Ysgol Gynradd Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ysgol addysg gynadd ym mhentref Llanaelhaearn yw '''Ysgol Gynradd Llanaelhaearn'''. Agorwyd yr ysgol oddeutu 1874, ac mae hi dal ar agor hyd heddiw....' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ysgol addysg | Ysgol addysg gynradd ym mhentref [[Llanaelhaearn]] oedd '''Ysgol Gynradd Llanaelhaearn'''. | ||
Agorwyd yr ysgol oddeutu 1874, ac | Agorwyd yr ysgol oddeutu 1874, gan wasanaethu'r pentref a oedd yn cynyddu bryd hynny o ganlyniad yn bennaf i ddatblygiad Chwarel yr Eifl gerllaw. Roedd ei dalgylch hefyd yn cynnwys yr ardaloedd amaethyddol cyfagos. Erbyn y 1970au roedd nifer y disgyblion wedi gostwng yn sylweddol ac roedd Cyngor Gwynedd yn daer dros ei chau. Fodd bynnag, cafwyd gwrthwynebiad chwyrn yn y pentref ac, wedi ymdrech fawr, llwyddwyd i achub yr ysgol. Cafodd yr ymgyrch gyhoeddusrwydd drwy Gymru ar y cyfryngau ar y pryd. Yn dilyn hyn llwyddodd yr ysgol i oroesi am bron i hanner canrif arall. Fodd bynnag, gyda niferoedd y disgyblion drachefn wedi gostwng yn fawr, caewyd yr ysgol yn 2020 er gwaethaf protestiadau. Aeth y disgyblion i wahanol ysgolion cynradd cyfagos. Gelwid yr ysgol yn ''Llanaelhaearn Board School'' a hefyd yn ''Llanaelhaearn Council School'' ar un cyfnod. Mae'r adeilad carreg cadarn a fu'n gartref i'r ysgol yn wag ar hyn o bryd (2022). | ||
==Ffynonellau== | ==Ffynonellau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:27, 15 Chwefror 2022
Ysgol addysg gynradd ym mhentref Llanaelhaearn oedd Ysgol Gynradd Llanaelhaearn.
Agorwyd yr ysgol oddeutu 1874, gan wasanaethu'r pentref a oedd yn cynyddu bryd hynny o ganlyniad yn bennaf i ddatblygiad Chwarel yr Eifl gerllaw. Roedd ei dalgylch hefyd yn cynnwys yr ardaloedd amaethyddol cyfagos. Erbyn y 1970au roedd nifer y disgyblion wedi gostwng yn sylweddol ac roedd Cyngor Gwynedd yn daer dros ei chau. Fodd bynnag, cafwyd gwrthwynebiad chwyrn yn y pentref ac, wedi ymdrech fawr, llwyddwyd i achub yr ysgol. Cafodd yr ymgyrch gyhoeddusrwydd drwy Gymru ar y cyfryngau ar y pryd. Yn dilyn hyn llwyddodd yr ysgol i oroesi am bron i hanner canrif arall. Fodd bynnag, gyda niferoedd y disgyblion drachefn wedi gostwng yn fawr, caewyd yr ysgol yn 2020 er gwaethaf protestiadau. Aeth y disgyblion i wahanol ysgolion cynradd cyfagos. Gelwid yr ysgol yn Llanaelhaearn Board School a hefyd yn Llanaelhaearn Council School ar un cyfnod. Mae'r adeilad carreg cadarn a fu'n gartref i'r ysgol yn wag ar hyn o bryd (2022).
Ffynonellau
Llyfrau Log Ysgol Gynradd Llanaelhaearn (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/65 [1874-1953]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma