Gregory Williamson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sais heb fawr o gysylltiad ag [[Uwchgwyrfai]] oedd '''Gregory Williamson'''. Yr oedd yn byw yn hanner cyntaf y 16g. Cafodd ei benodi'n brofost [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] ym 1537 gan Esgob newydd Bangor, John Capon, Sais arall na fuodd yn agos at ei esgobaeth cyn hynny. Ar y pryd, nid oedd Williamson ond yn wyth oed! Dichon mai er mwyn ennill ffafr Thomas Cromwell, prif swyddog y brenin Harri VIII, y gwnaeth Capon y penodiad hwn, gan fod Williamson yn perthyn i Cromwell. Nid oedd dirprwy a Ficer Cyffredinol Bangor, Dr John Glyn, yn fodlon gyda hyn ac, fel cynrychiolydd yr Esgob yn ei absenoldeb o'i esgobaeth, fe benododd [[Sion Gwynedd (John Gwynneth)]] i'r un swydd o brofost. Bu achosion cyfreithiol gan y ddau brofost honedig yn draul ar arian ac amynedd deilydd cyfreithlon y swydd am ryw bedair blynedd ond, yn y diwedd, Gwynedd a orfu, oherwydd fod Capon wedi marw, a'i olynydd, yr Esgob Arthur Bulkeley, wedi mynd dramor, a neb yn amddiffyn yr achos.<ref>Colin A Gresham, ''A Further Incident in the History of Clynnog Fawr'' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1966 (2) ), tt.301-2 </ref> | Sais heb fawr o gysylltiad ag [[Uwchgwyrfai]] oedd '''Gregory Williamson'''. Yr oedd yn byw yn hanner cyntaf y 16g. Cafodd ei benodi'n brofost [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]] ym 1537 gan Esgob newydd Bangor, John Capon, Sais arall na fuodd yn agos at ei esgobaeth cyn hynny. Ar y pryd, nid oedd Williamson ond yn wyth oed, ac yn gwbl amlwg yn anaddas ar gyfer cael ei benodi i swydd pennaeth sefydliad eglwysig - ond wrth gwrs, gallai ef a'i deulu fanteisio ar y cyflog a ddeuai gyda swyddi o'r fath, ac yn ôl arfer yr amser, na fyddai unrhyw ddisgwyliad iddo ymweld â Chlynnog Fawr! Dichon mai er mwyn ennill ffafr Thomas Cromwell, prif swyddog y brenin Harri VIII, y gwnaeth Capon y penodiad hwn, gan fod Williamson yn perthyn i Cromwell. Nid oedd dirprwy a Ficer Cyffredinol Bangor, Dr John Glyn, yn fodlon gyda hyn ac, fel cynrychiolydd yr Esgob yn ei absenoldeb o'i esgobaeth, fe benododd [[Sion Gwynedd (John Gwynneth)]] i'r un swydd o brofost. Bu achosion cyfreithiol gan y ddau brofost honedig yn draul ar arian ac amynedd deilydd cyfreithlon y swydd am ryw bedair blynedd ond, yn y diwedd, Gwynedd a orfu, oherwydd fod Capon wedi marw, a'i olynydd, yr Esgob Arthur Bulkeley, wedi mynd dramor, a neb yn amddiffyn yr achos.<ref>Colin A Gresham, ''A Further Incident in the History of Clynnog Fawr'' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1966 (2) ), tt.301-2 </ref> | ||
Wedi hynny, ni chlywyd sôn am Williamson yng Nghlynnog Fawr. | Wedi hynny, ni chlywyd sôn am Williamson yng Nghlynnog Fawr a chyda bod Cromwell wedi colli ffafraeth y brenin ym 1540, aeth pob atgof ohono'n anghof. | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Fersiwn yn ôl 12:32, 30 Rhagfyr 2021
Sais heb fawr o gysylltiad ag Uwchgwyrfai oedd Gregory Williamson. Yr oedd yn byw yn hanner cyntaf y 16g. Cafodd ei benodi'n brofost Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr ym 1537 gan Esgob newydd Bangor, John Capon, Sais arall na fuodd yn agos at ei esgobaeth cyn hynny. Ar y pryd, nid oedd Williamson ond yn wyth oed, ac yn gwbl amlwg yn anaddas ar gyfer cael ei benodi i swydd pennaeth sefydliad eglwysig - ond wrth gwrs, gallai ef a'i deulu fanteisio ar y cyflog a ddeuai gyda swyddi o'r fath, ac yn ôl arfer yr amser, na fyddai unrhyw ddisgwyliad iddo ymweld â Chlynnog Fawr! Dichon mai er mwyn ennill ffafr Thomas Cromwell, prif swyddog y brenin Harri VIII, y gwnaeth Capon y penodiad hwn, gan fod Williamson yn perthyn i Cromwell. Nid oedd dirprwy a Ficer Cyffredinol Bangor, Dr John Glyn, yn fodlon gyda hyn ac, fel cynrychiolydd yr Esgob yn ei absenoldeb o'i esgobaeth, fe benododd Sion Gwynedd (John Gwynneth) i'r un swydd o brofost. Bu achosion cyfreithiol gan y ddau brofost honedig yn draul ar arian ac amynedd deilydd cyfreithlon y swydd am ryw bedair blynedd ond, yn y diwedd, Gwynedd a orfu, oherwydd fod Capon wedi marw, a'i olynydd, yr Esgob Arthur Bulkeley, wedi mynd dramor, a neb yn amddiffyn yr achos.[1]
Wedi hynny, ni chlywyd sôn am Williamson yng Nghlynnog Fawr a chyda bod Cromwell wedi colli ffafraeth y brenin ym 1540, aeth pob atgof ohono'n anghof.
Cyfeiriadau
- ↑ Colin A Gresham, A Further Incident in the History of Clynnog Fawr (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1966 (2) ), tt.301-2