John Jones Owen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''John Jones Owen''' (1876-1947) yn gerddor a aned 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, yn fab i Hugh a Mary Owen. Roedd yn frawd i Richard Gri...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''John Jones Owen''' (1876-1947) yn gerddor a aned 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, yn fab i Hugh a Mary Owen. | Roedd '''John Jones Owen''' (1876-1947) yn gerddor a aned 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, [[Tal-y-sarn]], yn fab i Hugh a Mary Owen. | ||
Roedd yn frawd i Richard Griffith Owen | Roedd yn frawd i [[Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy)]]. Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd [[Capel Tal-y-sarn (MC)|capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn]] ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem 'Llusern yw dy air i'm traed', y ganig 'Yr Afonig' a'r darn 'Lw-li-bei' i blant yn boblogaidd. | ||
Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.< | Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.<ref> Seiliwyd yr uchod ar erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950'', (Llundain, 1970), t.46.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[categori:Cerddorion]] |
Fersiwn yn ôl 21:03, 29 Rhagfyr 2022
Roedd John Jones Owen (1876-1947) yn gerddor a aned 2 Mai 1876 ym Mryn-y-coed, Tal-y-sarn, yn fab i Hugh a Mary Owen.
Roedd yn frawd i Richard Griffith Owen (Pencerdd Llyfnwy). Cafodd addysg gerddorol dda a dysgodd ganu'r organ a'r feiola. Ef oedd arweinydd côr merched Dyffryn Nantlle a gafodd wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 1897. Penodwyd ef yn organydd capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhal-y-sarn ac olynodd ei dad fel codwr canu yno. Cyhoeddodd amryw o ddarnau cerddorol, a bu ei anthem 'Llusern yw dy air i'm traed', y ganig 'Yr Afonig' a'r darn 'Lw-li-bei' i blant yn boblogaidd.
Ymfudodd i'r Unol Daleithiau ym 1921 ac yno enillodd radd Mus.Bac. Daeth yn organydd a chôr-feistr Eglwys Efengylaidd Wilkesbarre. Bu'n gwasanaethu fel beirniad cerdd ac arweinydd cymanfaoedd canu ac roedd yn arweinydd Côr Meibion Orpheus y dref. Yno y bu farw 21 Ebrill 1947 a'i gladdu ym mynwent Mynydd Greenwood, Wilkesbarre.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Seiliwyd yr uchod ar erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950, (Llundain, 1970), t.46.