Elis Dafydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Bardd a fagwyd yn [[Trefor|Nhrefor]] yw '''Elis Dafydd''', ac mae'n frawd iau i'r Prifardd [[Guto Dafydd]]. Fel ei frawd, dechreuodd Elis Dafydd ymhel â llenydda a barddoni yn ei arddegau, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, gan ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch yn 2015 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol fer o gerddi, "Chwilio am dân" (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2016. Fel ei frawd, graddiodd Elis Dafydd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor ac mae'n gwneud gwaith ymchwil am ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith y llenor [[John Rowlands]]. Yn ddiweddar fe'i penodwyd yn gyfieithydd gyda Chyngor Bwrdeisdref Conwy.
Bardd a fagwyd yn [[Trefor|Nhrefor]] yw '''Elis Dafydd''', ac mae'n frawd iau i'r Prifardd [[Guto Dafydd]]. Fel ei frawd, dechreuodd Elis Dafydd ymhel â llenydda a barddoni yn ei arddegau, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, gan ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch yn 2015 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol fer o gerddi, "Chwilio am dân" (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2016. Fel ei frawd, graddiodd Elis Dafydd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor a chyflawnodd waith ymchwil am ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith y llenor [[John Rowlands]]. Bu'n gweithio fel cyfieithydd gyda Chyngor Bwrdeisdref Conwy am gyfnod byr ac yn 2021 fe'i penodwyd i swydd ddarlithio yn ei hen adran, Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor.


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:48, 10 Mai 2022

Bardd a fagwyd yn Nhrefor yw Elis Dafydd, ac mae'n frawd iau i'r Prifardd Guto Dafydd. Fel ei frawd, dechreuodd Elis Dafydd ymhel â llenydda a barddoni yn ei arddegau, pan oedd yn ddisgybl yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli, gan ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau lleol. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch yn 2015 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol fer o gerddi, "Chwilio am dân" (Cyhoeddiadau Barddas), yn 2016. Fel ei frawd, graddiodd Elis Dafydd gyda dosbarth cyntaf yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor a chyflawnodd waith ymchwil am ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith y llenor John Rowlands. Bu'n gweithio fel cyfieithydd gyda Chyngor Bwrdeisdref Conwy am gyfnod byr ac yn 2021 fe'i penodwyd i swydd ddarlithio yn ei hen adran, Adran y Gymraeg Prifysgol Bangor.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau