Cwrt Beddgelert: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cynhelid '''Cwrt Beddgelert''' ym Meddgelert bob blwyddyn lle cesglid taliadau a oedd, yn wreiddiol, yn ddyledus i [[Abaty Aberconwy]]. Hyd at 30au'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn ofynnol i brif drigolion trefgorddau [[Nancall]] a [[Cwm|Chwm (trefgordd)]] deithio i Feddgelert yn flynyddol i dalu dirwyon (sef taliadau am rai pethau penodol). Roedd yn un o lawer o fân lysoedd a oroesodd o systemau casglu trethi a chynnal llysoedd maenorol a fodolai yn y Canol Oesoedd. Mae manylion am y cwrt i'w cael yn ''Y Brython'': | |||
Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal. “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.” Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn :– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon. Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon. Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd. Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri. Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.<ref>''Y Brython'', Tachwedd 1861, t.435</ref> | Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal. “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.” Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn :– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon. Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon. Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd. Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri. Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.<ref>''Y Brython'', Tachwedd 1861, t.435</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 08:18, 6 Medi 2023
Cynhelid Cwrt Beddgelert ym Meddgelert bob blwyddyn lle cesglid taliadau a oedd, yn wreiddiol, yn ddyledus i Abaty Aberconwy. Hyd at 30au'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yn ofynnol i brif drigolion trefgorddau Nancall a Chwm (trefgordd) deithio i Feddgelert yn flynyddol i dalu dirwyon (sef taliadau am rai pethau penodol). Roedd yn un o lawer o fân lysoedd a oroesodd o systemau casglu trethi a chynnal llysoedd maenorol a fodolai yn y Canol Oesoedd. Mae manylion am y cwrt i'w cael yn Y Brython:
Fel yr oeddwn mewn ymgom â hen amaethwr parchus o ben uchaf plwyf Clynnog Fawr yn Arfon; ac yntau yn henafgwr, gofynais iddo, (yn ol fy arfer i hen bobl,) a oedd dim byd nodedig mewn arfer gwlad, neu olion henafol, y gwyddai, neu a glywai am danynt yn ei ardal. “Na wn i,” meddai yntau, “am ddim nodedig er fy nghof i, ond Cwrt Beddgelert.” Holais ef am ei natur; a’r manylion a gefais oedd hyn :– Yr oedd y tyddynod canlynol yn ffurfio treflan y Cwrt :– Monachdy Gwyn, Cwm, Ynys yr Arch, Cae Hir, Hengwm, Llwydmor, Nancelloedd, a’r Tai Duon. Yr oedd yn rhaid i amaethwyr y tyddynod dalu dirwy am gadw myharen (hwrdd) du, ac am bysgota yn yr afon. Nid oedd dim treth ffordd fawr arnynt; na dim rhwymau i adgyweirio ffyrdd y plwyf, ond y rhai a oedd yn myned drwy y tyddynod a enwyd. Yr oedd y tir-ddeiliaid hyn yn myned i Feddgelert bob dechreu haf i gadw’r Cwrt; a byddent yno am ddeuddydd neu dri. Y mae’r Cwrt wedi peidio ers tua pedair blynedd ar hugain.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Y Brython, Tachwedd 1861, t.435