Ivor Pugh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Ivor Pugh''' (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn [[Eglwys San Siôr, Trefor]], o 1922 hyd 1923. | Roedd '''Ivor Pugh''' (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn [[Eglwys San Siôr, Trefor]], o 1922 hyd 1923. Mab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn ac wedyn ymsefydlu rywbryd cyn 1901 yn Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1901-1911</ref> Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.<ref>Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanegryn</ref> | ||
Erbyn i Ivor Pugh fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Merthyr Tudful, 1911</ref> Mae'n debyg iddo symud i [[Trefor|Drefor]] i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys. | Erbyn i Ivor Pugh fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Merthyr Tudful, 1911</ref> Mae'n debyg iddo symud i [[Trefor|Drefor]] i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys. | ||
Priododd ag Elizabeth A. Porter (g.1906) yn Garstang; merch i ffermwyr ieir oedd hi, ac ym 1939 roedd ei rhieni hi'n byw gydag Ivor ac Elizabeth yn y Ficerdy, Union Street, Clitheroe, lle roedd Ivor Pugh yn ficer.<ref>Mynegai Priodasau 1934; Cofrestr 1939</ref> Arhosai yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969; yno y bu farw beth bynnag.<ref>Mynegai Marwolaethau 1969</ref> | |||
Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig [[Morris Pugh]], Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth. | Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig [[Morris Pugh]], Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth. |
Fersiwn yn ôl 17:31, 20 Rhagfyr 2022
Roedd Ivor Pugh (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn Eglwys San Siôr, Trefor, o 1922 hyd 1923. Mab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn ac wedyn ymsefydlu rywbryd cyn 1901 yn Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd.[1] Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.[2]
Erbyn i Ivor Pugh fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.[3] Mae'n debyg iddo symud i Drefor i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys.
Priododd ag Elizabeth A. Porter (g.1906) yn Garstang; merch i ffermwyr ieir oedd hi, ac ym 1939 roedd ei rhieni hi'n byw gydag Ivor ac Elizabeth yn y Ficerdy, Union Street, Clitheroe, lle roedd Ivor Pugh yn ficer.[4] Arhosai yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969; yno y bu farw beth bynnag.[5]
Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig Morris Pugh, Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.