Ivor Pugh: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Ivor Pugh''' yn Ddarllenwr Lleyg yn [[Eglwys San Siôr, Trefor]], o 1922 hyd 1923, ac yn frawd i'r Parchedig [[Morris Pugh]], Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth. | Roedd '''Ivor Pugh''' (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn [[Eglwys San Siôr, Trefor]], o 1922 hyd 1923. M<ab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig, (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd o ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn ac wedyn ymsefydlu erbyn 1901 yn Llanfihangel-y-Pennant.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1901-1911</ref> Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.<ref>Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanegryn</ref> | ||
Erbyn i Ivor Pugh fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.<ref>Cyfrifiad plwyf Merthyr Tudful, 1911</ref> Mae'n debyg iddo symud i [[Trefor|Drefor]] i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys. | |||
Erbyn 1939, roedd wedi symud i Clitheroe yn Swydd Caerhirfryn, lle roedd yn ficer. Erbyn hynny, roedd wedi priodi. Arhosai yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969. | |||
Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig [[Morris Pugh]], Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth. | |||
==Cyfeiriadau== | |||
[[Categori:Pobl]] | [[Categori:Pobl]] | ||
[[Categori:Offeiriaid]] |
Fersiwn yn ôl 17:14, 20 Rhagfyr 2022
Roedd Ivor Pugh (1888-1969) yn Ddarllenwr Lleyg yn Eglwys San Siôr, Trefor, o 1922 hyd 1923. M<ab ydoedd i Rees Pugh (g.1861), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig, (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas pan oedd Ivor yn fach. Cafodd o ei eni yn Ffestiniog. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Dreharris yn y De, cyn symud i Abergynolwyn ac wedyn ymsefydlu erbyn 1901 yn Llanfihangel-y-Pennant.[1] Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.[2]
Erbyn i Ivor Pugh fod yn 20 oed, roedd wedi symud i'r De, gan weithio ym Merthyr Tudful fel glöwr.[3] Mae'n debyg iddo symud i Drefor i dreulio cyfnod prawf cyn mynd i'r offeiriadaeth. Tra yn Nhrefor lletyai yng nghartref William Baum yn Fern Villa, yn agos i'r eglwys.
Erbyn 1939, roedd wedi symud i Clitheroe yn Swydd Caerhirfryn, lle roedd yn ficer. Erbyn hynny, roedd wedi priodi. Arhosai yn Clitheroe, yn ôl pob tebyg, hyd ei farwolaeth yn ystod haf 1969.
Roedd Ivor Pugh yn frawd i'r Parchedig Morris Pugh, Ficer Clynnog (1945-50), ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.