Setiau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''setiau''' yn flociau sgwar o ithfaen a naddwyd i'w siâp. Yn [[Uwchgwyrfai]], [[Trefor]] oedd canolfan gwneud setiau, ac fe'i hallforiwyd o harbwr y fan honno yn ei miloedd a miliynau. Cerrig palmantu yw setiau, a ddefnyddid yn bennaf mewn trefi a dinasoedd megis Lerpwl a Manceinion i wynebu strydoedd dinesig. Maent yn gwisgo'n galed ac yn creu arwyneb haws i'w gosod a chynnal nag arwyneb wedi ei chreu o gerrig mân naturiol (''cobblestones''). fe'u defnyddid yn helaeth ar elltydd mewn trefi hefyd gan fod ceffylau'n medru cerdded yn haws arnynt nac ar arwyneb lefn ar oleddf. Hefyd, fe'u defnyddid fel arwyneb ar boptu, ac yng nghanol, cledrau tramffyrdd dinesig.<ref>Erthygl Wikipedia ar "Set (Paving)", [https://en.wikipedia.org/wiki/Sett_(paving)]</ref>
Mae '''setiau''' (neu "sets" fel y dywedir yn gyffredin) yn flociau sgwâr o ithfaen a naddwyd i'w siâp. Fel rheol roeddent yn giwbiau pedair modfedd sgwâr, er y ceid rhai hirsgwar mwy 6" x 4" ar adegau. Yn [[Uwchgwyrfai]], Chwarel yr Eifl yn [[Nhrefor]] oedd y brif ganolfan gwneud sets, a thros y blynyddoedd allforiwyd miloedd lawer o dunelli ohonynt o'r harbwr yno. Bu sets yn cael eu cynhyrchu hefyd ar raddfa lai yn chwareli Tan y Graig a Thyddyn Hywel ar y Gurn Ddu, gyda'r cerrig yn cael eu hallforio o ddau gei a oedd ar y traeth islaw. Cerrig palmantu yw sets, a ddefnyddid yn bennaf mewn trefi a dinasoedd megis Lerpwl a Manceinion i wynebu strydoedd dinesig. Maent yn eithriadol o barhaol ac yn haws i'w gosod a'u cynnal a'u cadw nag arwyneb wedi ei greu o gerrig mân naturiol (''cobblestones''). Fe'u defnyddid yn helaeth ar elltydd mewn trefi hefyd gan fod ceffylau'n medru cerdded yn haws arnynt nag ar arwyneb lefn ar oleddf. Hefyd, fe'u defnyddid fel arwyneb o boptu, ac yng nghanol, cledrau tramffyrdd dinesig. Sets oedd prif gynnyrch y chwareli ithfaen o'r adeg pan gawsant eu hagor tua chanol y 19g hyd at oddeutu'r 1930au. O'r adeg honno ymlaen, ac yn arbennig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth oes y sets yn raddol i ben gyda'r chwareli wedyn yn cynhyrchu metlin o wahanol faint a gymysgid â tharmacadam i wynebu ffyrdd. Cynhyrchid y metlin drwy falu'r cerrig ithfaen mewn peiriannau enfawr, megis y "crusher" a fu'n rhan mor amlwg o Chwarel yr Eifl am flynyddoedd lawer. Gyda'r newid mawr hwnnw edwinodd y grefft o dorri neu naddu cerrig sets, er i rai barhau i gael eu cynhyrchu ar raddfa fechan am flynyddoedd wedyn. Fel holltwyr llechi yn y chwareli llechi, roedd torri sets yn grefft arbennig a drosglwyddid o un genhedlaeth i'r llall. Arferai'r setsmyn weithio mewn rhesi o gytiau ar bonciau'r chwarel gan dorri'r blociau ithfaen mawr a gludid iddynt yn sets drwy ddefnyddio amrywiaeth o gynion a morthwylion. Roedd hynny'n cynhyrchu llawer iawn o sglodion gwastraff, sydd i'w gweld wrth y cytiau ar bonciau'r chwareli ithfaen o hyd. <ref>Erthygl Wikipedia ar "Set (Paving)", [https://en.wikipedia.org/wiki/Sett_(paving)]</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 17:26, 2 Mawrth 2022

Mae setiau (neu "sets" fel y dywedir yn gyffredin) yn flociau sgwâr o ithfaen a naddwyd i'w siâp. Fel rheol roeddent yn giwbiau pedair modfedd sgwâr, er y ceid rhai hirsgwar mwy 6" x 4" ar adegau. Yn Uwchgwyrfai, Chwarel yr Eifl yn Nhrefor oedd y brif ganolfan gwneud sets, a thros y blynyddoedd allforiwyd miloedd lawer o dunelli ohonynt o'r harbwr yno. Bu sets yn cael eu cynhyrchu hefyd ar raddfa lai yn chwareli Tan y Graig a Thyddyn Hywel ar y Gurn Ddu, gyda'r cerrig yn cael eu hallforio o ddau gei a oedd ar y traeth islaw. Cerrig palmantu yw sets, a ddefnyddid yn bennaf mewn trefi a dinasoedd megis Lerpwl a Manceinion i wynebu strydoedd dinesig. Maent yn eithriadol o barhaol ac yn haws i'w gosod a'u cynnal a'u cadw nag arwyneb wedi ei greu o gerrig mân naturiol (cobblestones). Fe'u defnyddid yn helaeth ar elltydd mewn trefi hefyd gan fod ceffylau'n medru cerdded yn haws arnynt nag ar arwyneb lefn ar oleddf. Hefyd, fe'u defnyddid fel arwyneb o boptu, ac yng nghanol, cledrau tramffyrdd dinesig. Sets oedd prif gynnyrch y chwareli ithfaen o'r adeg pan gawsant eu hagor tua chanol y 19g hyd at oddeutu'r 1930au. O'r adeg honno ymlaen, ac yn arbennig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daeth oes y sets yn raddol i ben gyda'r chwareli wedyn yn cynhyrchu metlin o wahanol faint a gymysgid â tharmacadam i wynebu ffyrdd. Cynhyrchid y metlin drwy falu'r cerrig ithfaen mewn peiriannau enfawr, megis y "crusher" a fu'n rhan mor amlwg o Chwarel yr Eifl am flynyddoedd lawer. Gyda'r newid mawr hwnnw edwinodd y grefft o dorri neu naddu cerrig sets, er i rai barhau i gael eu cynhyrchu ar raddfa fechan am flynyddoedd wedyn. Fel holltwyr llechi yn y chwareli llechi, roedd torri sets yn grefft arbennig a drosglwyddid o un genhedlaeth i'r llall. Arferai'r setsmyn weithio mewn rhesi o gytiau ar bonciau'r chwarel gan dorri'r blociau ithfaen mawr a gludid iddynt yn sets drwy ddefnyddio amrywiaeth o gynion a morthwylion. Roedd hynny'n cynhyrchu llawer iawn o sglodion gwastraff, sydd i'w gweld wrth y cytiau ar bonciau'r chwareli ithfaen o hyd. [1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wikipedia ar "Set (Paving)", [1]