Melin Bodellog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Mae'n amlwg mai rhan o adnoddau trefgordd [[Bodellog]] oedd '''Melin Bodellog''', a safai, mae'n debyg, ar [[Afon Gwyrfai]]. Hen enw [[Plas-y-bont]] yn ogystal ag enw'r drefgordd oedd Bodellog, yn ôl yr hanesydd Gilbert Williams, ac efallai nid oedd safle'r felin yn bell o'r tŷ hwnnw. Ym 1608, roedd y felin werth £60 y flwyddyn i'w deiliaid, ac fe gyfrifid fel melin yr Arglwydd, sef (erbyn hynny) Brenin Lloegr. Arhosai felly tan chwarter cyntaf y 17g., a chan ei fod yn eiddo uniongyrchog i'r Brenin, nid oedd yn perthyn i drefgordd Bodellog yn benodol, dim ond ei bod yn sefyll o fewn ffiniau'r drefgordd honno.<ref>W Gilbert Williams,''Hen Deuluoedd Llanwnda. II - Lewisiaid Plas-y-bont.'', Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 5, (1944), t.41.</ref> Mae'n debyg felly bod hen hanes i'r felin yn ymestyn yn ôl i oes y Tywysogion.  
Mae'n amlwg mai rhan o adnoddau trefgordd [[Bodellog]] oedd '''Melin Bodellog''', a safai, mae'n debyg, ar [[Afon Gwyrfai]]. Hen enw [[Plas-y-bont]], yn ogystal ag enw'r drefgordd, oedd Bodellog, yn ôl yr hanesydd Gilbert Williams, ac efallai nad oedd safle'r felin yn bell o'r tŷ hwnnw. Ym 1608, roedd y felin yn werth £60 y flwyddyn i'w deiliaid, ac fe'i cyfrifid fel melin yr Arglwydd, sef (erbyn hynny) Brenin Lloegr. Arhosodd felly tan chwarter cyntaf yr 17g., a chan ei bod yn eiddo uniongyrchol i'r Brenin, nid oedd yn perthyn i drefgordd Bodellog yn benodol, dim ond ei bod yn sefyll o fewn ffiniau'r drefgordd honno.<ref>W Gilbert Williams,''Hen Deuluoedd Llanwnda. II - Lewisiaid Plas-y-bont.'', Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 5, (1944), t.41.</ref> Mae'n debyg felly bod hen hanes i'r felin yn ymestyn yn ôl i oes y Tywysogion.  


Enw arall ar Melin Bodellog oedd Melin-y-groes, yn ôl dogfennau llys o 1627, sydd hefyd yn dweud mai at Felin Bodellog yr oedd rhaid i drigolion Llanwnda, Llanfaglan a threfgordd Bodellog ei hun fynd i gael malu eu grawn. Dyma, bron yn sicr, y felin y cyfeirir ati yn [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] fel Melin-y-groes. Yr un set o ddogfennau'n nodi hefyd fod y felin hon hefyd yn cael ei galw ar lafar gwlad yn 'Felin y Bont Newydd'. Gwraidd y gynnen yn yr achos llys<ref>Archifdy Gwladol, Cofnodion y Trysorlys, E 134/3and4Chas1/Hil7</ref> oedd y ffaith fod Richard Evans, [[Elernion]] a pherchennog Tyddyn y Bont-faen wedi codi melin newydd yno, sef [[Melin y Bont-faen]], a'r felin honno wedi effeithio i'r fath raddau ar fusnes Melin Bodellog fel nad oedd hi'n talu i'w chadw i fynd. Yn fwy na hynny, roedd y ffrwd felin a wnaed i dywys dŵr yr afon i Felin y Bont-faen wedi effeithio'n dirfawr ar y bysgodfa oedd ynghlwm wrth felin Bodellog. Dadleuwyd beth bynnag fod Melin y Bont-faen wedi ei chodi yn lle hen felin arall, sef [[Melin Cae Mawr]] tua milltir yn uwch i fyny'r afon na Melin Bodellog. Yr oedd felin arall wedi bod yn y cyffiniau ers tro felly, ac ni ddylai'r felin newydd effeithio dim ar Melin Bodellog.
Enw arall ar Felin Bodellog oedd Melin-y-groes, yn ôl dogfennau llys o 1627, a oedd hefyd yn dweud mai i Felin Bodellog yr oedd rhaid i drigolion Llanwnda, Llanfaglan a threfgordd Bodellog ei hun fynd i gael malu eu grawn. Dyma, bron yn sicr, y felin y cyfeirir ati yn [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] fel Melin-y-groes. Mae'r un set o ddogfennau'n nodi hefyd fod y felin hon hefyd yn cael ei galw ar lafar gwlad yn 'Felin y Bont Newydd'. Gwraidd y gynnen yn yr achos llys<ref>Archifdy Gwladol, Cofnodion y Trysorlys, E 134/3and4Chas1/Hil7</ref> oedd y ffaith fod Richard Evans, [[Elernion]], a pherchennog Tyddyn y Bont-faen, wedi codi melin newydd yno, sef [[Melin y Bont-faen]], a'r felin honno wedi effeithio i'r fath raddau ar fusnes Melin Bodellog fel nad oedd hi'n talu i'w chadw i fynd. Yn fwy na hynny, roedd y ffrwd felin a wnaed i dywys dŵr yr afon i Felin y Bont-faen wedi effeithio'n ddirfawr ar y bysgodfa oedd ynghlwm wrth felin Bodellog. Dadleuwyd beth bynnag fod Melin y Bont-faen wedi ei chodi yn lle hen felin arall, sef [[Melin Cae Mawr]], tua milltir yn uwch i fyny'r afon na Melin Bodellog. Yr oedd melin arall wedi bod yn y cyffiniau ers tro felly, ac ni ddylai'r felin newydd effeithio dim ar Felin Bodellog.


Beth bynnag am hyn oll, mae Melin Bodellog a'i safle hyd yn oed, wedi diflannu o'r tir ac o gof gwlad. Efallai iddi gau oherwydd effaith melin newydd y Bont-faen - neu efallai iddi gau pan adeiladwyd Melin Wyrfai tua dechrau'r 19g.<ref>W.Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), tt.115-136. Yno ceir holl fanylion dyrys yr achos llys.</ref>
Beth bynnag am hyn oll, mae Melin Bodellog, a'i safle hyd yn oed, wedi diflannu o'r tir ac o gof gwlad. Efallai iddi gau oherwydd effaith melin newydd y Bont-faen - neu efallai iddi gau pan adeiladwyd Melin Wyrfai tua dechrau'r 19g.<ref>W.Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), tt.115-136. Yno ceir holl fanylion dyrys yr achos llys.</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:42, 6 Mawrth 2022

Mae'n amlwg mai rhan o adnoddau trefgordd Bodellog oedd Melin Bodellog, a safai, mae'n debyg, ar Afon Gwyrfai. Hen enw Plas-y-bont, yn ogystal ag enw'r drefgordd, oedd Bodellog, yn ôl yr hanesydd Gilbert Williams, ac efallai nad oedd safle'r felin yn bell o'r tŷ hwnnw. Ym 1608, roedd y felin yn werth £60 y flwyddyn i'w deiliaid, ac fe'i cyfrifid fel melin yr Arglwydd, sef (erbyn hynny) Brenin Lloegr. Arhosodd felly tan chwarter cyntaf yr 17g., a chan ei bod yn eiddo uniongyrchol i'r Brenin, nid oedd yn perthyn i drefgordd Bodellog yn benodol, dim ond ei bod yn sefyll o fewn ffiniau'r drefgordd honno.[1] Mae'n debyg felly bod hen hanes i'r felin yn ymestyn yn ôl i oes y Tywysogion.

Enw arall ar Felin Bodellog oedd Melin-y-groes, yn ôl dogfennau llys o 1627, a oedd hefyd yn dweud mai i Felin Bodellog yr oedd rhaid i drigolion Llanwnda, Llanfaglan a threfgordd Bodellog ei hun fynd i gael malu eu grawn. Dyma, bron yn sicr, y felin y cyfeirir ati yn Stent Uwchgwyrfai 1352 fel Melin-y-groes. Mae'r un set o ddogfennau'n nodi hefyd fod y felin hon hefyd yn cael ei galw ar lafar gwlad yn 'Felin y Bont Newydd'. Gwraidd y gynnen yn yr achos llys[2] oedd y ffaith fod Richard Evans, Elernion, a pherchennog Tyddyn y Bont-faen, wedi codi melin newydd yno, sef Melin y Bont-faen, a'r felin honno wedi effeithio i'r fath raddau ar fusnes Melin Bodellog fel nad oedd hi'n talu i'w chadw i fynd. Yn fwy na hynny, roedd y ffrwd felin a wnaed i dywys dŵr yr afon i Felin y Bont-faen wedi effeithio'n ddirfawr ar y bysgodfa oedd ynghlwm wrth felin Bodellog. Dadleuwyd beth bynnag fod Melin y Bont-faen wedi ei chodi yn lle hen felin arall, sef Melin Cae Mawr, tua milltir yn uwch i fyny'r afon na Melin Bodellog. Yr oedd melin arall wedi bod yn y cyffiniau ers tro felly, ac ni ddylai'r felin newydd effeithio dim ar Felin Bodellog.

Beth bynnag am hyn oll, mae Melin Bodellog, a'i safle hyd yn oed, wedi diflannu o'r tir ac o gof gwlad. Efallai iddi gau oherwydd effaith melin newydd y Bont-faen - neu efallai iddi gau pan adeiladwyd Melin Wyrfai tua dechrau'r 19g.[3]

Cyfeiriadau

  1. W Gilbert Williams,Hen Deuluoedd Llanwnda. II - Lewisiaid Plas-y-bont., Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf. 5, (1944), t.41.
  2. Archifdy Gwladol, Cofnodion y Trysorlys, E 134/3and4Chas1/Hil7
  3. W.Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), tt.115-136. Yno ceir holl fanylion dyrys yr achos llys.