Pant Du: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 13: | Llinell 13: | ||
[[Categori: Safleoedd nodedig]] | [[Categori: Safleoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Plastai]] | [[Categori:Plastai]] | ||
[[Categori:Tai nodedig]] | |||
[[Categori: Adeiladau ac adeiladwaith]] | [[Categori: Adeiladau ac adeiladwaith]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:26, 28 Ionawr 2023
Mae Pant Du yn blasty bychan ym mhlwyf hanesyddol Llanllyfni, ar lethrau Dyffryn Nantlle yn wynebu'r de. Mae'r adeilad presennol yn dyddio'n ôl i ddechrau'r 17g yn ei ffurf bresennol, er iddo olynu tŷ cynharach, a oedd yn gartref i Humphrey ap Richard, ficer Llanbeulan, Ynys Môn, o 1548 hyd 1587, sydd â'i gladdgell yn eglwys y plwyf.[1] Mae patrwm y tŷ yn adlewyrchu tai'r cyfnod gyda neuadd neu gegin fawr ar y llawr isaf, a staer garreg ar gylchdro wrth ochr aelwyd eang. Mae'r hen dŷ yn wag ac mewn cyflwr a fyddai'n peri pryder pe na byddai'r eiddo bellach yn nwylo teulu lleol sydd yn datblygu'r safle'n winllan a pherllan lwyddiannus.
Credir iddo gael ei adeiladu tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg ar gyfer William Humphrey, a fu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1611-12, a'i wraig Catrin Morgan.[2] Gwelir eu harfbais gyda llythrennau cyntaf eu henwau o bobtu (W.H a K.M.) uwchben hen le tân yn y tŷ.[3]
Roedd Teulu Pant Du yn berchen ar ystad sylweddol yn y cylch, a oedd yn ymestyn dros 1800 o erwau.[4]
Erbyn hyn ceir gwinllannoedd a pherllannoedd ar dir fferm Pant Du, ond datblygiad newydd yn yr 21g yw hwn.
Cyfeiriadau
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, (Llundain, 1960), t.207
- ↑ Griffith, John Edwards, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 157; Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle. (Penygroes, 1872)
- ↑ Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol
- ↑ LLGC, llsgr. 11507E