Hywel D. Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Ar ôl gadael yr ysgol a gweithio i’r Urdd yn ne Cymru am gyfnod, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn B.A. ac ennill Diploma Addysg. Bu’n Llywydd y Gymdeithas Geltaidd a changen y coleg o Blaid Cymru, yn ogystal â gweithredu fel Ysgrifennydd Cyngor y Myfyrwyr. O’r fan honno aeth ymlaen i fod yn athro yn Ysgol Penrhyndeudraeth. Trwy gydol yr amser hwn, bu’n weithgar iawn gyda Phlaid Cymru.<ref>Gwefan Hanes Plaid Cymru, Oriel y Blaid 45, [http://www.hanesplaidcymru.org/oriel-y-blaid-1932-1938/], cyrchwyd 16.11.2022</ref> | Ar ôl gadael yr ysgol a gweithio i’r Urdd yn ne Cymru am gyfnod, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn B.A. ac ennill Diploma Addysg. Bu’n Llywydd y Gymdeithas Geltaidd a changen y coleg o Blaid Cymru, yn ogystal â gweithredu fel Ysgrifennydd Cyngor y Myfyrwyr. O’r fan honno aeth ymlaen i fod yn athro yn Ysgol Penrhyndeudraeth. Trwy gydol yr amser hwn, bu’n weithgar iawn gyda Phlaid Cymru.<ref>Gwefan Hanes Plaid Cymru, Oriel y Blaid 45, [http://www.hanesplaidcymru.org/oriel-y-blaid-1932-1938/], cyrchwyd 16.11.2022</ref> | ||
Am ddwy flynedd o 1947 i 1949 bu’n Swyddog Addysg Bellach Sir y Fflint ac o 1951 i 1953, bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Wigan, Swydd Caerhirfryn. Bu’n brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 1955-8.<LlGC, Papurau Alwyn D. Rees, FF142 | Am ddwy flynedd o 1947 i 1949 bu’n Swyddog Addysg Bellach Sir y Fflint ac o 1951 i 1953, bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Wigan, Swydd Caerhirfryn. Bu’n brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 1955-8.<ref>LlGC, Papurau Alwyn D. Rees, FF142</ref> Cafodd swydd wedyn fel pennaeth Adran Addysg Coleg Hyfforddi Caerdydd. Wedi iddo ymddeol o’r swydd honno ym 1974, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Mudiad Ysgolion Meithrin, ac fe wasanaethodd ar nifer o fyrddau a phwyllgorau pwysig a oedd yn ymwneud â’r byd addysg yng Nghymru. | ||
Am gyfnod tua 1970, ac yntau’n byw yng Nghyncoed, Caerdydd, bu’n Ysgrifennydd mygedol cangen Cymru o’r Gyngres Geltaidd.<ref>LlGC, Papurau Maxwell Fraser, A/4226</ref> | Am gyfnod tua 1970, ac yntau’n byw yng Nghyncoed, Caerdydd, bu’n Ysgrifennydd mygedol cangen Cymru o’r Gyngres Geltaidd.<ref>LlGC, Papurau Maxwell Fraser, A/4226</ref> |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:52, 17 Tachwedd 2022
Roedd Hywel D. Roberts (1910-1989) yn fab i Robert Roberts, pobydd, 7 Rhes Nantlle, Nantlle, a’i wraig Annie, ac yn ail o’u pedwar plentyn.[1] Er iddo hanu o Ddyffryn Nantlle, fe ddaeth yn enwog fel addysgwr, pwyllgor-ddyn a dyn cyhoeddus ar draws Cymru yn ystod ei oes, gan fyw mewn sawl man.
Ar ôl mynychu Ysgol Tal-y-sarn aeth ymlaen i Ysgol Ramadeg Pen-y-groes lle gwnaeth enw iddo ei hun am, ymysg pethau eraill, sefydlu cangen gynnar a chryf o Urdd Gobaith Cymru yn yr ysgol. Roedd hyn ym 1925.
Ar ôl gadael yr ysgol a gweithio i’r Urdd yn ne Cymru am gyfnod, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle graddiodd yn B.A. ac ennill Diploma Addysg. Bu’n Llywydd y Gymdeithas Geltaidd a changen y coleg o Blaid Cymru, yn ogystal â gweithredu fel Ysgrifennydd Cyngor y Myfyrwyr. O’r fan honno aeth ymlaen i fod yn athro yn Ysgol Penrhyndeudraeth. Trwy gydol yr amser hwn, bu’n weithgar iawn gyda Phlaid Cymru.[2]
Am ddwy flynedd o 1947 i 1949 bu’n Swyddog Addysg Bellach Sir y Fflint ac o 1951 i 1953, bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Addysg Wigan, Swydd Caerhirfryn. Bu’n brifathro Ysgol Gymraeg Aberystwyth, 1955-8.[3] Cafodd swydd wedyn fel pennaeth Adran Addysg Coleg Hyfforddi Caerdydd. Wedi iddo ymddeol o’r swydd honno ym 1974, fe’i penodwyd yn Gyfarwyddwr Mudiad Ysgolion Meithrin, ac fe wasanaethodd ar nifer o fyrddau a phwyllgorau pwysig a oedd yn ymwneud â’r byd addysg yng Nghymru.
Am gyfnod tua 1970, ac yntau’n byw yng Nghyncoed, Caerdydd, bu’n Ysgrifennydd mygedol cangen Cymru o’r Gyngres Geltaidd.[4]
Ar hyd ei oes bu’n boblogaidd fel cyflwynydd mewn cyngherddau ac eisteddfodau. Pan ddaeth TWW, sef y sianel deledu fasnachol, i fodolaeth ym 1960, cafodd gyfle i gyflwyno llawer o raglenni ar gyfer ieuenctid Cymru, megis “Am y Gorau” a “Colegau Cerdd”.[5] Gwasanaethodd fel un o gyflwynwyr llwyfan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen am ddeugain mlynedd, 1949-1988; ac fe’i penodwyd yn Is-lywydd am Oes yr Eisteddfod honno.[6]
Bu farw ym 1989, gan adael ei wraig, Glenys, a dau fab.