William John Hughes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 13: Llinell 13:
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Athrawon]]
[[Categori:Athrawon]]
[[Categori:Darlithwyr]]
[[Categori:Ysgolheigion]]
[[Categori:Ysgolheigion]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:59, 29 Rhagfyr 2022

Roedd William John Hughes (1891-1945) yn athro ysgol a choleg.

Fe'i ganed ger Penfforddelen, Y Groeslon ar 10 Medi 1891, yn fab i John Owen ac Ann Jane Hughes. Symudodd y teulu i fyw i Nantlle pan oedd yn blentyn. Chwarelwr oedd ei dad ac arolygydd llechi'n ddiweddarach. Daeth i'r amlwg ei fod yn fachgen dawnus pan oedd yn ddisgybl yn yr ysgol sir ym Mhen-y-groes rhwng 1904-08. Cofrestrodd yn fyfyriwr yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ym 1909 ac yno drachefn cafodd yrfa ddisglair gan ennill nifer o ysgoloriaethau am ragoriaeth ei waith. Graddiodd mewn Saesneg ym 1912 ac fe'i gosodwyd yn y dosbarth cyntaf am dystysgrif y Bwrdd Addysg. Yr un flwyddyn aeth am dymor i Nuremberg yn Yr Almaen, gan ddilyn cwrs mewn Ffrangeg ac Almaeneg, a'r dulliau o'u dysgu, yn Le Cours de Langues Institute. Yno hefyd bu'n dysgu Saesneg i Almaenwyr mewn dosbarthiadau nos.

Treuliodd chwe blynedd wedyn yn athro mewn ysgolion uwchradd, gan gynnwys Ysgol Friars, Bangor o 1916-19. Ym 1919 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn y Saesneg yn Y Coleg Normal, Bangor, swydd a ddaliodd hyd ddiwedd ei oes. Ym 1919 hefyd dyfarnwyd gradd M.A. iddo am draethawd ar Wales and the Welsh in English Literature from Shakespeare to Scott. Cyhoeddwyd hwn yn llawlyfr ym 1924 gan Hughes a'i Fab, Wrecsam ac mae'n waith hynod gynhwysfawr a difyr i'w ddarllen yn ogystal.

Yn ystod y degawd rhwng 1920 a 1930 rhoddodd gryn sylw i faterion addysg yng Nghymru, gan gyhoeddi ffrwyth ei ymchwil mewn cyhoeddiadau megis Y Genedl, Yr Efrydydd a'r Welsh Outlook. Bu'n athro hefyd ar lawer o ddosbarthiadau nos i oedolion ym maes llenyddiaeth Saesneg, a bu'n arholwr cynorthwyol mewn Saesneg yn arholiadau'r Bwrdd Canol Cymreig. Chwaraeodd ran flaenllaw hefyd ym mywyd cyhoeddus dinas Bangor. Bu'n aelod o gyngor y ddinas o 1932 hyd 1944, a chadeirydd y pwyllgor materion cyffredinol o 1939 hyd 1944. Roedd yn ŵr o ddiwylliant eang ac o farn gytbwys a chlir ac yn uchel iawn ei barch ymysg ei gyfoedion.

Ym 1925 priododd â Laura Binns, athrawes yn Y Coleg Normal, a chawsant ddwy ferch. Nid oedd William John Hughes yn gryf o gorff a bu'n wael ym 1921. Gwaethygodd ei gyflwr ym mlynyddoedd olaf yr Ail Ryfel Byd a bu farw 24 Ebrill 1945 a'i gladdu ym mynwent Glanadda, Bangor.[1]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd y wybodaeth uchod ar erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950, (Llundain, 1970), t.23.