Eirug Wyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 29: Llinell 29:


==Lol==
==Lol==
Am gyfnod sylweddol bu'n gysylltiedig â chyhoeddi ''Lol'', cylchgrawn pryfoclyd a feirniadai ffigyrau malwg yn y byd cyhoeddus Cymraeg am unrhyw arwydd honedig o ragfarn neu Seisnigdod. Arweiniai hyn yn y diwedd at achos llys gan un Cymro amlwg yn ei erbyn oedd yn peri anawsterau ariannol dybryd i Eirug Wyn. Er gwaethaf yr aberth bersonol a wnaed gan Eirug Wyn ei hun a'i deulu, daeth allan o'r busnes gyda'i enw da'n fwy cadarn, oherwydd y gefnogaeth eang a gafwyd gan bobl oedd yn gwerthfawrogi ei safbwynt. Yn sicr, y tu allan i'r swigen gyfryngol yng Nghaerdydd, nid oedd fawr neb yn meddwl yn llai ohono.<ref>Erthygl Wicipedia ar Eirug Wyn, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Eirug_Wyn], cyrchwyd 26.9.2021; Gwybodaeth leol a phersonol </ref>
Am gyfnod sylweddol bu'n gysylltiedig â chyhoeddi ''Lol'', cylchgrawn pryfoclyd a feirniadai ffigyrau malwg yn y byd cyhoeddus Cymraeg am unrhyw arwydd honedig o ragfarn neu Seisnigdod. Arweiniai hyn yn y diwedd at achos llys gan un Cymro amlwg yn ei erbyn oedd yn peri anawsterau ariannol dybryd i Eirug Wyn. Er gwaethaf yr aberth bersonol a wnaed gan Eirug Wyn ei hun a'i deulu, daeth allan o'r busnes gyda'i enw da'n fwy cadarn, oherwydd y gefnogaeth eang a gafwyd gan bobl oedd yn gwerthfawrogi ei safbwynt. Yn sicr, y tu allan i'r swigen gyfryngol yng Nghaerdydd, nid oedd fawr neb yn meddwl yn llai ohono oherwydd yr hyn a ddywedodd.<ref>Erthygl Wicipedia ar Eirug Wyn, [https://cy.wikipedia.org/wiki/Eirug_Wyn], cyrchwyd 26.9.2021; Gwybodaeth leol a phersonol </ref>
 
==Nodyn dadamwyso==
Ni ddylid cymysgu Y Prif Lenor Eirug Wyn gydag Eurig Wyn, ASE, o'r Waunfawr, a adnebid fel "Eurig Wyn y Blaid" yn lleol. Sylwer ar y sillafiad gwahanol.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Fersiwn yn ôl 09:56, 27 Medi 2021

Llenor Cymraeg oedd y Prif Lenor Eirug Wyn (1950–2004).

Bywgraffiad

Cafodd ei eni ym mhentref Llan, ger Llanbryn-mair, Sir Drefaldwyn) yn fab i weinidog, y Parch John Price Wynne. Ym 1958 symudodd y teulu i Ddeiniolen. Mynychodd Ysgol Gynradd Eglwys Llandinorwig ac wedyn Ysgol Brynrefail, Llanrug. Yn fachgen ysgol fe ddechreuodd yr ymgyrch i roi plat D am ddysgwr gyrru ar gar yn lle y plât L, a oedd yn anghyfreithlon ar y pryd. Fe enillwyd y frwydr.

Astudiodd yng Ngholeg y Drindod, [[Caerfyrddin ac ym 1972 sefydlodd Siop y Pentan yng Nghaerfyrddin, gyda dau bartner arall, Wyn Thomas a William Lloyd. Wedyn symudodd i'r gogledd a sefydlu Siop y Pentan yng Nghaernarfon yn 1977 ac wedyn ym Mangor. [1]. Ymsefydlodd yn Y Groeslon lle bu nes iddo farw o ganser ym 2004. Fel un oedd ar dân dros y Gymraeg, bu'n weithgar yn ceisio cael hyd i nwyddau â'r Gymraeg arnynt: llwyddodd i sicrhau oriorau digidol gydag ysgrifen yn y Gymraeg, cynhyrchu poteli llawn cannwr a chwistrellau lladd aroglau (a elwid yn "rhech-sgrwbiwr"!) a phethau cyffelyb - cynnyrch od yng nghanol y llyfrau yn Siop y Pentan.

Roedd yn cael ei adnabod am ei synnwyr digrifwch unigryw a beiddgar. Fe adroddir hanesion amdano o hyd yn y gymdogaeth, storïau fel yr un amdano'n benthyca gwisg arolygydd yr heddlu a rhoi braw i dafarnwraig a chwsmeriaid Tafarn y Goat, Llanwnda ryw noson a hithau ymhell wedi amser cau, trwy alw yno a mynnu esboniad am yr ymddygiad gwarthus a meddwol - cyn i rywun sylweddoli yn y diwedd mai Eirug yn cael sbort oedd yno!

Gwaith llenyddol

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 am Blodyn Tatws ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Llanelli 2000 am Tri Mochyn Bach. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Nedd a'r cyffiniau 1994 am Smoc Gron Bach ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 am Bitch.

Ysgrifennodd 15 o lyfrau a chyhoeddodd lyfrau dan y ffugenw Derek Tomos (barddoniaeth) a Myfi Derek (hunangofiant).

Llyfryddiaeth

Lol

Am gyfnod sylweddol bu'n gysylltiedig â chyhoeddi Lol, cylchgrawn pryfoclyd a feirniadai ffigyrau malwg yn y byd cyhoeddus Cymraeg am unrhyw arwydd honedig o ragfarn neu Seisnigdod. Arweiniai hyn yn y diwedd at achos llys gan un Cymro amlwg yn ei erbyn oedd yn peri anawsterau ariannol dybryd i Eirug Wyn. Er gwaethaf yr aberth bersonol a wnaed gan Eirug Wyn ei hun a'i deulu, daeth allan o'r busnes gyda'i enw da'n fwy cadarn, oherwydd y gefnogaeth eang a gafwyd gan bobl oedd yn gwerthfawrogi ei safbwynt. Yn sicr, y tu allan i'r swigen gyfryngol yng Nghaerdydd, nid oedd fawr neb yn meddwl yn llai ohono oherwydd yr hyn a ddywedodd.[2]

Nodyn dadamwyso

Ni ddylid cymysgu Y Prif Lenor Eirug Wyn gydag Eurig Wyn, ASE, o'r Waunfawr, a adnebid fel "Eurig Wyn y Blaid" yn lleol. Sylwer ar y sillafiad gwahanol.

Cyfeiriadau

  1. Cofio Eirug Gol: Emyr Llewelyn Gruffudd Cyh:Y Lolfa 2004
  2. Erthygl Wicipedia ar Eirug Wyn, [1], cyrchwyd 26.9.2021; Gwybodaeth leol a phersonol