D., rheithor plwyf Allhallows-on-the-Wall yn ninas Llun...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Cafodd '''Elusen Dr Lewis''' ei sefydlu tua 1683 trwy gyfrwng cymal yn ewyllys Dr William Lewis, D.D., rheithor plwyf Allhallows-on-the-Wall yn ninas Llundain. Nid yw'n glir o'i ewyllys o ba le yng Ngogledd Cymru yr hanodd, ond mae cliw, efallai, yn y ffaith mai un o ddarpariaethau gwreiddiol ei ewyllys oedd talu am bregethau blynyddol yn eglwysi Llangristiolus a Cherrig Ceinwen yn Ynys Môn. £3000 oedd y gwaddoliad gwreiddiol. Roedd hynny'n swm anferthol y pryd hynny, yn arbennig felly gan fod nifer o gymunroddion hael i neiaint a nithoedd Dr Lewis yn yr ewyllys hefyd, a'r ffaith fod y £3000 i'w talu mewn arian o fewn tri mis i'w farwolaeth. Enwyd nifer o brif dirfeddianwyr Môn ynghyd ag Esgobion Bangor, Llanelwy a Rochester fel ymddiriedolwyr. Prif ddibenion yr elusen oedd talu am gynhaliaeth, addysg a phrentisio ar gyfer dau fachgen dlawd o Gerrig Ceinwen; talu am ysgoloriaeth i bedwar bachgen tlawd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt a phedwar yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (gyda'r flaenoriaeth i gael ei roi i fyfyrwyr o Fôn ac wedyn i rai o Ogledd Cymru); a thalu blwydd-dal i chwe gweddw gweinidog tlawd. Rioedds yr arian i gael ei ddefnyddio i brynu eiddo a fyddai'n cynhyrchu incwm blynyddol.<ref>Yr Archifdy Gwladol, PROB 11/372/324</ref>
Cafodd '''Elusen Dr Lewis''' ei sefydlu tua 1683 trwy gyfrwng cymal yn ewyllys Dr William Lewis, D.D., rheithor plwyf Allhallows-on-the-Wall yn ninas Llundain. Nid yw'n glir o'i ewyllys o ba le yng Ngogledd Cymru yr hanodd, ond mae cliw, efallai, yn y ffaith mai un o ddarpariaethau gwreiddiol ei ewyllys oedd talu am bregethau blynyddol yn eglwysi Llangristiolus a Cherrig Ceinwen yn Ynys Môn. £3000 oedd y gwaddoliad gwreiddiol. Roedd hynny'n swm anferthol y pryd hynny, yn arbennig felly gan fod nifer o gymunroddion hael i neiaint a nithoedd Dr Lewis yn yr ewyllys hefyd, a'r ffaith fod y £3000 i'w talu mewn arian o fewn tri mis wedi iddo farw. Enwyd nifer o brif dirfeddianwyr Môn ynghyd ag Esgobion Bangor, Llanelwy a Rochester fel ymddiriedolwyr. Prif ddibenion yr elusen oedd talu am gynhaliaeth, addysg a phrentisio ar gyfer dau fachgen dlawd o Gerrig Ceinwen; talu am ysgoloriaeth i bedwar bachgen tlawd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt a phedwar yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (gyda'r flaenoriaeth i gael ei roi i fyfyrwyr o Fôn ac wedyn i rai o Ogledd Cymru); a thalu blwydd-dal i chwe gweddw gweinidog tlawd. Roedd yr arian i gael ei ddefnyddio i brynu eiddo a fyddai'n cynhyrchu incwm blynyddol.<ref>Yr Archifdy Gwladol, PROB 11/372/324</ref>


Sefydlwyd yr elusen, ac yn groes i'r rhan fwyaf o elusennau a sefydlwyd ers canrifoedd, mae'n parhau mewn bodolaeth, er bod yr incwm erbyn hyn ond ychydig o gannoedd y flwyddyn. Mae hysbyseb gan glerc yr elusen, John Thomas, Stryd y Farchnad, Caernarfon, yn y ''North Wales Chronicle''<ref>''North Wales Chronicle'', 31.7.1869, t.1</ref> yn gofyn am geisiadau gan ddynion ifanc sydd am fynd yn brentis. Ar yr un dudalen, nodir bod pwyllgor yr elusen ar gyfer gweddwon a phlant amddifaid clerigwyr am gyfarfod, a bron yn sicr, sôn am pwyllgor yr ymddiriedolwyr sydd yma. Erbyn heddiw, Esgob Bangor yw'r unig ymddiriedolwr.
Sefydlwyd yr elusen, ac yn groes i'r rhan fwyaf o elusennau a sefydlwyd ganrifoedd yn ôl, mae'n parhau mewn bodolaeth, er bod yr incwm erbyn hyn ond ychydig o gannoedd y flwyddyn. Mae hysbyseb gan glerc yr elusen, John Thomas, Stryd y Farchnad, Caernarfon, yn y ''North Wales Chronicle''<ref>''North Wales Chronicle'', 31.7.1869, t.1</ref> yn gofyn am geisiadau gan ddynion ifanc sydd am fynd yn brentis. Ar yr un dudalen, nodir bod pwyllgor yr elusen ar gyfer gweddwon a phlant amddifaid clerigwyr am gyfarfod, a bron yn sicr, sôn am pwyllgor yr ymddiriedolwyr sydd yma.  


Mae sôn am yr elusen yn berthnasol i [[Uwchgwyrfai]] gan fod yr ymddirioedolwyr wedi prynu eiddo mhlwyf [[Llanaelhaearn]] er mwyn buddsoddi peth o'r arian. Erbyn adeg y degwm tua 1840, roedd ffermydd [[Cwm Ceiliog]], Ynys Goch, Cefn Bronmiod, Tyddyn Coch, Terfyn, Tŷ'n y Graig, Tyddyn y felin, a Thyddyn yr Eglwys,,yn eiddo i'r elusen, a dichon mai'r ystad gyfan a brynwyd tua 1683.<ref>LlGC, Dogfen Pennu'r Degwm ar gyer plwyf Llanaelhaearn</ref>
Mae nifer helaeth o lythyrau'n ymdrin â materion yr elusen ymysg gohebiaeth [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough|Arglwydd Newborough]], tra oedd yn ymddiriedolwr.<ref>Archifdy Caernarfon. Ceir amryw o lythyrau rhwng y rhifau XD2/18068 a XD2/24258</ref>
 
Mae sôn am yr elusen yn berthnasol i [[Uwchgwyrfai]] gan fod yr ymddiriedolwyr wedi prynu eiddo ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]] er mwyn buddsoddi peth o'r arian. Erbyn adeg y degwm tua 1840 pan ceir rhestr o eiddo'r elusen, roedd ffermydd [[Cwm Ceiliog]], Ynys Goch, Cefn Bronmiod, Tyddyn Coch, Terfyn, Tŷ'n y Graig, Tyddyn y Felin, a Thyddyn yr Eglwys yn berchen iddi, a dichon mai dyma'r ystad gyfan a brynwyd tua 1683.<ref>LlGC, Dogfen Pennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn</ref> Gwerthwyd yr eiddo hwn gan yr elusen ym 1920.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14563</ref>
 
Fel y dywedwyd, mae'rt elusen yn dal yn weithredol, er bod y tair brif amcan - cynnal tlodion, addysgu a helpu gweddwon clerigwyr - wedi eu rhannu'n dair elusen ar wahân. Erbyn heddiw hefyd, Esgob Bangor yw'r unig ymddiriedolwr.<ref>Gwefan Y Comisiwn Elusennau [https://register-of-charities.charitycommission.gov.uk/cy/charity-search?p_p_id=uk_gov_ccew_onereg_charitydetails_web_portlet_CharityDetailsPortlet&p_p_lifecycle=0&p_p_state=maximized&p_p_mode=view&_uk_gov_ccew_onereg_charitydetails_web_portlet_CharityDetailsPortlet_regId=216361&_uk_gov_ccew_onereg_charitydetails_web_portlet_CharityDetailsPortlet_subId=0], cyrchwyd 19.9.2023</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 14:08, 19 Medi 2023

Cafodd Elusen Dr Lewis ei sefydlu tua 1683 trwy gyfrwng cymal yn ewyllys Dr William Lewis, D.D., rheithor plwyf Allhallows-on-the-Wall yn ninas Llundain. Nid yw'n glir o'i ewyllys o ba le yng Ngogledd Cymru yr hanodd, ond mae cliw, efallai, yn y ffaith mai un o ddarpariaethau gwreiddiol ei ewyllys oedd talu am bregethau blynyddol yn eglwysi Llangristiolus a Cherrig Ceinwen yn Ynys Môn. £3000 oedd y gwaddoliad gwreiddiol. Roedd hynny'n swm anferthol y pryd hynny, yn arbennig felly gan fod nifer o gymunroddion hael i neiaint a nithoedd Dr Lewis yn yr ewyllys hefyd, a'r ffaith fod y £3000 i'w talu mewn arian o fewn tri mis wedi iddo farw. Enwyd nifer o brif dirfeddianwyr Môn ynghyd ag Esgobion Bangor, Llanelwy a Rochester fel ymddiriedolwyr. Prif ddibenion yr elusen oedd talu am gynhaliaeth, addysg a phrentisio ar gyfer dau fachgen dlawd o Gerrig Ceinwen; talu am ysgoloriaeth i bedwar bachgen tlawd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt a phedwar yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (gyda'r flaenoriaeth i gael ei roi i fyfyrwyr o Fôn ac wedyn i rai o Ogledd Cymru); a thalu blwydd-dal i chwe gweddw gweinidog tlawd. Roedd yr arian i gael ei ddefnyddio i brynu eiddo a fyddai'n cynhyrchu incwm blynyddol.[1]

Sefydlwyd yr elusen, ac yn groes i'r rhan fwyaf o elusennau a sefydlwyd ganrifoedd yn ôl, mae'n parhau mewn bodolaeth, er bod yr incwm erbyn hyn ond ychydig o gannoedd y flwyddyn. Mae hysbyseb gan glerc yr elusen, John Thomas, Stryd y Farchnad, Caernarfon, yn y North Wales Chronicle[2] yn gofyn am geisiadau gan ddynion ifanc sydd am fynd yn brentis. Ar yr un dudalen, nodir bod pwyllgor yr elusen ar gyfer gweddwon a phlant amddifaid clerigwyr am gyfarfod, a bron yn sicr, sôn am pwyllgor yr ymddiriedolwyr sydd yma.

Mae nifer helaeth o lythyrau'n ymdrin â materion yr elusen ymysg gohebiaeth Arglwydd Newborough, tra oedd yn ymddiriedolwr.[3]

Mae sôn am yr elusen yn berthnasol i Uwchgwyrfai gan fod yr ymddiriedolwyr wedi prynu eiddo ym mhlwyf Llanaelhaearn er mwyn buddsoddi peth o'r arian. Erbyn adeg y degwm tua 1840 pan ceir rhestr o eiddo'r elusen, roedd ffermydd Cwm Ceiliog, Ynys Goch, Cefn Bronmiod, Tyddyn Coch, Terfyn, Tŷ'n y Graig, Tyddyn y Felin, a Thyddyn yr Eglwys yn berchen iddi, a dichon mai dyma'r ystad gyfan a brynwyd tua 1683.[4] Gwerthwyd yr eiddo hwn gan yr elusen ym 1920.[5]

Fel y dywedwyd, mae'rt elusen yn dal yn weithredol, er bod y tair brif amcan - cynnal tlodion, addysgu a helpu gweddwon clerigwyr - wedi eu rhannu'n dair elusen ar wahân. Erbyn heddiw hefyd, Esgob Bangor yw'r unig ymddiriedolwr.[6]

Cyfeiriadau

  1. Yr Archifdy Gwladol, PROB 11/372/324
  2. North Wales Chronicle, 31.7.1869, t.1
  3. Archifdy Caernarfon. Ceir amryw o lythyrau rhwng y rhifau XD2/18068 a XD2/24258
  4. LlGC, Dogfen Pennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/14563
  6. Gwefan Y Comisiwn Elusennau [1], cyrchwyd 19.9.2023