Y Foryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Y Foryd''' yw'r enw ar fae neu aber rhwng [[Trwyn Dinlle]] a gweddill y tir mawr. Yr enw a arddelir (yn llai aml y dyddiau hyn!) yw ''Llanfaglan Harbour'', gan fod Eglwys Llanfaglan yn [[Isgwyrfai]] ar y lan bellaf. Mae [[Afon Gwyrfai]], [[Afon Carrog]] ac [[Afon Foryd]] yn ymarllwys i Afon Menai trwy'r Foryd. Byddai ffordd ar adegau o lanw isel ar draws y Foryd, ac mae hon yn cael ei dangos ar hen fapiau, ond mae wedi hen ddiflannu. Ger ceg y Foryd mae harbwr bach [[Caer Belan]] sydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan hwylwyr amser hamdden. Ar y lan gyferbyn ceir ardal a elwir yn [[Y Foryd Bach|Foryd Bach]] a chedwir ambell i gwch yno hefyd, er bod y Foryd mor fas fel arfer fel nad oes modd cyrraedd y Foryd Bach ond ar adegau o lanw uchel; dichon mewn dyddiau gynt fod yr harbwr bychan ar gyfer dadlwytho calch.
'''Y Foryd''' yw'r enw ar fae neu aber rhwng [[Trwyn Dinlle]] a gweddill y tir mawr. Yr enw a arddelir (yn llai aml y dyddiau hyn!) yw ''Llanfaglan Harbour'', gan fod Eglwys Llanfaglan yn [[Isgwyrfai]] ar y lan bellaf. Mae [[Afon Gwyrfai]], [[Afon Carrog]] ac [[Afon Foryd]] yn ymarllwys i Afon Menai trwy'r Foryd. Ar un adeg bu ffordd ar draws y Foryd a ddefnyddid ar adegau o lanw isel, ac mae hon yn cael ei dangos ar hen fapiau, ond mae wedi hen ddiflannu. Ger ceg y Foryd mae harbwr bach [[Caer Belan]] sydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan hwylwyr amser hamdden. Ar y lan gyferbyn ceir ardal a elwir yn [[Y Foryd Bach|Foryd Bach]] a chedwir ambell i gwch yno hefyd, er bod y Foryd mor fas fel rheol fel nad oes modd cyrraedd y Foryd Bach ond ar adegau o lanw uchel; dichon i'r harbwr bychan gael ei ddefnyddio ar gyfer dadlwytho calch yn y dyddiau gynt.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Fersiwn yn ôl 17:19, 17 Ionawr 2022

Y Foryd yw'r enw ar fae neu aber rhwng Trwyn Dinlle a gweddill y tir mawr. Yr enw a arddelir (yn llai aml y dyddiau hyn!) yw Llanfaglan Harbour, gan fod Eglwys Llanfaglan yn Isgwyrfai ar y lan bellaf. Mae Afon Gwyrfai, Afon Carrog ac Afon Foryd yn ymarllwys i Afon Menai trwy'r Foryd. Ar un adeg bu ffordd ar draws y Foryd a ddefnyddid ar adegau o lanw isel, ac mae hon yn cael ei dangos ar hen fapiau, ond mae wedi hen ddiflannu. Ger ceg y Foryd mae harbwr bach Caer Belan sydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan hwylwyr amser hamdden. Ar y lan gyferbyn ceir ardal a elwir yn Foryd Bach a chedwir ambell i gwch yno hefyd, er bod y Foryd mor fas fel rheol fel nad oes modd cyrraedd y Foryd Bach ond ar adegau o lanw uchel; dichon i'r harbwr bychan gael ei ddefnyddio ar gyfer dadlwytho calch yn y dyddiau gynt.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma