New Inn, Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 14: | Llinell 14: | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[ | [[Categori:Tafarndai]] |
Fersiwn yn ôl 17:01, 17 Hydref 2021
Roedd y New Inn yn un o ddwy dafarn Clynnog Fawr. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, yn union i'r de o fynwent yr eglwys. Erbyn heddiw fe'i gelwir yn "Bod Fasarn". Mae hen ddresel a fu ym Mod Fasarn wedi iddo beidio â bod yn dafarn i'w gweld yn yr Ysgoldy, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.
Nid oes sicrwydd ers pa oes oedd y New Inn wedi bod yn dafarn, ond mae hi'n cael ei henwi mewn gweithred dyddiedig 1769, pan oedd hi'n cael ei chyfeirio ati fel "New Inn alias Tŷ Cerrig". Ar y pryd roedd yn gysylltiedig â thiroedd eraill yn cynnwys Bachwen, Graeanog, Melin Bryn-y-gro, Melin Faesog, Coch-y-big a Henbont yn y plwyf, a llawer o dir yn Sir Fôn.[1]
Ceir cofnod ym mis Medi 1824 ymysg bondiau yn amodrwymo tafarnwyr Sir Gaernarfon mai Margaret Thomas oedd y sawl a gadwai'r dafarn yr adeg honno.[2]
Erbyn 1832 os nad cynt, roedd y dafarn yn gysylltiedig yn benodol â Bachwen, pan werthwyd y ddau eiddo gan Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley o Faron Hill, Biwmares i Griffith Jones o Blas Tan-yr-allt.[3]
Adeg creu'r mapiau degwm tua 1840, roedd Bachwen a'r New Inn yn cael eu rhestru fel eiddo Griffith Jones, yswain, a nodwyd mai Robert John Thomas oedd tenant y New Inn. Ynghyd â'r dafarn ei hun yr oedd 4 cae bach yn ymestyn dros tua 4 acer o dir, a'r rheiny'n borfa, dol a thir âr.[4]
Erbyn 1895, roedd y dafarn yn eiddo i A.H. Acland Syr Arthur Acland). Mae'n bur debyg iddo ei phrynu ym 1880. Ysgrifenodd Acland at Frederick G. Wynn, Glynllifon, ym 1895 i'w hysbysu fel cyfaill na fyddai'n edrych i ail drwyddedu'r dafarn gan fod Gwesty'r Beuno, eiddo i Wynn, yn dafarn barchus a na fynnai weld cystadleuaeth. Roedd John Roberts, medai Acland, yn ddyn o gymeriad gwael ac na hoffai ei weld yn codi tafarn newydd ar dir Maesglas, Clynnog, fel y bwriedid, ac felly byddai'n gwrthwynebu hynny.[5] Yn bur debyg, fel gwleidydd Rhyddfrydol ar adeg mawr dirwest yng Nghymru, roedd yn ddigon hapus i weld trwydded yn dod i ben hyd yn oed ar ei eiddo ei hun.