Pont Lyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
'''Pont Lyfni''' yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef hen ffordd dyrpeg o Caernarfon i Bwllheli, dros [[Afon Llyfnwy]].  
'''Pont Lyfni''' yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef yr hen ffordd dyrpeg o Gaernarfon i Bwllheli, dros [[Afon Llyfnwy]].  


Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]].
Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef [[Pontlyfni]].


Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post ([[Tafarn y Boar's Head]] gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, t.45</ref> Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef [[Pont-y-Cim]] yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/158</ref>  Un bwa oedd iddi.  Roedd carreg yn nodi blwyddyn ei hagor yn 1777 arni,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.<ref>Archifdy Caernarfon XPE/28/131</ref> Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:   
Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post ([[Tafarn y Boar's Head]] gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ''Caernarvonshire'', Cyf.2, t.45</ref> Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion, a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion, y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef [[Pont-y-Cim]] yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.<ref>Archifdy Caernarfon XPlansB/158</ref>  Un bwa oedd iddi.  Roedd carreg arni yn nodi blwyddyn ei hagor ym 1777,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.<ref>Archifdy Caernarfon XPE/28/131</ref> Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw, ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:   
[[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|Blwyddyn codi'r bont 1777]]
[[Delwedd:Enghraifft.jpg|bawd|Blwyddyn codi'r bont 1777]]
[[Delwedd:Pont Lyfni.JPG|bawd|300px|de|Englyn ar yr hen bont]]
[[Delwedd:Pont Lyfni.JPG|bawd|300px|de|Englyn ar yr hen bont]]

Fersiwn yn ôl 16:53, 13 Ionawr 2022

Pont Lyfni yw enw'r bont sy'n cario'r A499, sef yr hen ffordd dyrpeg o Gaernarfon i Bwllheli, dros Afon Llyfnwy.

Rhoddodd y bont yr enw i'r pentref gerllaw, sef Pontlyfni.

Adnewyddwyd y bont tua'r 1950au pryd y lledwyd y ffordd ac y chwalwyd Swyddfa'r Post (Tafarn y Boar's Head gynt). Mae'r waliau uchaf yn rhai modern fel nad yw'r sawl sy'n teithio drosti yn sylwi ei bod yn weddol hen.[1] Mae sôn am y bont mewn dogfen o'r Llys Chwarter ym 1776. Cafodd Henry Parry, Moel-y-don, Ynys Môn, saer olwynion, a John Hughes, Caernarfon, saer olwynion, y contract am godi'r bont newydd am y swm o £460. Nodir yn y ddogfen fod yr hen bont, sef Pont-y-Cim yn "annigonol, anghyfleus ac angen ei thrwsio" a'r penderfyniad oedd codi pont newydd sbon ar y ffordd dyrpeg mewn man newydd.[2] Un bwa oedd iddi. Roedd carreg arni yn nodi blwyddyn ei hagor ym 1777,ynghyd â llythrennau'r adeiladwyr.[3] Gosodwyd y garreg hon ar y lloches bws gerllaw, ynghyd â'r llechen hon â'r "englyn" hwn wedi ei dorri arni. Sylwer mai "saer melinau" yw John Hughes, mai Llyfni yw'r afon yn hytrach na Llyfnwy a bod rhai llythrennau yn aneglur:

Blwyddyn codi'r bont 1777
Englyn ar yr hen bont

Dehonglir yr englyn ar y llechen a welir yn y llun fel a ganlyn:

         Pont hirfaith pont i'r gwaith gwiw
         Pont glòs odiaeth pont glws ydyw
         Pont ar li Lyfni liw
         Pont ddeil ond dŵr dyliw."
              J. Hughes, Saer Melina
                  Carnarvon 1777


Cyfeiriadau

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.2, t.45
  2. Archifdy Caernarfon XPlansB/158
  3. Archifdy Caernarfon XPE/28/131