Owen Wynne Jones (Glasynys): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 5: Llinell 5:
Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, ''Straeon Glasynys''<ref>(Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)</ref> ac efallai tudalennau ''Cymru Fu'' yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.
Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, ''Straeon Glasynys''<ref>(Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)</ref> ac efallai tudalennau ''Cymru Fu'' yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.


I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Capel Horeb (M.C.) Rhostryfan ym 1928. <ref> ''Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones''.</ref>
I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am [[Rhos-isaf|Ros-isaf]] yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol [[Capel Horeb (MC), Rhostryfan]] ym 1928. <ref> ''Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones''.</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 17:48, 16 Ebrill 2022

llun John Thomas, LLGC

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed aeth i Ysgol Bron-y-foel fel disgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi Caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion Clynnog Fawr hyd 1855 (ac Eben Fardd yn gymydog iddo), ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trodd at wasanaethu yn yr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.[1]

Fe'i cofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan y ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan", yn benodol pan oedd yn ysgrifennu am fywyd gwerin y wlad a straeon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn dipyn o arloeswr. Dichon mai'r llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[2] ac efallai tudalennau Cymru Fu yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd cael gafael arnynt.

I gyrraedd Ty'n-y-ffrwd, Rhostryfan, rhaid troi ar y dde am Ros-isaf yng nghanol y pentref ac ymlaen am hanner milltir nes gweld y tŷ ar y dde. Mae yno lechen ar fur y tŷ yn coffáu'r bardd, llenor, hynafiaethydd ac offeiriad. Fe'i darparwyd trwy law Cymdeithas Lenyddol Capel Horeb (MC), Rhostryfan ym 1928. [3]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.472
  2. (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)
  3. Cyfres Teithiau Llenyddol Cymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru: 11. Dyffryn Nantlle, Dewi R. Jones.