Morris Pugh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 8: Llinell 8:


Mae hanes llawn teulu Pugh i'w gael ar y we.<ref>Hanes Teulu Rees Pugh [https://www.grantonline.com/pugh-family-genealogy/pugh-rees-1861/rees-pugh.htm], cyrchwyd 21.12.2022</ref>
Mae hanes llawn teulu Pugh i'w gael ar y we.<ref>Hanes Teulu Rees Pugh [https://www.grantonline.com/pugh-family-genealogy/pugh-rees-1861/rees-pugh.htm], cyrchwyd 21.12.2022</ref>
Bu farw ym 1979. Erbyn hynny, roedd o'n byw yn Hafan, Abergwyngregin.<ref>Mynegai Marwolaeth Ptrofiant 1979</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 22:08, 20 Rhagfyr 2022

Roedd Morris Edwin Pugh (g.25 Tachwedd 1901) yn ficer Clynnog Fawr, 1945-1950.

Mab ydoedd i Rees Pugh (1861-1932), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann Jenkins ei wraig (1870-1932), a hanai o Langollen, ond oedd yn byw wedyn yn Ffestiniog. Symudai'r teulu o gwmpas wrth i'r tad newid o'r naill chwarel i'r llall, gan gynnwys cyfnod yn Nhreharris yn y De - cyn i Morris gael ei eni ym 1901 yn Stryd Llanegryn, Abergynolwyn, Meirionnydd.[1] Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanfihangel-y-Pennant.[2]

Gadawodd yr ysgol ym 1915, gan fynd yn brentis groser. Mae cofnod amdano wedyn ym 1932 pan oedd Morris yn fyfyriwr ac yn gweithredu fel gweinyddwr ystad ei rieni.[3] Erbyn 1939, roedd wedi cael ei ordeinio ac roedd yn byw yn Menai House, Stryd Fawr, Llangefni lle gweithiai fel offeiriad.[4] Priododd â Gwendoline M. Wilkes, clerc mewn swyddfa twrnai yng Nghaergybi, ym 1944.[5] Rhwng 1945 a 1950 fo oedd Ficer Clynnog.

Roedd Morris Pugh yn frawd i'r Parchedig Ivor Pugh, Ficer Clitheroe, ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.

Mae hanes llawn teulu Pugh i'w gael ar y we.[6]

Bu farw ym 1979. Erbyn hynny, roedd o'n byw yn Hafan, Abergwyngregin.[7]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1911
  2. Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanfihangel-y-Pennant
  3. Hanes Teulu Rees Pugh, [1], cyrchwyd 21.12.2022
  4. Cofrestr 1939, Llangefni
  5. Cofrestr Caergybi, 1939; Mynegai Priodasau 1944
  6. Hanes Teulu Rees Pugh [2], cyrchwyd 21.12.2022
  7. Mynegai Marwolaeth Ptrofiant 1979