Siop y Cwmni Ithfaen Cymreig, Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd '''Siop y Cwmni Ithfaen Cymreig''' ym 1866.
Sefydlwyd '''Siop y Cwmni Ithfaen Cymreig''' ym 1866.


Ar ôl iddo gael ei sefydlu ym 1856 tyfodd pentref [[Trefor]] yn gymharol gyflym wrth i'r chwarel ithfaen gynyddu ac ehangu gan ddenu gweithwyr newydd. Yn naturiol gyda'r cynnydd daeth galw am siopau i fwydo'r boblogaeth gynyddol. Gwelodd y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] - a oedd yn berchen ar [[Chwarel Craig y Farchas]] - ei gyfle ac ym Mehefin 1866, ddegawd ar ôl sefydlu'r pentref newydd, agorodd y Cwmni siop yn adeiladau ei swyddfa yn y [[West End, Trefor|West End]]. Roedd nwyddau ar gyfer y siop yn cael ei mewnforio o Lerpwl yn llongau'r cwmni ar eu taith yn eu holau i Drefor ar ôl cario cerrig sets y chwarel i'r ddinas honno. Cai'r nwyddau wedyn eu cludo o'r harbwr yn wagenni'r cwmni ar hyd y [[Tramffordd Chwarel Craig y Farchas|dramffordd]] i'r siop. Bu cwyno o'r dechrau nad oedd llawer o ddewis o ran nwyddau yn y siop a bod y prisiau'n uchel. Os oedd y cwsmeriaid yn methu â thalu am y nwyddau ar law fe ganiateid wythnos o goel iddynt, ond wedyn roedd hawl gan y cwmni i dynnu'r arian dyledus yn syth o gyflogau'r chwarelwyr. Nod y cwmni oedd gweld o leiaf draean o gyflogau'r dynion yn dod yn ôl i'w goffrau. Gyda'r nos yn unig roedd y siop yn agored i ddechrau ond, ymhen ychydig, penodwyd rheolwr i fod yn gyfrifol amdani ac ymestynnwyd yr oriau agor. Fodd bynnag, ni fu bri ar y siop hon a chaeodd yn Ebrill 1867 ar ôl gweithredu am ddim ond 11 mis a pheri cryn golled i'r cwmni. Yn ogystal â'r prisiau ei hanfantais fawr oedd ei bod hanner milltir a mwy o'r pentref a doedd gwragedd y chwarelwyr ddim eisiau llusgo yno ymhob tywydd. Hefyd roedd rhai wedi gweld eu cyfle i agor siopau bychain yn eu cartrefi a chynnig nwyddau ar well telerau na siop y cwmni. Prynwyd stoc siop y Cwmni Ithfaen Cymreig gan William Bott a agorodd siop newydd yn ei dŷ yn 3 Trefor Row (56 Ffordd yr Eifl erbyn hyn). Cododd gwt bychan o goed a sinc yn y cefn i gadw'r nwyddau.<ref>Geraint Jones a Dafydd Williams, ''Trefor'', (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2006), tt.40-42.</ref> Roedd y William Bott hwn ymysg y Saeson cyntaf a ddaeth i weithio i'r gwaith o ardal Caerlŷr, lle roedd nifer o chwareli ithfaen eisoes yn gweithredu. Daeth i Drefor tua 1860 o bentref chwarelyddol Markfield (tua 5 milltir y tu allan i ddinas Caerlŷr) gyda'r wraig Mary, a oedd yn dod o bentref Groby gerllaw Markfield. Mae rhai o'u disgynyddion yn dal i fyw yn Nhrefor o hyd.  
Ar ôl iddo gael ei sefydlu ym 1856 tyfodd pentref [[Trefor]] yn gymharol gyflym wrth i'r chwarel ithfaen gynyddu ac ehangu gan ddenu gweithwyr newydd. Yn naturiol gyda'r cynnydd daeth galw am siopau i fwydo'r boblogaeth gynyddol. Gwelodd y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] - a oedd yn berchen ar [[Chwarel Craig y Farchas]] - ei gyfle ac ym Mehefin 1866, ddegawd ar ôl sefydlu'r pentref newydd, agorodd y Cwmni siop yn adeiladau ei swyddfa yn y [[West End, Trefor|West End]]. Roedd nwyddau ar gyfer y siop yn cael eu mewnforio o Lerpwl yn llongau'r cwmni ar eu taith yn eu holau i Drefor ar ôl cario cerrig sets y chwarel i'r ddinas honno. Cai'r nwyddau wedyn eu cludo o'r harbwr yn wagenni'r cwmni ar hyd y [[Tramffordd Chwarel Craig y Farchas|dramffordd]] i'r siop. Bu cwyno o'r dechrau nad oedd llawer o ddewis o ran nwyddau yn y siop a bod y prisiau'n uchel. Os oedd y cwsmeriaid yn methu â thalu am y nwyddau ar law fe ganiateid wythnos o goel iddynt, ond wedyn roedd hawl gan y cwmni i dynnu'r arian dyledus yn syth o gyflogau'r chwarelwyr. Nod y cwmni oedd gweld o leiaf draean o gyflogau'r dynion yn dod yn ôl i'w goffrau. Gyda'r nos yn unig roedd y siop yn agored i ddechrau ond, ymhen ychydig, penodwyd rheolwr i fod yn gyfrifol amdani ac ymestynnwyd yr oriau agor. Fodd bynnag, ni fu bri ar y siop hon a chaeodd yn Ebrill 1867 ar ôl gweithredu am ddim ond 11 mis a pheri cryn golled i'r cwmni. Yn ogystal â'r prisiau ei hanfantais fawr oedd ei bod hanner milltir a mwy o'r pentref a doedd gwragedd y chwarelwyr ddim eisiau llusgo yno ymhob tywydd. Hefyd roedd rhai wedi gweld eu cyfle i agor siopau bychain yn eu cartrefi a chynnig nwyddau ar well telerau na siop y cwmni. Prynwyd stoc siop y Cwmni Ithfaen Cymreig gan William Bott a agorodd siop newydd yn ei dŷ yn 3 Trefor Row (56 Ffordd yr Eifl erbyn hyn). Cododd gwt bychan o goed a sinc yn y cefn i gadw'r nwyddau.<ref>Geraint Jones a Dafydd Williams, ''Trefor'', (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2006), tt.40-42.</ref> Roedd y William Bott hwn ymysg y Saeson cyntaf a ddaeth i weithio i'r gwaith o ardal Caerlŷr, lle roedd nifer o chwareli ithfaen eisoes yn gweithredu. Daeth i Drefor tua 1860 o bentref chwarelyddol Markfield (tua 5 milltir y tu allan i ddinas Caerlŷr) gyda'r wraig Mary, a oedd yn dod o bentref Groby gerllaw Markfield. Mae rhai o'u disgynyddion yn dal i fyw yn Nhrefor o hyd.  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


[[Categori:Siopau]]
[[Categori:Siopau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:00, 21 Hydref 2021

Sefydlwyd Siop y Cwmni Ithfaen Cymreig ym 1866.

Ar ôl iddo gael ei sefydlu ym 1856 tyfodd pentref Trefor yn gymharol gyflym wrth i'r chwarel ithfaen gynyddu ac ehangu gan ddenu gweithwyr newydd. Yn naturiol gyda'r cynnydd daeth galw am siopau i fwydo'r boblogaeth gynyddol. Gwelodd y Cwmni Ithfaen Cymreig - a oedd yn berchen ar Chwarel Craig y Farchas - ei gyfle ac ym Mehefin 1866, ddegawd ar ôl sefydlu'r pentref newydd, agorodd y Cwmni siop yn adeiladau ei swyddfa yn y West End. Roedd nwyddau ar gyfer y siop yn cael eu mewnforio o Lerpwl yn llongau'r cwmni ar eu taith yn eu holau i Drefor ar ôl cario cerrig sets y chwarel i'r ddinas honno. Cai'r nwyddau wedyn eu cludo o'r harbwr yn wagenni'r cwmni ar hyd y dramffordd i'r siop. Bu cwyno o'r dechrau nad oedd llawer o ddewis o ran nwyddau yn y siop a bod y prisiau'n uchel. Os oedd y cwsmeriaid yn methu â thalu am y nwyddau ar law fe ganiateid wythnos o goel iddynt, ond wedyn roedd hawl gan y cwmni i dynnu'r arian dyledus yn syth o gyflogau'r chwarelwyr. Nod y cwmni oedd gweld o leiaf draean o gyflogau'r dynion yn dod yn ôl i'w goffrau. Gyda'r nos yn unig roedd y siop yn agored i ddechrau ond, ymhen ychydig, penodwyd rheolwr i fod yn gyfrifol amdani ac ymestynnwyd yr oriau agor. Fodd bynnag, ni fu bri ar y siop hon a chaeodd yn Ebrill 1867 ar ôl gweithredu am ddim ond 11 mis a pheri cryn golled i'r cwmni. Yn ogystal â'r prisiau ei hanfantais fawr oedd ei bod hanner milltir a mwy o'r pentref a doedd gwragedd y chwarelwyr ddim eisiau llusgo yno ymhob tywydd. Hefyd roedd rhai wedi gweld eu cyfle i agor siopau bychain yn eu cartrefi a chynnig nwyddau ar well telerau na siop y cwmni. Prynwyd stoc siop y Cwmni Ithfaen Cymreig gan William Bott a agorodd siop newydd yn ei dŷ yn 3 Trefor Row (56 Ffordd yr Eifl erbyn hyn). Cododd gwt bychan o goed a sinc yn y cefn i gadw'r nwyddau.[1] Roedd y William Bott hwn ymysg y Saeson cyntaf a ddaeth i weithio i'r gwaith o ardal Caerlŷr, lle roedd nifer o chwareli ithfaen eisoes yn gweithredu. Daeth i Drefor tua 1860 o bentref chwarelyddol Markfield (tua 5 milltir y tu allan i ddinas Caerlŷr) gyda'r wraig Mary, a oedd yn dod o bentref Groby gerllaw Markfield. Mae rhai o'u disgynyddion yn dal i fyw yn Nhrefor o hyd.

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones a Dafydd Williams, Trefor, (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, 2006), tt.40-42.