Y Pwrws: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Safai '''Y Pwrws''' ar gyrion plwyf [[Llanwnda]] gyda phlwyf [[Llandwrog]]. Rhes o dri thŷ bychan oedd Y Pwrws, ac fe gafwyd yr enw gan mai yn nhŷ canol y rhes yr arferai swyddog tlodion Llanwnda, sef y Swyddog Cymorth, fyw. Rhaid oedd i unrhyw un a oedd angen cymorth ariannol gan y pl;wyf alw yn nhŷ y Swyddog Cymorth i ofyn am gynhaliaeth (ddigon sâl) i gadw corff ac ysbryd ynghyd. Nid tŷ ar gyfer rhoi llety i dlodion ydoedd, felly, ond man lle caent gymorth. Roedd tai ar gyfer tlodion yn y plwyf, fodd bynnag, a elwid yn ''dlotai'' neu ''Poorhouses'' mewn dogfennau: rhai o'r math oedd Stryd y Glem (lle saif Bay View Terrace, [[Llanwnda (pentref)|Llanwnda]] heddiw, rhan o Bentre Uchaf yn [[Y Bontnewydd]] a rhes o fythynnod ar dir y Geufron.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.152</ref>
Safai '''Y Pwrws''' ar gyrion plwyf [[Llanwnda]] gyda phlwyf [[Llandwrog]]. Rhes o dri thŷ bychan oedd Y Pwrws, ac fe gafwyd yr enw gan mai yn nhŷ canol y rhes yr arferai swyddog tlodion Llanwnda, sef y Swyddog Cymorth, fyw. Rhaid oedd i unrhyw un a oedd angen cymorth ariannol gan y plwyf alw yn nhŷ'r Swyddog Cymorth i ofyn am gynhaliaeth (ddigon sâl) i gadw corff ac ysbryd ynghyd. Nid tŷ ar gyfer rhoi llety i dlodion ydoedd, felly, ond man lle caent gymorth. Roedd tai ar gyfer tlodion yn y plwyf, fodd bynnag, a elwid yn ''dlotai'' neu ''Poorhouses'' mewn dogfennau: rhai o'r math yma oedd Stryd y Glem (lle saif Bay View Terrace, [[Llanwnda (pentref)|Llanwnda]] heddiw, rhan o Bentre Uchaf yn [[Y Bontnewydd]] a rhes o fythynnod ar dir y Geufron.<ref>W. Gilbert Williams, ''Moel Tryfan i'r Traeth'', (Pen-y-groes, 1983), t.152</ref>


Safai'r rhes o dai (sydd wedi ei hen ddymchwel) wrth ochr lôn drol sy'n rhedeg ar hyd ffin y ddau blwyf o Cae Garw i gyfeiriad y brif lôn trwy bentref [[Rhos-isaf]]. Gelwir y lôn drol hon yn "Llwybr Pwrws" a hyd yn ddiweddar, os nad hyd heddiw, rhennir costau clirio'r llwybr rhwng y ddau blwyf.
Safai'r rhes o dai (sydd wedi ei hen ddymchwel) wrth ochr lôn drol sy'n rhedeg ar hyd ffin y ddau blwyf o Cae Garw i gyfeiriad y brif lôn trwy bentref [[Rhos-isaf]]. Gelwir y lôn drol hon yn "Llwybr Pwrws" a hyd yn ddiweddar, os nad hyd heddiw, rhennir costau clirio'r llwybr rhwng y ddau blwyf.

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:50, 30 Ionawr 2022

Safai Y Pwrws ar gyrion plwyf Llanwnda gyda phlwyf Llandwrog. Rhes o dri thŷ bychan oedd Y Pwrws, ac fe gafwyd yr enw gan mai yn nhŷ canol y rhes yr arferai swyddog tlodion Llanwnda, sef y Swyddog Cymorth, fyw. Rhaid oedd i unrhyw un a oedd angen cymorth ariannol gan y plwyf alw yn nhŷ'r Swyddog Cymorth i ofyn am gynhaliaeth (ddigon sâl) i gadw corff ac ysbryd ynghyd. Nid tŷ ar gyfer rhoi llety i dlodion ydoedd, felly, ond man lle caent gymorth. Roedd tai ar gyfer tlodion yn y plwyf, fodd bynnag, a elwid yn dlotai neu Poorhouses mewn dogfennau: rhai o'r math yma oedd Stryd y Glem (lle saif Bay View Terrace, Llanwnda heddiw, rhan o Bentre Uchaf yn Y Bontnewydd a rhes o fythynnod ar dir y Geufron.[1]

Safai'r rhes o dai (sydd wedi ei hen ddymchwel) wrth ochr lôn drol sy'n rhedeg ar hyd ffin y ddau blwyf o Cae Garw i gyfeiriad y brif lôn trwy bentref Rhos-isaf. Gelwir y lôn drol hon yn "Llwybr Pwrws" a hyd yn ddiweddar, os nad hyd heddiw, rhennir costau clirio'r llwybr rhwng y ddau blwyf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), t.152