Simon Hobley: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:20180514 144501.jpg|bawd|300px|de|Graeanfryn, cartref Simon Hobley yn Llanwnda]]
[[Delwedd:20180514 144501.jpg|bawd|300px|de|Graeanfryn, cartref Simon Hobley yn Llanwnda]]


Sais oedd '''Simon Hobley''' a anwyd ym Monk's Kirby, swydd Warwig, ym 1791. Roedd o'n fab i Joseph Hobley (ganwyd 1760) ac Ann ei wraig (Harford cyn priodi). Roedd ganddo 5 o frodyr a chwiorydd.<ref>Gwefan 'My Heritage', [https://www.myheritage.com/names/joseph_hobley] adalwyd 01.05.2018</ref>
Sais oedd '''Simon Hobley''' a anwyd yn Monk's Kirby, swydd Warwig, ym 1791. Roedd yn fab i Joseph Hobley (ganwyd 1760) ac Ann ei wraig (Harford cyn priodi). Roedd ganddo 5 o frodyr a chwiorydd.<ref>Gwefan 'My Heritage', [https://www.myheritage.com/names/joseph_hobley] adalwyd 01.05.2018</ref>


Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg crefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.
Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Gyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg grefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.


Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig. Gellir tybio efallai iddo ddod yno trwy ryw gysylltiad efo ficer newydd Caernarfon a benodwyd ym 1817 (a Sais pur yr achosodd ei benodiad gryn anfodlonrwydd), y Parch J.W. Trevor, MA. Symudodd Simon Hobley ymhen amser i weithio fel hwsmon ar fferm yn [[Llanwnda]], o bosibl fferm [[Plas Dinas]] a thra yno, mi aeth i wrando weithiau ar y Methodistiaid ac weithiau ar bregethwyr yr Annibynwyr. Yn ystod yr amser hwn, mi briododd efo Margaret, merch Tafarn y Llew Coch yng Nghaernarfon ac un o ddisgynyddion [[Angharad James]], [[Gelli-ffrydiau]], [[Nantlle]]<ref>Bu farw 25 Chwefror 1870. ''Y Drysorfa'', 1873, t.431</ref>. Dichon i aelodau o deulu Hobley'n byw yn Gelli-ffrydiau am gyfnod ac yno ganed [[William Hobley]] ei ŵyr. Marc defaid Gelli-ffrydiau yw '''H''', a dywedir mai oherwydd cyfenw'r teulu y mae hynny.<ref>Map Ordnans; Thomas Alun Williams, ''Afonydd Nantlle'' ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7]</ref>
Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig. Gellir tybio efallai iddo ddod yno trwy ryw gysylltiad efo ficer newydd Caernarfon a benodwyd ym 1817 (a Sais pur yr achosodd ei benodiad gryn anfodlonrwydd), sef y Parch J.W. Trevor, MA. Symudodd Simon Hobley ymhen amser i weithio fel hwsmon ar fferm yn [[Llanwnda]], o bosibl fferm [[Plas Dinas]], a thra yno fe aeth i wrando weithiau ar y Methodistiaid ac weithiau ar bregethwyr yr Annibynwyr. Yn ystod yr amser hwnnw, priododd â Margaret, merch Tafarn y Llew Coch yng Nghaernarfon ac un o ddisgynyddion [[Angharad James]], [[Gelli-ffrydiau]], [[Nantlle]]<ref>Bu hi farw 25 Chwefror 1870. ''Y Drysorfa'', 1873, t.431</ref>. Dichon i aelodau o deulu Hobley fyw yn Gelli-ffrydiau am gyfnod ac yno y ganed [[William Hobley]] ei ŵyr. Marc defaid Gelli-ffrydiau yw '''H''', a dywedir mai oherwydd cyfenw'r teulu y mae hynny.<ref>Map Ordnans; Thomas Alun Williams, ''Afonydd Nantlle'' ar wefan Nantlle.com [http://www.nantlle.com/hanes-nantlle-baladeulyn.htm#7]</ref>


Arferai Margaret redeg fusnes blawd ac yntau'n 36 oed, roddodd ei waith fel hwsmon heibio gan ymuno ym musnes y wraig. Roedd yn magu diddordeb mawr yn y ffydd Cristnogol ac arferai fynychu pregethau a chyfarfodydd gweddi'n gyson. Enillodd enw da hefyd fel dyn busnes egwyddorol. Trwy gyfrwng y busnes mae'n amlwg iddo ddod yn ŵr cefnog, gan ymddeol i dŷ sylweddol [[Graeanfryn]] yn Llanwnda, lle ymunodd ag achos [[Capel Bryn'rodyn (MC)]] a fe oedd i raddau helaeth y tu ôl i godi [[Ysgoldy Graeanfryn (MC)]], gan roi tir ac arian at y gwaith o'i godi.
Arferai Margaret redeg busnes blawd a phan oedd Simon Hobley yn 36 oed rhoddodd ei waith fel hwsmon heibio gan ymuno ym musnes y wraig. Roedd yn magu diddordeb mawr yn y ffydd Gristnogol ac arferai fynychu pregethau a chyfarfodydd gweddi'n gyson. Enillodd enw da hefyd fel dyn busnes egwyddorol. Trwy gyfrwng y busnes mae'n amlwg iddo ddod yn ŵr cefnog, gan ymddeol i dŷ sylweddol [[Graeanfryn]] yn Llanwnda, lle'r ymunodd ag achos [[Capel Bryn'rodyn (MC)]]. Ef i raddau helaeth oedd tu ôl i'r fenter i godi [[Ysgoldy Graeanfryn (MC)]], gan roi tir ac arian at y gwaith o'i godi.


Bu farw 4 Awst 1879.
Bu farw 4 Awst 1879.


Er iddo ddod yn Sais pur i Gaernarfon (a throdd ambell i bregethwr at yr iaith fain yn ei bregeth er ei fwyn), mi ddaeth yn Gymro hollol rugl, gan fynychu oedfaon Cymraeg, ac roedd yn hollol, gyfarwydd â'i feibl yn y ddwy iaith yn ôl tystiolaeth ei wŷr, y Parch. [[William Hobley]].<ref>William Hobley, ''Hanes Methodistiaieth Arfon'', Cyf.I, tt.165-7</ref>
Er iddo ddod i Gaernarfon yn Sais pur (a throdd ambell i bregethwr at yr iaith fain yn ei bregeth er ei fwyn), daeth yn Gymro hollol rugl, gan fynychu oedfaon Cymraeg, ac roedd yn hollol gyfarwydd â'i Feibl yn y ddwy iaith yn ôl tystiolaeth ei wŷr, y Parch. [[William Hobley]].<ref>William Hobley, ''Hanes Methodistiaieth Arfon'', Cyf.I, tt.165-7</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:07, 28 Gorffennaf 2022

Graeanfryn, cartref Simon Hobley yn Llanwnda

Sais oedd Simon Hobley a anwyd yn Monk's Kirby, swydd Warwig, ym 1791. Roedd yn fab i Joseph Hobley (ganwyd 1760) ac Ann ei wraig (Harford cyn priodi). Roedd ganddo 5 o frodyr a chwiorydd.[1]

Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Gyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg grefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.

Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig. Gellir tybio efallai iddo ddod yno trwy ryw gysylltiad efo ficer newydd Caernarfon a benodwyd ym 1817 (a Sais pur yr achosodd ei benodiad gryn anfodlonrwydd), sef y Parch J.W. Trevor, MA. Symudodd Simon Hobley ymhen amser i weithio fel hwsmon ar fferm yn Llanwnda, o bosibl fferm Plas Dinas, a thra yno fe aeth i wrando weithiau ar y Methodistiaid ac weithiau ar bregethwyr yr Annibynwyr. Yn ystod yr amser hwnnw, priododd â Margaret, merch Tafarn y Llew Coch yng Nghaernarfon ac un o ddisgynyddion Angharad James, Gelli-ffrydiau, Nantlle[2]. Dichon i aelodau o deulu Hobley fyw yn Gelli-ffrydiau am gyfnod ac yno y ganed William Hobley ei ŵyr. Marc defaid Gelli-ffrydiau yw H, a dywedir mai oherwydd cyfenw'r teulu y mae hynny.[3]

Arferai Margaret redeg busnes blawd a phan oedd Simon Hobley yn 36 oed rhoddodd ei waith fel hwsmon heibio gan ymuno ym musnes y wraig. Roedd yn magu diddordeb mawr yn y ffydd Gristnogol ac arferai fynychu pregethau a chyfarfodydd gweddi'n gyson. Enillodd enw da hefyd fel dyn busnes egwyddorol. Trwy gyfrwng y busnes mae'n amlwg iddo ddod yn ŵr cefnog, gan ymddeol i dŷ sylweddol Graeanfryn yn Llanwnda, lle'r ymunodd ag achos Capel Bryn'rodyn (MC). Ef i raddau helaeth oedd tu ôl i'r fenter i godi Ysgoldy Graeanfryn (MC), gan roi tir ac arian at y gwaith o'i godi.

Bu farw 4 Awst 1879.

Er iddo ddod i Gaernarfon yn Sais pur (a throdd ambell i bregethwr at yr iaith fain yn ei bregeth er ei fwyn), daeth yn Gymro hollol rugl, gan fynychu oedfaon Cymraeg, ac roedd yn hollol gyfarwydd â'i Feibl yn y ddwy iaith yn ôl tystiolaeth ei wŷr, y Parch. William Hobley.[4]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan 'My Heritage', [1] adalwyd 01.05.2018
  2. Bu hi farw 25 Chwefror 1870. Y Drysorfa, 1873, t.431
  3. Map Ordnans; Thomas Alun Williams, Afonydd Nantlle ar wefan Nantlle.com [2]
  4. William Hobley, Hanes Methodistiaieth Arfon, Cyf.I, tt.165-7