Tyrpeg Gelli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Safai giât '''Tyrpeg Gelli''' ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng Clynnog Fawr a Rhyd-ddu, ger fferm Gelli-ffrydiau, Nantlle, ar y darn o'r...'
 
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Safai giât '''Tyrpeg Gelli''' ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng [[Clynnog Fawr]] a [[Rhyd-ddu]], ger fferm [[Gelli-ffrydiau]], [[Nantlle]], ar y darn o'r hen ffordd sydd erbyn heddiw yn B4418. Mae'r tŷ tyrpeg yn dal i sefyll, ac yn cael ei ddefnyddio fel tŷ, a'i enw'n "Hen Dyrpeg". Roedd y lleoliad wedi cael ei ddewis, mae'n debyg, er mwyn dal yr holl drafnidaeth a theithwyr a anelai am Ryd-ddu o rywle yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1810, ond prin oedd y tollau a godwyd yno. Yr arfer oedd i [[Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon]] osod pob giat dyrpeg i'r sawl oedd am gynnig y swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a aeth heibio'r giât. Giât y Gelli oedd y lleiaf proffidiol o holl giatiau'r Ymddiriedolaeth, gyda'r rhent yn amrywio rhwng £8 a £29 y flwyddyn, a £10 yn unig fel arfer. Dylid cymharu hyn efo rhent o ryw £100 y flwyddyn am giât [[Tyrpeg Dolydd]], a hyd at £400 am giât Pont Seiont.<ref>R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", ''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.17 (1956), t.69</ref>
Safai giât '''Tyrpeg Gelli''' ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng [[Clynnog Fawr]] a [[Rhyd-ddu]], ger fferm [[Gelli-ffrydiau]], [[Nantlle]], ar y darn o'r hen ffordd sydd erbyn heddiw yn B4418. Mae'r tŷ tyrpeg yn dal i sefyll, ac yn cael ei ddefnyddio fel tŷ, a'i enw'n "Hen Dyrpeg". Roedd y lleoliad wedi cael ei ddewis, mae'n debyg, er mwyn dal yr holl drafnidaeth a theithwyr a anelai am Ryd-ddu o rywle yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1810, ond prin oedd y tollau a godwyd yno. Yr arfer oedd i [[Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon]] osod pob giat dyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Giât y Gelli oedd y lleiaf proffidiol o holl giatiau'r Ymddiriedolaeth, gyda'r rhent yn amrywio rhwng £8 a £29 y flwyddyn, a £10 yn unig fel arfer. Dylid cymharu hyn efo rhent o ryw £100 y flwyddyn am giât [[Tyrpeg Dolydd]], a hyd at £400 am giât Pont Seiont.<ref>R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", ''Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.17 (1956), t.69</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Ffyrdd]]
[[Categori:Ffyrdd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:19, 19 Ionawr 2023

Safai giât Tyrpeg Gelli ar y ffordd dyrpeg a redai rhwng Clynnog Fawr a Rhyd-ddu, ger fferm Gelli-ffrydiau, Nantlle, ar y darn o'r hen ffordd sydd erbyn heddiw yn B4418. Mae'r tŷ tyrpeg yn dal i sefyll, ac yn cael ei ddefnyddio fel tŷ, a'i enw'n "Hen Dyrpeg". Roedd y lleoliad wedi cael ei ddewis, mae'n debyg, er mwyn dal yr holl drafnidaeth a theithwyr a anelai am Ryd-ddu o rywle yn Nyffryn Nantlle. Fe'i codwyd rywbryd ar ôl 1810, ond prin oedd y tollau a godwyd yno. Yr arfer oedd i Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon osod pob giat dyrpeg i'r sawl a gynigiai'r swm blynyddol uchaf am yr hawl i godi ar deithwyr a ai heibio'r giât. Giât y Gelli oedd y lleiaf proffidiol o holl giatiau'r Ymddiriedolaeth, gyda'r rhent yn amrywio rhwng £8 a £29 y flwyddyn, a £10 yn unig fel arfer. Dylid cymharu hyn efo rhent o ryw £100 y flwyddyn am giât Tyrpeg Dolydd, a hyd at £400 am giât Pont Seiont.[1]

Cyfeiriadau

  1. R.T. Pritchard, "The Caernarvonshire Turnpike Trust", Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.17 (1956), t.69