Edmund Llwyd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Bu '''Edmund Llwyd''' farw ym 1540/1 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Fo oedd ail fab Robert ap Meredydd; roedd ei frawd hŷn, [[Morus Glynn]], a fabwysiadwyd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anaddas os nad anghymwys i etifeddu [[Ystad Glynllifon]] - ar wahân i unrhwy rwystr gan yr Eglwys i offeiriad fod yn berchen ar gyfoeth mawr, roedd offeiriaid Catholig ddim yn cael priodi, ac felly ni fyddai etifeddiaeth yr ystad yn sicr. Sylwer fod bynnag fod Morus a rhai o'i frodyr oedd y rhai cyntaf i arddel y cyfenw "Glynn" tra pharhaodd Edmund i ddefnyddio'r enw "Llwyd", a ddaeth yn wreiddiol o'i hen daid, [[Hwlcyn Llwyd]].
Bu '''Edmund Llwyd''' farw ym 1540/1 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Ef oedd ail fab Robert ap Meredydd. Roedd ei frawd hŷn, [[Morus Glynn]], a fabwysiadodd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anaddas os nad anghymwys i etifeddu [[Ystad Glynllifon]]. Yn ogystal â'r ffaith na ddymunai'r Eglwys i offeiriad fod yn berchen ar gyfoeth mawr, nid oedd offeiriaid Catholig yn cael priodi, ac felly ni fyddai etifeddiaeth yr ystad yn sicr. Sylwer, fodd bynnag, mai Morus a rhai o'i frodyr oedd y rhai cyntaf i arddel y cyfenw "Glynn", tra parhaodd Edmund i ddefnyddio'r enw "Llwyd", a ddaeth yn wreiddiol o'i hen daid, [[Hwlcyn Llwyd]].


Priod Edmund oedd Annes ferch William ap Gruffydd ap Robin, Cochwillan; roedd hi'n weddw Ffowc Salusbury, LLanrwst pan briododd hi Edmund. Cawsant ddau fab, William Glynn (marw 1594)a etifeddodd y prif ystad; a Robert Glynn, a etifeddodd Sychnant, [[Llanaelhaearn]].<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 172</ref>
Priod Edmund oedd Annes ferch William ap Gruffydd ap Robin, Cochwillan; roedd hi'n weddw Ffowc Salusbury, Llanrwst, pan briododd ag Edmund. Cawsant ddau fab, William Glynn (marw 1594), a etifeddodd y brif ystad; a Robert Glynn, a etifeddodd Sychnant, [[Llanaelhaearn]].<ref>J E Griffith, ''Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t. 172</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]
[[Categori:Tirfeddianwyr]]

Fersiwn yn ôl 15:46, 2 Ionawr 2022

Bu Edmund Llwyd farw ym 1540/1 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Ef oedd ail fab Robert ap Meredydd. Roedd ei frawd hŷn, Morus Glynn, a fabwysiadodd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anaddas os nad anghymwys i etifeddu Ystad Glynllifon. Yn ogystal â'r ffaith na ddymunai'r Eglwys i offeiriad fod yn berchen ar gyfoeth mawr, nid oedd offeiriaid Catholig yn cael priodi, ac felly ni fyddai etifeddiaeth yr ystad yn sicr. Sylwer, fodd bynnag, mai Morus a rhai o'i frodyr oedd y rhai cyntaf i arddel y cyfenw "Glynn", tra parhaodd Edmund i ddefnyddio'r enw "Llwyd", a ddaeth yn wreiddiol o'i hen daid, Hwlcyn Llwyd.

Priod Edmund oedd Annes ferch William ap Gruffydd ap Robin, Cochwillan; roedd hi'n weddw Ffowc Salusbury, Llanrwst, pan briododd ag Edmund. Cawsant ddau fab, William Glynn (marw 1594), a etifeddodd y brif ystad; a Robert Glynn, a etifeddodd Sychnant, Llanaelhaearn.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172