B. Dew Roberts: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Hanesydd ac awdures oedd '''Barbara Dew Roberts''' (?1885-1963) a oedd yn byw ar un adeg ym [[Plas Tryfan|Mhlas Tryfan]], ger [[Rhos-isaf]]. Ychydig a wyddys am ei bywyd a'i gyrfa ac ni cheir sôn amdani dan yr enw a ddefnyddid ganddi yng nghofnodion y Cyfrifiad. Dichon, fodd bynnag, iddi berthyn i deulu lleol Dew, yr arwerthwyr a thwrneiod o Fangor. Os felly, gellir dychmygu ei bod yn weddol gyfforddus ei byd, gan i un gangen o'r teulu fyw yn Wellfield House, Bangor, ym 1891, a changen arall ym mhlasty Carreg Brân, Llanfair Pwllgwyngyll.<ref>Cyfrifiadau Bangor a Llanfair Pwllgwyngyll, 1891</ref> Diddorol hefyd yw'r ffaith ei bod wedi cyhoeddi erthygl ar ''The Ynysfor Hunt'', sydd yn awgrymu efallai ei bod â chysylltiadau â'r dosbarth hela a saethu!<ref>''Trafodion Anrhydeddus Gynmdeithas y Cymmrodorion'', 1940, t.200</ref> Mae'n debyg na fu hi'n briod, gan i bobl wastad gyfeirio at "Miss B Dew Roberts". Mae 'na bosibilrwydd felly ei bod yn ferch i un o ferched teulu Dew a rhywun gyda'r cyfenw Roberts. | Hanesydd ac awdures oedd '''Barbara Dew Roberts''' (?1885-1963) a oedd yn byw ar un adeg ym [[Plas Tryfan|Mhlas Tryfan]], ger [[Rhos-isaf]]. Ychydig a wyddys am ei bywyd a'i gyrfa ac ni cheir sôn amdani dan yr enw a ddefnyddid ganddi yng nghofnodion y Cyfrifiad. Dichon, fodd bynnag, iddi berthyn i deulu lleol Dew, yr arwerthwyr a thwrneiod o Fangor. Os felly, gellir dychmygu ei bod yn weddol gyfforddus ei byd, gan i un gangen o'r teulu fyw yn Wellfield House, Bangor, ym 1891, a changen arall ym mhlasty Carreg Brân, Llanfair Pwllgwyngyll.<ref>Cyfrifiadau Bangor a Llanfair Pwllgwyngyll, 1891</ref> Diddorol hefyd yw'r ffaith ei bod wedi cyhoeddi erthygl ar ''The Ynysfor Hunt'', sydd yn awgrymu efallai ei bod â chysylltiadau â'r dosbarth hela a saethu!<ref>''Trafodion Anrhydeddus Gynmdeithas y Cymmrodorion'', 1940, t.200</ref> Mae'n debyg na fu hi'n briod, gan i bobl wastad gyfeirio at "Miss B Dew Roberts". Mae 'na bosibilrwydd felly ei bod yn ferch i un o ferched teulu Dew a rhywun gyda'r cyfenw Roberts. | ||
A hithau'n nesu at ei 50au, dechreuodd ysgrifennu erthyglau a llyfrau hanes ar bynciau'n gysylltiedig â Gogledd Cymru. Bu'n cyfrannu'n gyson i gylchgrawn y ''Welsh Outlook'' yn ystod tair blynedd olaf y cylchgrawn hwnnw. Ymysg ei llyfrau ceir ''Mr Bulkeley and the Pirate'' (Llundain, OUP, 1935); ''Mire and Musket: John Williams: Lord Keeper, Archbishop of York, 1582-1650'' (Llundain, OUP, 1938); a'r nofelau ''Still Glides the Stream'' (Llundain, Chatto & Windus, 1940); ''Some Trees Stand'', (Llundain, Chatto & Windus, 1943); ''The Island Feud", (Llundain, Chatto & Windus, 1947); a | A hithau'n nesu at ei 50au, dechreuodd ysgrifennu erthyglau a llyfrau hanes ar bynciau'n gysylltiedig â Gogledd Cymru. Bu'n cyfrannu'n gyson i gylchgrawn y ''Welsh Outlook'' yn ystod tair blynedd olaf y cylchgrawn hwnnw. Ymysg ei llyfrau ceir ''Mr Bulkeley and the Pirate'' (Llundain, OUP, 1935); ''Mire and Musket: John Williams: Lord Keeper, Archbishop of York, 1582-1650'' (Llundain, OUP, 1938); a'r nofelau ''Still Glides the Stream'' (Llundain, Chatto & Windus, 1940); ''Some Trees Stand'', (Llundain, Chatto & Windus, 1943); ''The Island Feud", (Llundain, Chatto & Windus, 1947); a ''Testun italig''The Charlie Trees: a Jacobite novel''Testun italig'', (Llundain, Chatto & Windus, 1951). Roedd A.H. Dodd yn ei hystyried yn hanesydd a oedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hanes Gogledd Cymru yn y 17-18g, ac yn ei chanmol fel nofelydd hanesyddol.<ref>A> H> Dodd, ''Miss Dew Roberts and Caernarvonshire History'', TCHSG 1941, tt.96-8. </ref> Gellid dadlau, fodd bynnag, mai ei chynnyrch llenyddol pwysicaf oedd ei golygiad o ddyddiadur [[Edgar Christian]], bachgen o [[Clynnog Fawr|Glynnog]] a fu farw yng Nghanada. Fe'i cyhoeddwyd dan y teitl ''Unflinching'' (Llundain, Murray, 1937),<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Catalog</ref> a bellach mae'n cael ei gyfrif fel clasur yng Nghanada. | ||
Erbyn 1939 roedd hi'n byw ym Mhlas Tryfan, ac yno roedd hi'n byw pan ymunodd â [[Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon|Chymdeithas Hanes Sir Gaernarfon]], ac yr oedd yn un o aelodau cyntaf y gymdeithas honno ym 1939. Ymysg ei herthyglau yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes y sir, ceir erthygl ar [[Maria Stella]], [[Glynllifon]]; a theuluoedd Bodfel a Bodwrdda. Ym 1947, nodwyd ei chyfeiriad fel Bryn Neuadd, Llanfaglan, ac yno yr oedd hi'n byw ym 1960 hefyd.<ref>Rhestrau aelodaeth Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1939, 1947 a 1960</ref> Bu farw yn ystod hanner cyntaf 1963. | Erbyn 1939 roedd hi'n byw ym Mhlas Tryfan, ac yno roedd hi'n byw pan ymunodd â [[Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon|Chymdeithas Hanes Sir Gaernarfon]], ac yr oedd yn un o aelodau cyntaf y gymdeithas honno ym 1939. Ymysg ei herthyglau yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes y sir, ceir erthygl ar [[Maria Stella]], [[Glynllifon]]; a theuluoedd Bodfel a Bodwrdda. Ym 1947, nodwyd ei chyfeiriad fel Bryn Neuadd, Llanfaglan, ac yno yr oedd hi'n byw ym 1960 hefyd.<ref>Rhestrau aelodaeth Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1939, 1947 a 1960</ref> Bu farw yn ystod hanner cyntaf 1963. |
Fersiwn yn ôl 12:56, 20 Gorffennaf 2022
Hanesydd ac awdures oedd Barbara Dew Roberts (?1885-1963) a oedd yn byw ar un adeg ym Mhlas Tryfan, ger Rhos-isaf. Ychydig a wyddys am ei bywyd a'i gyrfa ac ni cheir sôn amdani dan yr enw a ddefnyddid ganddi yng nghofnodion y Cyfrifiad. Dichon, fodd bynnag, iddi berthyn i deulu lleol Dew, yr arwerthwyr a thwrneiod o Fangor. Os felly, gellir dychmygu ei bod yn weddol gyfforddus ei byd, gan i un gangen o'r teulu fyw yn Wellfield House, Bangor, ym 1891, a changen arall ym mhlasty Carreg Brân, Llanfair Pwllgwyngyll.[1] Diddorol hefyd yw'r ffaith ei bod wedi cyhoeddi erthygl ar The Ynysfor Hunt, sydd yn awgrymu efallai ei bod â chysylltiadau â'r dosbarth hela a saethu![2] Mae'n debyg na fu hi'n briod, gan i bobl wastad gyfeirio at "Miss B Dew Roberts". Mae 'na bosibilrwydd felly ei bod yn ferch i un o ferched teulu Dew a rhywun gyda'r cyfenw Roberts.
A hithau'n nesu at ei 50au, dechreuodd ysgrifennu erthyglau a llyfrau hanes ar bynciau'n gysylltiedig â Gogledd Cymru. Bu'n cyfrannu'n gyson i gylchgrawn y Welsh Outlook yn ystod tair blynedd olaf y cylchgrawn hwnnw. Ymysg ei llyfrau ceir Mr Bulkeley and the Pirate (Llundain, OUP, 1935); Mire and Musket: John Williams: Lord Keeper, Archbishop of York, 1582-1650 (Llundain, OUP, 1938); a'r nofelau Still Glides the Stream (Llundain, Chatto & Windus, 1940); Some Trees Stand, (Llundain, Chatto & Windus, 1943); The Island Feud", (Llundain, Chatto & Windus, 1947); a Testun italigThe Charlie Trees: a Jacobite novelTestun italig, (Llundain, Chatto & Windus, 1951). Roedd A.H. Dodd yn ei hystyried yn hanesydd a oedd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hanes Gogledd Cymru yn y 17-18g, ac yn ei chanmol fel nofelydd hanesyddol.[3] Gellid dadlau, fodd bynnag, mai ei chynnyrch llenyddol pwysicaf oedd ei golygiad o ddyddiadur Edgar Christian, bachgen o Glynnog a fu farw yng Nghanada. Fe'i cyhoeddwyd dan y teitl Unflinching (Llundain, Murray, 1937),[4] a bellach mae'n cael ei gyfrif fel clasur yng Nghanada.
Erbyn 1939 roedd hi'n byw ym Mhlas Tryfan, ac yno roedd hi'n byw pan ymunodd â Chymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, ac yr oedd yn un o aelodau cyntaf y gymdeithas honno ym 1939. Ymysg ei herthyglau yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes y sir, ceir erthygl ar Maria Stella, Glynllifon; a theuluoedd Bodfel a Bodwrdda. Ym 1947, nodwyd ei chyfeiriad fel Bryn Neuadd, Llanfaglan, ac yno yr oedd hi'n byw ym 1960 hefyd.[5] Bu farw yn ystod hanner cyntaf 1963.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiadau Bangor a Llanfair Pwllgwyngyll, 1891
- ↑ Trafodion Anrhydeddus Gynmdeithas y Cymmrodorion, 1940, t.200
- ↑ A> H> Dodd, Miss Dew Roberts and Caernarvonshire History, TCHSG 1941, tt.96-8.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Catalog
- ↑ Rhestrau aelodaeth Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, 1939, 1947 a 1960