David William Pughe (Dafydd ab Hu Feddyg): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''David William Pughe''' (1821-1862) yn feddyg yn ardal [[Uwchgwyrfai]], yn hynafiaethydd ac yn llenor. Bu'n ffrind am flynyddoedd lawer (yn ogystal â meddyg) i [[Eben Fardd]]. Hanai ei dad o deulu [[Lleuar Bach]] a'i fam o Chwaen Wen, Ynys Môn, lle aeth ei dad, John Pughe, i ffermio wedi i'r ddau briodi, a ble cafodd David ei eni. Symudodd y teulu'n ôl i ardal [[Clynnog Fawr]] pan oedd o tua 8 oed, pan gafodd ei dad denantiaeth fferm [[Bachwen]]. Brawd iddo oedd [[John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg)]].<ref>John P. Cule, ''John Pughe (1814-1874)'' [http://europepmc.org/backend/ptpmcrender.fcgi?accid=PMC2311899&blobtype=pdf]</ref> | Roedd '''David William Pughe''' (1821-1862) yn feddyg yn ardal [[Uwchgwyrfai]], yn hynafiaethydd ac yn llenor. Bu'n ffrind am flynyddoedd lawer (yn ogystal â meddyg) i [[Eben Fardd]]. Hanai ei dad o deulu [[Lleuar Bach]] a'i fam o Chwaen Wen, Ynys Môn, lle'r aeth ei dad, John Pughe, i ffermio wedi i'r ddau briodi, a ble cafodd David ei eni. Symudodd y teulu'n ôl i ardal [[Clynnog Fawr]] pan oedd o tua 8 oed, pan gafodd ei dad denantiaeth fferm [[Bachwen]]. Brawd iddo oedd [[John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg)]].<ref>John P. Cule, ''John Pughe (1814-1874)'' [http://europepmc.org/backend/ptpmcrender.fcgi?accid=PMC2311899&blobtype=pdf]</ref> | ||
O ran ei waith, roedd yn feddyg yn ardal [[Uwchgwyrfai]], ac fe gymhwysodd ei hun trwy ddod yn aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (MRCS) fel ei frawd o'i flaen. Hefyd, o'i blentyndod, fe fagodd ddiddordeb mawr mewn darllen ac astudio. Cymerai ddiddordeb penodol yn hanes y wlad, ac ysgrifennodd sawl | O ran ei waith, roedd yn feddyg yn ardal [[Uwchgwyrfai]], ac fe gymhwysodd ei hun trwy ddod yn aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (MRCS) fel ei frawd o'i flaen. Hefyd, o'i blentyndod, fe fagodd ddiddordeb mawr mewn darllen ac astudio. Cymerai ddiddordeb penodol yn hanes y wlad, ac ysgrifennodd sawl llyfr ar gestyll Cymru, a hyd yn oed lyfr dan yr enw ''Awstralia, neu wlad yr aur'', ynghyd â nifer o erthyglau yn y cylchgrawn hynafiaethol, ''Archaeologia Cambrensis''. | ||
Fe'i trawyd gydag iselder affwysol ar ddiwedd ei oes fer. Erbyn 1858 roedd wedi rhoi'r gorau i weithio'n llwyr ac wedi ymneilltuo o bob cymdeithas, a bu farw yn Nhachwedd 1862. Fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] yn agos at fedd Eben Fardd, ei gyfaill. Ynghanol ei bruddglwyfni, ysgrifennodd yr hyn a fwriedai yn feddargraff iddo'i hun,<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), tt.47-8.</ref> sef: | Fe'i trawyd gydag iselder affwysol ar ddiwedd ei oes fer. Erbyn 1858 roedd wedi rhoi'r gorau i weithio'n llwyr ac wedi ymneilltuo o bob cymdeithas, a bu farw yn Nhachwedd 1862. Fe'i claddwyd ym mynwent [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] yn agos at fedd Eben Fardd, ei gyfaill. Ynghanol ei bruddglwyfni, ysgrifennodd yr hyn a fwriedai yn feddargraff iddo'i hun,<ref>W.R. Ambrose, ''Nant Nantlle'' (Pen-y-groes, 1872), tt.47-8.</ref> sef: |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:30, 12 Ebrill 2022
Roedd David William Pughe (1821-1862) yn feddyg yn ardal Uwchgwyrfai, yn hynafiaethydd ac yn llenor. Bu'n ffrind am flynyddoedd lawer (yn ogystal â meddyg) i Eben Fardd. Hanai ei dad o deulu Lleuar Bach a'i fam o Chwaen Wen, Ynys Môn, lle'r aeth ei dad, John Pughe, i ffermio wedi i'r ddau briodi, a ble cafodd David ei eni. Symudodd y teulu'n ôl i ardal Clynnog Fawr pan oedd o tua 8 oed, pan gafodd ei dad denantiaeth fferm Bachwen. Brawd iddo oedd John Pughe (Ioan ab Hu Feddyg).[1]
O ran ei waith, roedd yn feddyg yn ardal Uwchgwyrfai, ac fe gymhwysodd ei hun trwy ddod yn aelod o Goleg Brenhinol y Llawfeddygon (MRCS) fel ei frawd o'i flaen. Hefyd, o'i blentyndod, fe fagodd ddiddordeb mawr mewn darllen ac astudio. Cymerai ddiddordeb penodol yn hanes y wlad, ac ysgrifennodd sawl llyfr ar gestyll Cymru, a hyd yn oed lyfr dan yr enw Awstralia, neu wlad yr aur, ynghyd â nifer o erthyglau yn y cylchgrawn hynafiaethol, Archaeologia Cambrensis.
Fe'i trawyd gydag iselder affwysol ar ddiwedd ei oes fer. Erbyn 1858 roedd wedi rhoi'r gorau i weithio'n llwyr ac wedi ymneilltuo o bob cymdeithas, a bu farw yn Nhachwedd 1862. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr yn agos at fedd Eben Fardd, ei gyfaill. Ynghanol ei bruddglwyfni, ysgrifennodd yr hyn a fwriedai yn feddargraff iddo'i hun,[2] sef:
Wyf iach o bob afiechyd, Ac yn fy medd gwyn fy myd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma