John Williams (J.W. Llundain): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 14: Llinell 14:


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Diwydianwyr a chyfalafwyr]]
[[Categori:Diwydianwyr a Chyfalafwyr]]

Fersiwn yn ôl 10:38, 26 Awst 2021

Masnachwr llechi a golygydd papur newydd oedd John Williams (1872-1944).

Ganwyd John Williams yn Nhŷ’r Capel, Rhostryfan yn 1872. Roedd yn frawd i W. Gilbert Williams.

Dechreuodd weithio yn Chwarel y Braich cyn mudo i Lerpwl. Gweithiodd fel clerc i adeiladwr am gyfnod, cyn symud wedyn i Lundain. Gweithiodd yno fel goruchwyliwr busnes llechi a gwaith toi. Priododd a Margaret Jane, ail ferch Edward Lloyd, Pen-y-fron, Dinbych. Ganwyd iddynt ddwy ferch a dau fab.

Ym Medi 1923, dechreuodd gwmni masnachu defnyddiau toi ei hun, gyda’i fab hynaf yn glerc. Bu'n brysur oherwydd yr angen i adeiladu rhwng y ddwy ryfel byd.

Nid masnachu oedd unig waith y gŵr yma. Roedd yn gyfrifol am olygu papur newydd ‘Y Ddolen’ – sef papur Cymraeg Llundain, ac roedd yn darlithio i gymdeithasau amryw ac yn cyfrannu at ‘Y Brython’. Cyhoeddodd ei hunangofiant yn 1943 – Hynt Gwerinwr. Roedd yn byw yng Ngwynfa, Llandwrog nes ei farwolaeth ym 1944.[1]

Cyfeiriadau