Band Moeltryfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Ffurfiwyd [[Band Moeltryfan]] reit ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ym mhentref [[Rhosgadfan]]. Ei enw cyntaf oedd Seindorf Pen-y-ffridd ac arferai ymarfer, yng ngolau'r gannwyll, yn hen warws flawd Bryn Crin, Rhosgadfan. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach newidiodd ei enw i Seindorf Moeltryfan. <ref>''Cyrn y Diafol'' gan Geraint Jones 2004 t.43</ref>
Ffurfiwyd [[Band Moeltryfan]] ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ym mhentref [[Rhosgadfan]]. Enw cyntaf y band oedd Seindorf Pen-y-ffridd ac arferai ymarfer, yng ngolau'r gannwyll, yn hen warws flawd Bryn Crin, Rhosgadfan. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach newidiodd ei enw i Seindorf Moeltryfan. <ref>''Cyrn y Diafol'' gan Geraint Jones 2004 t.43</ref>


Ym 1930 newidiwyd y band o fod yn fand pres i fod yn fand arian, h.y. rhoddwyd 'golchiad arian' ''(silver plating)'' i'r cyrn. Hyn oedd ffasiwn y cyfnod ac fe swniai 'band arian' yn llawer crandiach a llai coman na 'band pres', ac yn enwedig yn Saesneg ! Felly, rhaid oedd newid enw'r band yn ogystal, y tro hwn yn Cadfan - yr enw yn Saesneg, sef ''Cadvan Silver Band''.
Ym 1930 newidiwyd y band o fod yn fand pres i fod yn fand arian, h.y. rhoddwyd 'golchiad arian' ''(silver plating)'' i'r cyrn. Hyn oedd ffasiwn y cyfnod ac fe swniai 'band arian' yn llawer crandiach a llai coman na 'band pres', yn enwedig yn Saesneg! Penderfynwyd newid enw'r band yn ogystal, sef Seindorf Arian Cadfan - a'r enw yn Saesneg oedd ''Cadvan Silver Band''.


Dyma enwau rhai o arweinyddion y band :
Dyma enwau rhai o arweinyddion y band :
Llinell 21: Llinell 21:
Ymysg yr aelodau yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd roedd William Hughes (Iwffoniwm), Thomas Williams (Tomi Meinar neu Twm Trombôn fel y'i gelwid), Gwilym Evans, Lewis Owen a'i frawd, Tyddyn Difyr.  
Ymysg yr aelodau yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd roedd William Hughes (Iwffoniwm), Thomas Williams (Tomi Meinar neu Twm Trombôn fel y'i gelwid), Gwilym Evans, Lewis Owen a'i frawd, Tyddyn Difyr.  
   
   
Wedi marwolaeth Solomon Jones (yn 47 oed) ym 1936, dirywiodd y band yn gyflym iawn, a bu farw - braidd yn ddialar.
Wedi marwolaeth Solomon Jones (yn 47 oed) ym 1936, dirywiodd y band yn gyflym iawn, a daeth i ben - a hynny braidd yn ddialar.


Wedi'r Ail Ryfel Byd, ceisiwyd ail-ennyn y fflam. Unodd gweddill y band â gweddill Seindorf Dyffryn Nantlle gan ffurfio un band i gystadlu (yn aflwyddiannus) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bae Colwyn, ym 1947 dan arweiniad [[Alfred Henderson]], arweinydd Band Nantlle. Y darn prawf oedd ''Pride of the Forest'' (J.A.Greenwood). Daeth y band yn bedwerydd allan o naw. Wedi hynny diflannodd Seindorf Arian Cadfan am byth.
Wedi'r Ail Ryfel Byd, ceisiwyd ail-ennyn y fflam. Unodd gweddill y band â gweddill Seindorf Dyffryn Nantlle gan ffurfio un band i gystadlu (yn aflwyddiannus) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bae Colwyn, ym 1947 dan arweiniad [[Alfred Henderson]], arweinydd Band Nantlle. Y darn prawf oedd ''Pride of the Forest'' (J.A.Greenwood). Daeth y band yn bedwerydd allan o naw. Wedi hynny diflannodd Seindorf Arian Cadfan am byth.


Fodd bynnag, bu rhyw hanner dwsin o'r hen offerynnau (gwneuthuriad ''Soltron'') yn gorwedd yn fud am dros chwarter canrif dan lwyfan [[Neuadd Rhosgadfan]]. Yn y diwedd, fe'u rhoddwyd yn rhodd i Bwyllgor Addysg Gwynedd i'w defnyddio mewn gwersi offerynnol a delid amdanynt gan yr Awdurdod, yn bennaf yn [[Ysgol Gynradd Rhosgadfan]]. Rhyw dri yn unig o'r cyrn y llwyddwyd i'w hadfer.
Fodd bynnag, bu rhyw hanner dwsin o'r hen offerynnau (gwneuthuriad ''Soltron'') yn gorwedd yn fud am dros chwarter canrif dan lwyfan [[Neuadd Rhosgadfan]]. Yn y diwedd, fe'u rhoddwyd yn rhodd i Bwyllgor Addysg Gwynedd i'w defnyddio mewn gwersi offerynnol gan yr Awdurdod, yn bennaf yn [[Ysgol Gynradd Rhosgadfan]]. Rhyw dri yn unig o'r cyrn y llwyddwyd i'w hadfer.





Fersiwn yn ôl 21:14, 8 Rhagfyr 2021

Ffurfiwyd Band Moeltryfan ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ym mhentref Rhosgadfan. Enw cyntaf y band oedd Seindorf Pen-y-ffridd ac arferai ymarfer, yng ngolau'r gannwyll, yn hen warws flawd Bryn Crin, Rhosgadfan. Rhai blynyddoedd yn ddiweddarach newidiodd ei enw i Seindorf Moeltryfan. [1]

Ym 1930 newidiwyd y band o fod yn fand pres i fod yn fand arian, h.y. rhoddwyd 'golchiad arian' (silver plating) i'r cyrn. Hyn oedd ffasiwn y cyfnod ac fe swniai 'band arian' yn llawer crandiach a llai coman na 'band pres', yn enwedig yn Saesneg! Penderfynwyd newid enw'r band yn ogystal, sef Seindorf Arian Cadfan - a'r enw yn Saesneg oedd Cadvan Silver Band.

Dyma enwau rhai o arweinyddion y band :

1. William T. Sarah, Tal-y-sarn / Nantlle ;

2. Owen Hughes, Garreg Wen ;

3. Hugh Hughes, mab Owen Hughes ;

4. Morgan J. Jones, Tal-y-sarn / Nantlle ;

5. Solomon Jones (Alaw Cadfan), Rhosgadfan.

Fel rheol, arweinydd proffesiynol y band oedd Harry Heyes, arweinydd enwog Seindorf Dyffryn Nantlle.

Bu adran bâs sefydlog yn y band dros nifer helaeth o flynyddoedd - William Griffiths (Hen Ŵr), John Jones, Ty'n Graig, Edwin Hughes a Solomon Jones (Alaw Cadfan). [2]

Ymysg yr aelodau yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd roedd William Hughes (Iwffoniwm), Thomas Williams (Tomi Meinar neu Twm Trombôn fel y'i gelwid), Gwilym Evans, Lewis Owen a'i frawd, Tyddyn Difyr.

Wedi marwolaeth Solomon Jones (yn 47 oed) ym 1936, dirywiodd y band yn gyflym iawn, a daeth i ben - a hynny braidd yn ddialar.

Wedi'r Ail Ryfel Byd, ceisiwyd ail-ennyn y fflam. Unodd gweddill y band â gweddill Seindorf Dyffryn Nantlle gan ffurfio un band i gystadlu (yn aflwyddiannus) yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bae Colwyn, ym 1947 dan arweiniad Alfred Henderson, arweinydd Band Nantlle. Y darn prawf oedd Pride of the Forest (J.A.Greenwood). Daeth y band yn bedwerydd allan o naw. Wedi hynny diflannodd Seindorf Arian Cadfan am byth.

Fodd bynnag, bu rhyw hanner dwsin o'r hen offerynnau (gwneuthuriad Soltron) yn gorwedd yn fud am dros chwarter canrif dan lwyfan Neuadd Rhosgadfan. Yn y diwedd, fe'u rhoddwyd yn rhodd i Bwyllgor Addysg Gwynedd i'w defnyddio mewn gwersi offerynnol gan yr Awdurdod, yn bennaf yn Ysgol Gynradd Rhosgadfan. Rhyw dri yn unig o'r cyrn y llwyddwyd i'w hadfer.


Cyfeiriadau

  1. Cyrn y Diafol gan Geraint Jones 2004 t.43
  2. Canrif y Chwarelwr gan Emyr Jones 1963