Llanaelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2: Llinell 2:


==Ffiniau a thirwedd==
==Ffiniau a thirwedd==
Mae plwyf LLanaelhaearn yn ffinio ar blwyf [[Clynnog-fawr]] i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr;y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ym [[Mwlch Siwncwl|Bwlch Siwncwl]]; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi [[Pont-y-gydros]].
Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf [[Clynnog-fawr]] i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr;y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ym [[Mwlch Siwncwl|Bwlch Siwncwl]]; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi [[Pont-y-gydros]].


Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal [[Cwm Coryn]] ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger [[Elernion]], ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.
Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal [[Cwm Coryn]] ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger [[Elernion]], ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.


==Yr eglwys a'i sant==
==Yr eglwys a'i sant==
Eglwys hynafol y plwyf yw [[Eglwys Aelhaearn Sant]]. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er iddi gael ei hehangu a'i hail-doi mor ddiweddar â 1892.
Eglwys hynafol y plwyf yw [[Eglwys Aelhaearn Sant]] a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei hehangu a'i hail-doi mor ddiweddar â 1892.
 
Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd [[Aelhaearn Sant|Sant Aelhaearn]], a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.
 
==Tai pwysig ac enwogion==
Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. [[Elernion]], plasty a fu yn eiddo i aelodau o deulu [[Glynllifon]] ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.
 
Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi:
Sir David Hughes Parry (1893–1973), Is-ganghellor Prifysgol Llundain.
Geraint Jones, yr awdur a'r bandfeistr.
 
==Y pentref==
 
==Nodweddion eraill y plwyf==
 
==Hanes diweddar==
 
 
 




[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]
[[Categori:Plwyfi hanesyddol]]

Fersiwn yn ôl 16:20, 5 Ionawr 2018

Llanaelhaearn yw'r plwyf mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai. Mae'n cynnwys dau bentref, sef Llanaelhaearn a Threfor, ac mae Trefor ei hun yn greadigaeth y 19g pan dyfodd y chwarel yno. Fermydd gwasgaredig ac ambell i dŷ moel yw gweddill anheddau'r plwyf.

Ffiniau a thirwedd

Mae plwyf Llanaelhaearn yn ffinio ar blwyf Clynnog-fawr i'r gogledd; plwyfi Pistyll a Charnguwch yng nghwmwd Dinllaen; a phlwyf Llangybi yng nghwmwd Eifionydd i'r de, ynghyd ag un gornel fach lle mae'n ffinio ar blwyf Dolbenmaen. Tair brif lôn sy'n arwain o'r plwyf, sef y lôn i Gaernarfon, sydd yn croesi ffin y plwyf ger Bryn-yr-eryr;y lôn i Nefyn, sy'n croesi'r ffin ym Bwlch Siwncwl; a'r lôn i Bwllheli, sydd yn gadael plwyf Llanaelhaearn wrth groesi Pont-y-gydros.

Ar wahân i rimyn o iseldir rhwng y môr a mynyddoedd Gurn Ddu, Moel Penllechog a'r Eifl; ac ardal Cwm Coryn ar lethrau deheuol y mynyddoedd hynny lle ceir ffermydd a pheth rhostir a chors, mynydd-dir caregog ac anial yw llawer o'r plwyf. Mae planhigfeydd o goed bytholwyrdd ger Elernion, ac yn arbennig yn ne'r plwyf, lle mae Ystad Glasfyn yn tyfu llawer o goed i gyflenwi ei busnes pyst a giatiau.

Yr eglwys a'i sant

Eglwys hynafol y plwyf yw Eglwys Aelhaearn Sant a aned oddeutu'r flwyddyn 600 O.C. Mae'r waliau'n dyddio'n ôl i'r 12g, er i'r adeilad gael ei hehangu a'i hail-doi mor ddiweddar â 1892.

Credir mai sylfaenydd yr eglwys hon oedd Sant Aelhaearn, a hanai o Langadfan, Sir Drefaldwyn. Mae eglwysi Cegidfa (Sir Drefaaldwyn) a chapel ger Gwyddelwern (Sir Feirionnydd) hefyd wedi eu cysgegru yn ei enw.

Tai pwysig ac enwogion

Nid oes plasty mawr yn y plwyf, ond ceid nifer o deuluoedd o fân fonheddwyr yn preswylio yno. Elernion, plasty a fu yn eiddo i aelodau o deulu Glynllifon ar un adeg, yw'r pwysicaf o'r rhain. Mae plasty pwysig Glasfryn ychydig i'r de o ffin y plwyf, ym mhlwyf Llangybi.

Ymysg pobl nodedig y plwyf gellir enwi: Sir David Hughes Parry (1893–1973), Is-ganghellor Prifysgol Llundain. Geraint Jones, yr awdur a'r bandfeistr.

Y pentref

Nodweddion eraill y plwyf

Hanes diweddar