Drws-y-coed Isaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
Saif ar ochr chwith ffordd y B4418 wrth fynd o Nantlle i gyfeiriad Rhyd-ddu, ychydig i'r gorllewin o [[Llyn y Dywarchen|Lyn y Dywarchen]]. Mae'r fferm yn llechu yng nghysgod [[Craig y Bera]], ar lethrau deheuol [[Mynydd Mawr]], a'r ochr arall i'r ffordd mae [[Clogwyn y Barcut]] yn codi'n syth i fyny. Ychydig i'r gogledd o'r ffermdy gwelir olion anheddiad cynnar sy'n cynnwys nifer o gytiau crynion sy'n nodweddiadol o'r ardal. Ychydig uwch i fyny na'r anheddiad hwn mae gweddillion lloc ar ffurf wy sydd tua 12m o hyd ac 8m o led. Mae'r wal sy'n amgylchynu'r lloc yn cynnwys cwrs sylfaen o gerrig canolig i fawr eu maint sydd heb eu trin ac mae'r wal yn 1m o led a 0.5m o uchder. Mae'r lloc yn ymddangos fel llwyfan gweddol wastad ar ochr y bryn ac mae'n bosib ei fod yn gysylltiedig ag anheddiad y cytiau crynion sydd islaw iddo. Adeiladwyd wal gerrig sych ar draws y lloc - mae'r wal hon wedi'i gwneud o gerrig canolig i fawr sydd heb eu trin ac mae'n 16m o hyd, 1m o led ac 1.5m o uchder.<ref>Gwefan Coflein, cyrchwyd 26/10/2022.</ref> | Saif ar ochr chwith ffordd y B4418 wrth fynd o Nantlle i gyfeiriad Rhyd-ddu, ychydig i'r gorllewin o [[Llyn y Dywarchen|Lyn y Dywarchen]]. Mae'r fferm yn llechu yng nghysgod [[Craig y Bera]], ar lethrau deheuol [[Mynydd Mawr]], a'r ochr arall i'r ffordd mae [[Clogwyn y Barcut]] yn codi'n syth i fyny. Ychydig i'r gogledd o'r ffermdy gwelir olion anheddiad cynnar sy'n cynnwys nifer o gytiau crynion sy'n nodweddiadol o'r ardal. Ychydig uwch i fyny na'r anheddiad hwn mae gweddillion lloc ar ffurf wy sydd tua 12m o hyd ac 8m o led. Mae'r wal sy'n amgylchynu'r lloc yn cynnwys cwrs sylfaen o gerrig canolig i fawr eu maint sydd heb eu trin ac mae'r wal yn 1m o led a 0.5m o uchder. Mae'r lloc yn ymddangos fel llwyfan gweddol wastad ar ochr y bryn ac mae'n bosib ei fod yn gysylltiedig ag anheddiad y cytiau crynion sydd islaw iddo. Adeiladwyd wal gerrig sych ar draws y lloc - mae'r wal hon wedi'i gwneud o gerrig canolig i fawr sydd heb eu trin ac mae'n 16m o hyd, 1m o led ac 1.5m o uchder.<ref>Gwefan Coflein, cyrchwyd 26/10/2022.</ref> | ||
Mae nifer o olion y diwydiant mwyngloddio a fu'n rhan bwysig o fywyd a gwaith yr ardal o ddiwedd y 18g tan ddechrau'r 20g hefyd i'w gweld gerllaw Drws-y-coed Isaf. Gerllaw'r cytiau crynion gwelir olion gwaith copr a'r ochr arall i ffordd y B4418 gwelir olion Gwaith Arbrofol Bwlchgylfin a Gwaith Copr Tal-y-sarn ac mae [[Gwaith | Mae nifer o olion y diwydiant mwyngloddio a fu'n rhan bwysig o fywyd a gwaith yr ardal o ddiwedd y 18g tan ddechrau'r 20g hefyd i'w gweld gerllaw Drws-y-coed Isaf. Gerllaw'r cytiau crynion gwelir olion gwaith copr a'r ochr arall i ffordd y B4418 gwelir olion Gwaith Arbrofol Bwlchgylfin a Gwaith Copr Tal-y-sarn ac mae [[Gwaith copr Simdde'r Dylluan]] ychydig i'r gorllewin. | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Ffermydd]] | [[Categori:Ffermydd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:04, 26 Hydref 2022
Fferm yn ardal Drws-y-coed, tua hanner ffordd rhwng pentrefi Nantlle a Rhyd-ddu yw Drws-y-coed Isaf.
Saif ar ochr chwith ffordd y B4418 wrth fynd o Nantlle i gyfeiriad Rhyd-ddu, ychydig i'r gorllewin o Lyn y Dywarchen. Mae'r fferm yn llechu yng nghysgod Craig y Bera, ar lethrau deheuol Mynydd Mawr, a'r ochr arall i'r ffordd mae Clogwyn y Barcut yn codi'n syth i fyny. Ychydig i'r gogledd o'r ffermdy gwelir olion anheddiad cynnar sy'n cynnwys nifer o gytiau crynion sy'n nodweddiadol o'r ardal. Ychydig uwch i fyny na'r anheddiad hwn mae gweddillion lloc ar ffurf wy sydd tua 12m o hyd ac 8m o led. Mae'r wal sy'n amgylchynu'r lloc yn cynnwys cwrs sylfaen o gerrig canolig i fawr eu maint sydd heb eu trin ac mae'r wal yn 1m o led a 0.5m o uchder. Mae'r lloc yn ymddangos fel llwyfan gweddol wastad ar ochr y bryn ac mae'n bosib ei fod yn gysylltiedig ag anheddiad y cytiau crynion sydd islaw iddo. Adeiladwyd wal gerrig sych ar draws y lloc - mae'r wal hon wedi'i gwneud o gerrig canolig i fawr sydd heb eu trin ac mae'n 16m o hyd, 1m o led ac 1.5m o uchder.[1]
Mae nifer o olion y diwydiant mwyngloddio a fu'n rhan bwysig o fywyd a gwaith yr ardal o ddiwedd y 18g tan ddechrau'r 20g hefyd i'w gweld gerllaw Drws-y-coed Isaf. Gerllaw'r cytiau crynion gwelir olion gwaith copr a'r ochr arall i ffordd y B4418 gwelir olion Gwaith Arbrofol Bwlchgylfin a Gwaith Copr Tal-y-sarn ac mae Gwaith copr Simdde'r Dylluan ychydig i'r gorllewin.
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan Coflein, cyrchwyd 26/10/2022.