Richard Samuel Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Gweinidogion]] | [[Categori:Gweinidogion]] | ||
[[Categori: | [[Categori:Athrawon]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 18:39, 4 Ionawr 2023
Roedd Richard Samuel Hughes (1888-1952) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac yn athro'n ddiweddarach.
Fe'i ganed 18 Mehefin 1888 yn Nhanycelyn, Rhostryfan yn fab i Samuel a Mary Hughes. Wedi addysg gynnar yn ysgol y pentref bu'n gweithio am rai blynyddoedd mewn masnachdy cyn mynd i Ysgol Ragbaratoawl Clynnog gyda'i fryd ar fynd yn weinidog. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle graddiodd yn y celfyddydau, ac yna graddiodd mewn Diwinyddiaeth o'r Coleg Diwinyddol, Aberystwyth. Bu'n weinidog yn Porth, Y Rhondda; yn Y Ffôr, Llŷn ac ym Mlaenau Ffestiniog. Ym 1930 fe'i penodwyd yn athro i Goleg Clwyd, Y Rhyl (sef y coleg a ffurfiwyd pan symudodd Ysgol Clynnog yno), dan y Parch. R. Dewi Williams (prifathro olaf Ysgol Clynnog). Olynodd Dewi Williams fel prifathro Coleg Clwyd, gan wasanaethu yn y swydd honno am 13 mlynedd. Roedd yn bregethwr grymus a chyflawnodd gryn swm o waith ym maes beirniadaeth ysgrythurol a phynciau diwinyddol. Cyhoeddwyd gwerslyfr o'i eiddo ar Efengyl Mathew ym 1937.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Seiliwyd ar erthygl ar Richard Samuel Hughes yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain 1997), t.79