H.E. Jones (Hywel Cefni): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Hugh Evan Jones''' (ganwyd 1859), a | Roedd '''Hugh Evan Jones''' (ganwyd 1859), a adwaenid fel Hywel Cefni, ei enw barddol, yn wreiddol o Langefni, Ynys Môn. Roedd yn ddilledydd a gwerthwr dillad yn Cefni House, pentref [[Tal-y-sarn]]. Bu i'w nith briodi [[John Sarah (Pencerdd Cernyw)]] rywbryd ar ôl 1911, ac aeth y ddau at Hywel Cefni i fyw, a dywedir i John Sarah ymgymryd â phrentisiaeth er ei fod yn ei 30au erbyn hynny.<ref>Cyfrifiad Llanllyfni 1911</ref> | ||
Hywel Cefni - ar y cyd â'r bardd [[Owen Edwards (Anant)]], - ddysgodd yr [[R. Williams Parry]] ifanc i gynganeddu. | Hywel Cefni - ar y cyd â'r bardd [[Owen Edwards (Anant)]], - ddysgodd yr [[R. Williams Parry]] ifanc i gynganeddu. | ||
Yn ei gyfnod, | Yn ei gyfnod, ystyrid Hywel Cefni ymysg beirdd gorau [[Dyffryn Nantlle]], yn ôl y tabl o ragoriaethau a gwendidau beirdd lleol a gyhoeddwyd mewn papur lleol ym 1888.<ref>‘’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7. Fe atgynhyrchir y tabl cyfan yng nghorff yr erthygl ar [[Owen Edwards (Anant)]]</ref> | ||
Dyma englyn o'i waith: | Dyma englyn o'i waith: |
Fersiwn yn ôl 20:20, 9 Chwefror 2022
Roedd Hugh Evan Jones (ganwyd 1859), a adwaenid fel Hywel Cefni, ei enw barddol, yn wreiddol o Langefni, Ynys Môn. Roedd yn ddilledydd a gwerthwr dillad yn Cefni House, pentref Tal-y-sarn. Bu i'w nith briodi John Sarah (Pencerdd Cernyw) rywbryd ar ôl 1911, ac aeth y ddau at Hywel Cefni i fyw, a dywedir i John Sarah ymgymryd â phrentisiaeth er ei fod yn ei 30au erbyn hynny.[1]
Hywel Cefni - ar y cyd â'r bardd Owen Edwards (Anant), - ddysgodd yr R. Williams Parry ifanc i gynganeddu.
Yn ei gyfnod, ystyrid Hywel Cefni ymysg beirdd gorau Dyffryn Nantlle, yn ôl y tabl o ragoriaethau a gwendidau beirdd lleol a gyhoeddwyd mewn papur lleol ym 1888.[2]
Dyma englyn o'i waith:
Wawr dlos gan aur dlysau i gyd - a'i harddwch Cerdda fel o'r Gwynfyd; Gwyryfol egyr hefyd Y dwyrain borth i deyrn byd. (1910)[3]
Mae'n amlwg o'r mynych gyfeiriadau ato ym mhapurau newydd yr ardal ei fod yn arweinydd poblogaidd ar gyfarfodydd diwylliadol ac yn siaradwr ac ymgyrchydd ar ran achos dirwest.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad Llanllyfni 1911
- ↑ ‘’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7. Fe atgynhyrchir y tabl cyfan yng nghorff yr erthygl ar Owen Edwards (Anant)
- ↑ Papur Pawb, 29 Hydref 1910, t.3